Mae'r dysgwyr yn casglu data ac yna'n creu/fformatio eu taenlen eu hunain (e.e. Excel, Google Sheets), a gallant wedyn greu siartiau amrywiol o'r data a gesglir, e.e. siart bar/siart cylch/siart ‘radar’/graff llinell.
Mae'r dysgwyr yn fformatio'r siartiau a grëwyd trwy ychwanegu teitl, labelu'r echelinau, newid y lliw cefndir, ac ati.
Mae'r dysgwyr yn gwneud cynnydd yn eu defnydd o daenlenni trwy gynyddu amrywiaeth y data a ddefnyddir, a'u trin â fformiwlâu syml, e.e. Adio =(G2+F2+H2), Tynnu =(G2-F2), Lluosi =(G2*H2), Rhannu =(G2/F2), Swm =SUM(G2:H2).
Pan fydd y dysgwyr yn gallu mewnbynnu fformiwlâu, gallant archwilio perthynas y fformiwlâu wrth newid gwerthoedd, ac ati. Gall y dysgwyr gynyddu cymhlethdod trwy ddefnyddio amrywiaeth o fformiwlâu, er enghraifft: Uchafswm =MAX(G2:H2), Lleiafswm =MIN(G2:H2), Cyfartaledd =AVERAGE(G2:H2). Gallant wedyn ddechrau gofyn cwestiynau ‘Beth os’ i ragweld canlyniad newid elfennau data unigol. Maent yn dechrau modelu sefyllfaoedd posib, er enghraifft, os fyddai cost eitem yn cynyddu beth fyddai effaith hyn ar yr elw?