Mae’r disgyblion yn dangos fod ganddynt ddealltwriaeth dda, sy’n gynyddol gymhleth, o egwyddorion dylunio allweddol fel cyferbyniad, hierarchaeth, ailadrodd, patrwm ac undod, ac yn gallu mynd ati’n annibynnol i greu graffeg neu ffeithluniau i amrywiaeth o ddibenion e.e. marchnata, brandio, rhannu gwybodaeth ac ati. Mae safon a chyflwyniad eu ffeithluniau yn arwain at bwysleisio negeseuon allweddol. Gall disgyblion gynllunio’n fanwl eu defnydd o graffeg gan ddiffinio dimensiynau eu graffeg a thrafod y dulliau priodol o rannu h.y. llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gwefannau i dargedu cynulleidfaoedd penodol. Maent yn ystyried manteision a chyfyngiadau ysgolion dylunio digidol a ffynonellau gwybodaeth i sicrhau eu bod nhw o’r ansawdd gorau posibl i’r gynulleidfa a’r diben. Maent yn archwilio ac yn defnyddio technegau trin delweddau yn effeithiol i gyfoethogi gosodiad eu ffeithlun ac yn defnyddio tudalennau neu dempledi meistr yn dda pan fo hynny’n briodol. Mae’r cynnyrch terfynol yn addas i’w gynulleidfa a’r diben ac mae’r disgyblion yn gallu rhoi cyfiawnhad clir dros y dewis o gyfrwng ac egluro manteision ac anfanteision yr allbwn maent wedi’i greu. Gallant awgrymu a chyfiawnhau adborth yn feirniadol a gwneud gwelliannau eu hunain, a gan eraill, drwy gorffori’r defnydd o offer adolygu cydweithredol yn y gweithgaredd sy’n berthnasol i gynulleidfa a diben yr allbynnau, ar sail adborth a hunan werthusiad o’r gwaith digidol.