Gwybodaeth
Mae'r mapiau cynnydd hyn wedi'u creu i helpu ymarferwyr i gynllunio ar gyfer datblygiad cynyddol ym medrau digidol dysgwyr. Maent wedi’u strwythuro yn unol â gwahanol fathau o waith digidol ac wedi’u llunio ochr yn ochr â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn ogystal â’r llinyn cyfrifiaduraeth o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Gellir eu defnyddio i:
helpu athrawon i gynllunio ar gyfer datblygu medrau dysgwyr.
sicrhau lefel priodol o her ac uchelgais mewn tasgau.
cynorthwyo gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu.
cynorthwyo ysgolion a chlystyrau i gynllunio ar gyfer dilyniant mewn tasgau digidol.
datblygu dulliau cyson ysgol gyfan o ddatblygu dysgu digidol.