HELO BLWYDDYN 7! Gobeithio eich bod i gyd yn iawn. Cofiwch gysylltu gyda Mr Ellis os oes problem: GEllis@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk
Dechreuwch eich diwrnod gyda rhyw fath o ymarfer corff.
Mae llu o syniadau ar ein gwefan Iechyd a Lles:
https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Gwyliwch yr arbrawf dyddiol o Techniquest.
Peidiwch â thrio'r arbrofion hyn yn y ty!
Mae rhai ohonynt yn edrych braidd yn beryglus!
Darllenwch y darn hwn am y gwahanol gymeriadau stoc yn y dramâu sy'n cael eu galw'n Commedia dell'Arte
Nawr gwyliwch y clip hwn sy'n dangos symudiadau corff y gwahanol gymeriadau mewn Commedia dell'Arte:
Tasg 5 munud: Cerddwch o amgylch y ty, gan ddefnyddio siap a symudiadau corff un o'r cymeriadau mewn Commedia dell'Arte! Defnyddiwch y fideos fel ysbrydoliaeth a syniadau.
Familiarise yourselves with the following words on Quizlet BEFORE WATCHING THE CLIP:
https://quizlet.com/_89ay7w?x=1qqt&i=1rbler
Then, watch the TED clip on Is there any truth to the King Arthur legends?
Can you spot any Welsh words used in the clip?
Gwaith yn y llyfryn: Heddiw bydd angen i chi ddarllen am Ganolbwynt Llinellau yn y Pedwar Pedrant ar dudalen 12, yna cwblhau ymarfer 15, 16 a 17. Dechreuwch drwy wylio'r fideo isod.
If your child is continuing with the booklet, today's tasks are reading page 12 and completing exercises number 15,16 and 17. Start by watching the video below.
Diolch i @Mathemateg, sef Dr Gareth Evans o Ysgol y Creuddyn am y llyfryn gwych!
Dyma gyfle euraidd i chi ddysgu eich tablau'n berffaith:
https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Profwch eich hunan fesul tabl yma yn y ffeiliau Quizlet: https://quizlet.com/class/14188490/
Os ydych chi wedi gorffen y gwaith Maths yn gyflym, efallai yr hoffech wahanol heriau ychwanegol am weddill yr wythnos. Cliciwch ar y top ar y dde er mwyn agor y ddogfen.
These are extension Maths tasks for the whole week, for pupils who would like an extra challenge. They are not compulsory for all.
Dyma wahanol weithgareddau ar gyfer dysgu geirfa heddiw:
Jigso gern / nicht gern: https://www.jigsawplanet.com/?rc=play&pid=347255315cee
Gimkit Berfau Meine Freizeit: https://www.gimkit.com/play/5e751b0d0edc980022e6392f
Quizizz Berfau ich / er / wir: http://quizizz.com/join?gc=327854
Dysgwch yr eirfa bwysig yma ar gyfer astudio Hanes. Dyma'r un eirfa â ddoe.
Profwch eich hunan eto heddiw gyda'r gwahanol gwisiau:
Geirfa Hanes: https://quizlet.com/498969959/geirfa-hanes-1-blwyddyn-7-flash-cards/
Geirfa Hanes mewn brawddegau: https://quizlet.com/498970698/geirfa-hanes-2-blwyddyn-7-flash-cards/
Cwis Geirfa Hanes: http://quizizz.com/join?gc=556041
Gwyliwch y clip ar BBC Bitesize am Y ddau Dywysog Llywelyn:
Tasg 1: Gwyliwch a nodwch unrhyw air newydd a ffeindiwch ei ystyr yn y geiriadur
Tasg 2: Gwyliwch eto a cheisio nodi beth oedd problemau Llywelyn Fawr
Arlunio, creu comic ac animeiddio.
Mae fideos Huw Aaron i gyd ar ei gyfrif YouTube. Dilynwch y gwersi:
https://www.youtube.com/channel/UCjbHZGFNpOPW9w7vKixrNyQ/featured
Tasg: Trydarwch eich lluniau at @BroEdern a @HuwAaron #joio
Cyfrif Trydar Huw Aaron: https://twitter.com/huwaaron
Mae ymweliad rhithiol heddiw â'r lle yn Lloegr a elwir yn Côr y Cewri.
Yr enw Cymraeg ar Stonehenge yw Côr y Cewri.
Pam ydych chi'n credu mai dyma yw'r enw Cymraeg? Edrychwch ar y cerrig i benderfynu pam.
Cliciwch yma i ymweld â Chôr y Cewri:
Mae rhai arbenigwyr yn credu bod y cerrig wedi dod o Sir Benfro:
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35031237
Today's virtual visit is to Stonehenge. Click and enjoy!
Ar ôl i chi weld y bennod gyntaf yr wythnos diwethaf, gwyliwch ail bennod y gyfres BOOM, sy'n dangos arbrofion gwyddonol.
Geirfa Gwyddoniaeth:
https://quizlet.com/497481988/geirfa-bl7-flash-cards/
Geirfa Cerdd:
https://quizlet.com/498970617/geirfa-cerdd-1-blwyddyn-7-flash-cards/
Mewn blynyddoedd i ddod, bydd yn ddiddorol i chi fedru edrych nôl ar y cyfnod hwn ac atgoffa eich hunan o beth aeth ymlaen. Gallwch ysgrifennu'r dyddiadur mewn llyfr, ar bapur, ar lein fel blog - lan i chi:
Beth wnaethoch chi heddiw?
Beth wnaethoch chi fwyta?
Sut oeddech chi'n teimlo?
Am beth ydych chi wedi bod yn meddwl?
Beth oedd yn y newyddion heddiw?
Darllen llyfr - dylsech ddarllen am o leiaf hanner awr bob dydd
Ysgrifennu am lyfr (neu ysgrifennu llyfr!)
Tynnu llun (neu lawer o luniau)
Gwylio S4C: https://www.s4c.cymru/clic/
Cadw'n heini gyda holl syniadau'r Adran Add Gorff: https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Her keepy uppy: Dilynwch yr Adran Add Gorff i weld y diweddaraf ar https://twitter.com/AG_BroEdern
Ysgrifennu stori, sgript neu ddarn o farddoniaeth neu ddilynwch yr Her 10 Munud: https://authorfy.com/10minutechallenges
Gwneud gwaith creadigol o ryw fath
Ymarfer offeryn
Lliwio: https://emilyellenjames.myportfolio.com (am ddim!)
Gwersi arlunio ar-lein gyda Huw Aaron – un wers y dydd am 3pm: https://www.youtube.com/watch?v=jYGXCbvLu_o
Gweithgareddau amrywiol ar wefan yr Adran ITM: https://sites.google.com/hwbcymru.net/itmbroedern
Dysgu mwy o Almaeneg ar yr app Duolingo
Gwrando ar stori: https://stories.audible.com/discovery (mae holl straeon Audible am ddim am gyfnod!)
Llyfrau David Walliams – mae'r awdur poblogaidd David Walliams yn rhyddhau llyfr llafar bob dydd: https://www.worldofdavidwalliams.com/elevenses/
Darllen llyfr ar-lein: https://worldbook.kitaboo.com/ (dyma lawer o syniadau)
Dylunio cit newydd ar gyfer bl 8 y flwyddyn nesaf: https://twitter.com/AG_BroEdern/status/1242489061136187392?s=20
Gwylio fideos tablau: https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Ymarfer tablau: https://quizlet.com/class/14188490/
Gwylio perfformiad ar-lein, megis ballet, drama, neu hyd yn oed ychydig o Shakespeare: http://bit.ly/2QK9Zef (everything free of charge at the moment)
Gwylio arbrawf ar-lein: https://www.techniquest.org/daily-demos/
Gwersi ukulele gyda Mei Gwynedd: https://www.youtube.com/watch?v=iVT-ULFoCqw
Helpu gyda'r gwaith ty
Tacluso'ch ystafell wely
Helpu i baratoi bwyd
e-bostio aelod o'r teulu
Ffonio aelod o'r teulu i weld sut maen nhw