Mae’r BBC Micro:bit yn ddyfais y gellir ei rhaglennu ac sy’n caniatáu i ddisgyblion gael profiad o godio a gwaith creu digidol. Fe’i defnyddir i ysbrydoli dysgwyr i gydnabod pŵer technoleg yn y byd go iawn. Y golygydd swyddogol seiliedig ar flociau yw Microsoft MakeCode, a’r offeryn rhaglennu seiliedig ar destun yw golygydd Python Micro:bit. Mae’r BBC Micro:bit hefyd yn gweithio gyda Scratch, Code.org App Lab ac amrywiaeth eang o offer/olygyddion eraill.
Microsoft MakeCode yw’r ffordd berffaith o ddechrau rhaglennu a mynd ati i greu gyda’r BBC Micro:bit. Mae’r blociau wedi’u codio â lliwiau yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi defnyddio Scratch yn flaenorol, ac eto’n ddigon pwerus i gyrchu holl nodweddion y cyfrifiadur pitw bach hwn. Gallwch hefyd newid i JavaScript i weld y cod seiliedig ar destun y tu ôl i’r blociau.
Mae golygydd Python Micro:bit wedi’i ddylunio’n benodol â’r rheiny sy’n newydd i godio seiliedig ar destun mewn golwg. Nod y rhyngwyneb llachar, lliwgar a’r ystod o nodweddion yw lleihau’r rhwystr i ddechrau arni, ac maent wedi’u cynllunio i apelio at amrywiaeth eang o ddysgwyr.
Mae’r ddogfen hon yn dangos y modd y gellir datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â Micro:bit o gamau cynnydd 3 i 5. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi eich gwaith cynllunio ar gyfer gweithgareddau trwy sicrhau bod y cynnydd priodol mewn sgiliau a lefel yr her yn addas ar gyfer y dysgwyr.