Mae creu fideos yn gallu bod yn ffordd hwyliog a chreadigol i gyfoethogi’r profiad dysgu i ddisgyblion. Mae’n agor cyfleoedd ym mhob maes dysgu a phrofiad i ddisgyblion ddefnyddio’u creadigedd a’u dychymyg i ddod ag unrhyw bwnc yn fyw. Gall fideos amrywio o fod yn rhai sy’n rhoi cyfarwyddiadau a gwybodaeth, i fod yn ffuglennol a sinematig. Gallant fod mor fyr neu mor hir ag sydd angen, ac fel arfer maent wedi’u hanelu at gynulleidfa benodol. I’r disgyblion hynny sydd â sgiliau cynhyrchu fideo da, efallai y byddant eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant cyfryngau creadigol, mewn rolau fel ysgrifenwyr sgript, technegwyr sain, gweithredwyr camera, golygyddion, cyfarwyddwyr neu gynhyrchwyr. Mae cysylltiadau cryf rhwng cynhyrchu fideo a llythrennedd, gan fod fideos yn aml yn cynnwys rhyw fath o ddeialog neu naratif.