Trin data yw’r broses o gasglu, trefnu, dadansoddi a dehongli data. Mae’n golygu casglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, megis arolygon, arbrofion neu arsylwadau, ac yna ddidoli a dosbarthu’r data mewn ffordd sy’n eu gwneud yn hawdd eu deall a’u dadansoddi. Yna dadansoddir y data i chwilio am batrymau, tueddiadau neu berthnasoedd, a defnyddir yr wybodaeth i ddod i gasgliadau neu i gael canlyniadau rhesymegol.
Nod trin data yw echdynnu gwybodaeth ystyrlon a defnyddiol o’r data. Gellir defnyddio meddalwedd megis j2data, Google Sheets a Microsoft Excel ar gyfer tasgau trin data. Mae i bob un ohonynt ei chryfderau a’i gwendidau, a gall defnyddwyr ddewis yr un sy’n gweddu orau i’w hanghenion a’u dewisiadau. Mae’r cyflwyniad hwn yn dangos y modd y gellir datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chronfeydd data o gamau cynnydd 1 i 5. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi eich gwaith cynllunio ar gyfer eich gweithgareddau trwy sicrhau bod y cynnydd priodol mewn sgiliau a lefel yr her yn addas ar gyfer y dysgwyr.