Mae Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) yn cynnwys defnyddio meddalwedd i greu dyluniadau 2D neu 3D y gellir eu datblygu'n gynhyrchion go iawn. Mewn ysgolion, mae CAD yn helpu dysgwyr i gyfuno meddwl creadigol â sgiliau datrys problemau, tra’n archwilio offerynnau digidol a ddefnyddir gan beirianwyr, penseiri a dylunwyr.
Mae argraffu 3D yn ychwanegu dimensiwn cyffrous at CAD. Gall disgyblion wireddu eu dyluniadau drwy gynhyrchu prototeipiau pendant, gan atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng dylunio digidol a’r byd go iawn. Mae'r broses ymarferol hon yn annog ailadrodd, gwydnwch, a chymhwyso yn y byd go iawn - oll yn allweddol o ran y Cwricwlwm i Gymru a'r pedwar diben.