Gall disgyblion ddefnyddio sgôr graffig / dilyn cyfarwyddyd cerddorol syml neu amlinellu'r prosiect cynhyrchu cerddoriaeth sy'n cynnwys syniadau ar gyfer strwythur, tempo, alaw, harmoni ac offeryniaeth y gerddoriaeth. Dylai dysgwyr ddefnyddio amrywiaeth o synau, offerynnau ac effeithiau i greu darn o gerddoriaeth gydlynol unigryw. Dylent gynnwys defnydd effeithiol o ddolenni, samplau a golygu digidol i adeiladu cyfansoddiad wrth ystyried haenu meddylgar seiniau ac offerynnau i greu ymdeimlad o ddyfnder a chyfoeth i'r gerddoriaeth. Dylai dysgwyr ymgorffori technegau gwahanol i greu diddordeb ac amrywiaeth yn y gerddoriaeth megis, newidiadau mewn tempo, allweddi neu offeryniaeth.