Podlediad yw sioe sain sy'n cael ei recordio a'i rhannu drwy wasanaethau ffrydio fel Spotify, BBC Sound, Apple Music (a llawer mwy!) Maen nhw'n cael eu creu fel bod y gynulleidfa yn gallu gwrando ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw ac maent yn aml ar ffurf cyfres o benodau. Fel arfer, maen nhw'n cynnwys mwy nag un person ac yn tueddu i ddilyn patrwm strwythuredig ond eto anffurfiol. Mae modd creu podlediad ar unrhyw destun, bron! Mewn ysgolion, gallai podlediad fod yn ffordd wych i gyflwyno gwybodaeth, trafod pynciau llosg neu edrych ar syniadau a'u datblygu.