Mae system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) yn system a gynlluniwyd i gipio, storio, trin, dadansoddi, rheoli a chyflwyno pob math o ddata daearyddol. Y gair sy'n allweddol i'r dechnoleg hon yw daearyddol – mae hyn yn golygu bod rhywfaint o'r data yn ofodol. Hynny yw, data sydd mewn rhyw ffordd yn cyfeirio at leoliadau ar y Ddaear.
Fel arfer, daw data tablaidd, a elwir yn ddata priodoledd, law yn llaw â'r data hyn. Yn gyffredinol, gellir diffinio data priodoledd fel gwybodaeth ychwanegol am bob un o'r nodweddion gofodol. Enghraifft o hyn fyddai ysgolion. Lleoliad penodol yr ysgolion yw'r data gofodol. Byddai data ychwanegol megis enw'r ysgol, lefel yr addysg a addysgir, a nifer y disgyblion yn ffurfio'r data priodoledd.
Y bartneriaeth rhwng y ddau fath hyn o ddata sy'n galluogi GIS i fod yn offeryn mor effeithiol ar gyfer datrys problemau trwy ddadansoddiadau gofodol. Gellir defnyddio GIS fel offeryn i ddatrys problemau ac mewn prosesau gwneud penderfyniadau, yn ogystal ag ar gyfer delweddu data mewn amgylchedd gofodol. Gellir dadansoddi data geo-ofodol i bennu:
• lleoliad nodweddion a'u perthnasoedd â nodweddion eraill
• lle y mae'r nifer mwyaf a/neu leiaf o nodwedd benodol yn bodoli
• dwyster nodweddion mewn gofod penodol
• yr hyn sy'n digwydd mewn ardal o ddiddordeb
• yr hyn sy'n digwydd gerllaw nodwedd neu ffenomen benodol
• y modd y mae ardal benodol wedi newid dros amser (ac ym mha fodd)