Meddwl cyfrifiadurol yw ffordd o ddylunio datrysiadau i broblemau. Mae’n ffordd o rannu problemau cymhleth yn ddarnau llai sy’n hylaw, adnabod patrymau a chreu modelau i ddeall a datrys problemau. Mae meddwl cyfrifiadurol yn sgil meddwl a fydd yn helpu pobl i ddatrys problemau yn fwy effeithlon.
Rhaglennu, neu godio, yw’r broses o roi cyfarwyddiadau i gyfrifiadur gan ddefnyddio iaith raglennu benodol fel y gall berfformio tasg benodol neu ddatrys problem. Meddyliwch amdano fel rhoi set o gyfarwyddiadau i robot, fel y gall wneud rhywbeth yr ydych chi eisiau. Fel rhoi rysáit i gogydd er mwyn iddo allu coginio pryd yr ydych chi am ei fwyta.