HELO BLWYDDYN 7! Gobeithio eich bod i gyd yn iawn. Cofiwch gysylltu gyda Mr Ellis os oes problem: GEllis@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk
Bore da! Dechreuwch eich diwrnod gyda rhyw fath o ymarfer corff.
Mae llu o syniadau ar ein gwefan Iechyd a Lles:
https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Yr awgrym cadw'n heini ar gyfer blwyddyn 7 heddiw yw:
Sesiwn HIIT gyda Steffan James
This is our keep fit suggestion for year 7 today. Length: 28 mins
☀️Gyda diwrnod hiraf y flwyddyn wedi bod dros y penwythnos, mae wir yn haf erbyn hyn. Amser i gael rhestr newydd o ganeuon hafaidd er mwyn i chi fwynhau yn y tywydd braf! Lawnsiwyd y rhestr newydd yma o ganeuon i gyd-fynd gyda'r Tafwyl Digidol dros y penwythnos.
Mae angen cyfrif Spotify er mwyn gwrando ar y rhestr, ond mae Spotify am ddim. Efallai fod cyfrif gan rywun yn eich teulu'n barod?
Cliwich ar luniau'r cantorion gwahanol er mwyn dechrau chwarae'r caneuon.
☀️Parents: This is the summer playlist we texted to all parents over the weekend to coincide with the Digital Tafwyl, which was held online on Saturday. It's a follow on from the previous spring playlist. This is a compilation of light, fun, contemporary, summery Welsh songs for you to enjoy as a family. Bring a bit of Welshness and sunshine into your home!
You need a Spotify account to listen to the list, which can be accessed on a phone, iPad or computer. A standard Spotify account, which will allow you to listen to the list, is free of charge. Click on the photos of the artists in order to play the songs.
Ers y Pasg, mae angen i chi anfon un dasg y dydd at eich athrawon, drwy Google Classroom.
Since Easter, pupils send one daily featured task to their teachers, through Google Classroom.
Dylsech chi fod wedi cwblhau'r holl waith ar y ddrama yr wythnos diwethaf yn barod ar gyfer y dasg olaf hon.
The Gold of Lies - theatre programme
Today we are ending our task based on our play called The Gold of Lies. Yesterday you should have drafted your text for the programme. Typing your programme, designing it and presenting it nicely is today's focus task. This is a big task, so you will need to think about it carefully. In order for you to have plenty of time to do this, we are cutting down on the number of tasks today, so that you can have plenty of time to finish the task properly. It should take you several pleasant hours.
Last week, on 3 separate days, you should have studied the 3 scenes in the play and answered questions.
If you have not yet done this, you must go back to Wednesday, Thursday and Friday last week and study the play by listening to the English Department teachers performing it for you. You should listen to the YouTube recording, while following your PDF copy. Then you need to answer the questions each day.
Today you need to design your programme for the play The Gold of Lies, the type of programme you would be able to buy if you went to see the play in the theatre. Yesterday you should have concentrated on the content of the programme.
This is your checklist for the work you completed yesterday. It should include:
A summary of the plot
List of characters
Pictures
Information about the actors (you can choose actors to play the different parts - famous or otherwise!)
List of music used during the performance (this is also your choice - which music would you choose?)
Maybe you need to listen to the play again in the background, as you work?
You may design your programme in any software or programme that you like.
Once you have finished, please remember to load it in Google Classroom.
The English Department is very excited to receive your work.
Parents: Today's focus task is an English task, based on the play The Gold of Lies. This is the play that pupils should have studied all last week. They must study the three acts before completing the task.
Cyfarwyddiadau i ddisgyblion
ar sut i ddefnyddio Google Classroom
Instructions for parents in English
on how to access Google Classroom
Dyma ffeiliau geirfa'r wythnos. Dysgwch nhw'n dda. Defnyddiwch bob opsiwn ar Quizlet i brofi eich hunan:
Geirfa Hamdden 7: https://quizlet.com/43409623/prawf-7-fy-amser-hamdden-blwyddyn-7-flash-cards/
Geirfa Hamdden 8: https://quizlet.com/43409949/prawf-8-fy-amser-hamdden-blwyddyn-7-flash-cards/
Parents: Here are two further Quizlet vocabulary sets related to the free time topic. Had they been in school, pupils would have had regular tests on these, therefore it is vital that they learn them at home and test themselves using the various options available.
Heddiw, gwyliwch fideo Ysgol y Strade, Llanelli, am y treiglad meddal. Mae'n llawer o hwyl! Gwyliwch y fideo gwpl o weithiau. Faint o'r rheolau ydych chi'n eu cofio?
Parents: Today pupils will watch this catchy video by Ysgol y Strade in Llanelli on the Treiglad Meddal (soft mutation). If the watch it several times, it should help them to remember the linguistic patterns.
Tasg ffocws heddiw - gweler uchod.
Cyfle heddiw i ddarllen am ein siopau'n ailagor.
Parents: The reading task today is about shops reopening and the fact that our shopping experience is now going to be very different.
🥇🥈🥉Heddiw byddwch chi'n cael cyfle i ymarfer berfau Freizeit ar Quizlet. Faint ydych chi'n eu gwybod ar y cof?
Berfau Freizeit: https://quizlet.com/2114208/bl-7-berfau-freizeit-flash-cards/
Lluniau Freizeit: https://quizlet.com/220316694/lluniau-meine-freizeit-bl-7-flash-cards/
Yna gallwch chi chwarae'r cwis lluniau ...
Parents: Quizlet files today to do some retrieval practice on verbs related to free time and hobbies. Then a picture quiz below ...
Jigso newydd yn Almaeneg heddiw: jigso gyda llun o ddinas Düsseldorf, gyda berfau gorffennol "ich habe ... gespielt" (rydw i wedi chwarae). Faint o'r brawddegau ydych chi'n eu cofio? A beth yw eu hystyr? Gobeithio eich bod chi'n cofio ...
Mae'r llun isod i chi gael dilyn, ac hefyd edrychwch ar y map i weld lleoliad Düsseldorf, sydd yng ngorllewin yr Almaen, heb fod yn bell o'r Iseldiroedd a Gwlad Belg.
🥉🥈35 darn: https://www.jigsawplanet.com/?rc=play&pid=0255153c3579
🥇99 darn: https://www.jigsawplanet.com/?rc=play&pid=0a16018d4933
A new jigsaw today - another German online jigsaw, this time with a photo of the city of Düsseldorf and past tense "gespielt" verbs (I have played).
See the completed picture for help, and see the map for Düsseldorf's location - not far from the Belgian border and the border with the Netherlands.
The difficult version has 99 pieces, and the easy one has 35 pieces. What about a family competition against the clock?!
🥇🥈🥉The colours indicate the difficulty of the tasks.
Dair gwaith yr wythnos, byddwch yn cael cwis ar Google Forms yn eich Google Classroom. Ddwywaith yr wythnos, byddwch yn ymarfer tablau.
Mae heddiw'n ddiwrnod tablau!
MAE'R LINC YN EICH GOOGLE CLASSROOM, FEL ARFER! Pob lwc!
Parents:
Three times a week, pupils will have a maths quiz in Google Forms, in their Google Classroom. The other two days they will practise their times tables. Today is a times tables day.
The Google Forms have been set up by the Maths Department, complete with feedback and answers, so that pupils can have instant feedback within Google Classroom.
Dyma gyfle euraidd i chi ddysgu eich tablau'n berffaith:
https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Profwch eich hunan fesul tabl yma yn y ffeiliau Quizlet: https://quizlet.com/class/14188490/
Your child has an unique opportunity to learn times tables off by heart during the lockdown. Here are videos and plenty of exercises.
https://www.s4c.cymru/clic/programme/809174654
Dyma'r rhaglen nesaf yn y gyfres gelf hon. Ymunwch gyda chriw Cer i Greu am ysbrydoliaeth. Yr wythnos hon, mae'r artist Mirain Fflur yn gosod her i'r Criw Creu greu darlun aml gyfrwng. Bydd Huw Aaron yn rhoi cyngor ar greu cartŵn a bydd Llyr Alun yn creu pyped o'r enw Maldwyn.
Parents: This is today's Welsh TV programme. It's from new series of art programmes for young people. You need to create an account on S4C Clic, the first time you log in. Pupils really should have an account by now!
We're trying to find something to please everyone, at some point. Still important that pupils hear Welsh every day, whatever the topic! Length: 18 mins
Dylech fod wedi gorffen o leiaf dau lyfr Audible erbyn hyn. Dewiswch lyfr newydd o wefan Audible, a gwrandewch ar y llyfr drwy'r wythnos.
Gwrandewch ar y llyfr tan y diwedd. Mae rhai o'r llyfrau'n hir, felly sicrhewch eich bod yn treulio digon o amser yn gwrando.
Pupils should have completed two Audible books by now, and should choose another. Some books are longer than others. Some may take more than a week to complete. Pupils should choose one and stick to it until the end, before choosing a new one. All the books listed are currently free of charge during the CoronaVirus outbreak.
🥇🥈🥉Is the book challenging enough?
Arlunio, creu comic ac animeiddio.
Mae'r fideos Criw Celf gan Huw Aaron i gyd ar ei gyfrif YouTube. Yn ystod y cyfnod dan glo mae e wedi creu 50 fideo i chi ddewis ohonynt. Dilynwch y gwersi:
https://www.youtube.com/channel/UCjbHZGFNpOPW9w7vKixrNyQ/featured
Dewiswch un o'r gwersi a dilynwch y cyfarwyddiadau. Gwnewch y gwaith ar bapur.
🥇🥈🥉Tasg: Trydarwch eich lluniau at @BroEdern a @HuwAaron #joio
Cyfrif Trydar Huw Aaron: https://twitter.com/huwaaron
Parents: Pupils need to choose one of Huw Aaron's Criw Celf lessons and follow the video all the way through, completing the drawing tasks and pausing the video, as necessary, to have enough time to complete their drawing work. He has filmed a total of 50 videos during the lockdown - plenty of choice! Pupils can use paper and a pen or pencils of their choice.
Dyma ail ddiwrnod Wythnos Wimbledon 🎾
Am fod y bencampwriaeth tenis wedi cael ei chanslo, bydd cyfle i chi fynd ar ymweliad rhithiol â Wimbledon bob dydd, am na fyddwch yn medru gweld y gystadleuaeth ar y teledu'n hwyrach yn y mis. Gwyliwch y fideos er mwyn dysgu am wahanol agweddau ar Wimbledon. Mefus enwog Wimbledon sydd dan sylw heddiw 🍓🍓🍓
Parents: This is the second day of Wimbeldon Week. We will go on virtual visits all week, to make up for the fact that the tennis championship has been cancelled. The videos represent different aspects of this impressive club and tournament. Today, a look at the famous Wimbledon strawberries 🍓🍓🍓
🥇Tasgau aur: Darllenwch yr erthyglau hyn am yr arian a enillir yn Wimbledon gan ddynion a menywod a'r tegwch neu'r diffyg tegwch am y mater:
https://www.weforum.org/agenda/2017/07/wimbledon-women-equal-prize-money/
https://payjustice.co.uk/blog/equal-pay-for-equal-work-at-wimbledon/
Gwyliwch y fideo byr hwn am y cyflogau yn Wimbledon: https://www.facebook.com/watch/?v=10154581188791479
Ar y map fe welwch leoliad Wimbledon, sydd i'r de orllewin o Lundain:
Mewn blynyddoedd i ddod, bydd yn ddiddorol i chi fedru edrych nôl ar y cyfnod hwn ac atgoffa eich hunan o beth aeth ymlaen. Gallwch ysgrifennu'r dyddiadur mewn llyfr, ar bapur, ar lein fel blog - lan i chi:
Beth wnaethoch chi heddiw?
Beth wnaethoch chi fwyta?
Sut oeddech chi'n teimlo?
Am beth ydych chi wedi bod yn meddwl?
Beth oedd yn y newyddion heddiw?
We would like pupils to continue to keep a daily diary. It will be a very interesting record of these strange times, when they look back in years to come.
Darllen llyfr - dylsech ddarllen am o leiaf hanner awr bob dydd
Ysgrifennu am lyfr (neu ysgrifennu llyfr!)
Tynnu llun (neu lawer o luniau)
Dysgu ac ymarfer cyffyrdd-deipio (touch typing): https://www.typingclub.com/
Gwylio S4C: https://www.s4c.cymru/clic/
Cadw'n heini gyda holl syniadau'r Adran Add Gorff: https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Her keepy uppy: Dilynwch yr Adran Add Gorff i weld y diweddaraf ar https://twitter.com/AG_BroEdern
Ysgrifennu stori, sgript neu ddarn o farddoniaeth neu ddilynwch yr Her 10 Munud: https://authorfy.com/10minutechallenges
Gwneud gwaith creadigol o ryw fath
Ymarfer offeryn
Lliwio: https://emilyellenjames.myportfolio.com (am ddim!)
Gwersi arlunio ar-lein gyda Huw Aaron – un wers y dydd am 3pm: https://www.youtube.com/watch?v=jYGXCbvLu_o
Gwersi arlunio ar-lein gydag Orielodl: https://www.youtube.com/user/MrRhyspadarn/videos
Gweithgareddau amrywiol ar wefan yr Adran ITM: https://sites.google.com/hwbcymru.net/itmbroedern
Dysgu mwy o Almaeneg ar yr app Duolingo
Darganfod byd Harry Potter: https://www.wizardingworld.com/collections/harry-potter-at-home
Gwrando ar stori: https://stories.audible.com/discovery (mae holl straeon Audible am ddim am gyfnod!)
Llyfrau David Walliams – mae'r awdur poblogaidd David Walliams yn rhyddhau llyfr llafar bob dydd: https://www.worldofdavidwalliams.com/elevenses/
Darllen llyfr ar-lein: https://worldbook.kitaboo.com/ (dyma lawer o syniadau)
Dylunio cit newydd ar gyfer bl 8 y flwyddyn nesaf: https://twitter.com/AG_BroEdern/status/1242489061136187392?s=20
Gwylio fideos tablau: https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Ymarfer tablau: https://quizlet.com/class/14188490/
Gwylio perfformiad ar-lein, megis ballet, drama, neu hyd yn oed ychydig o Shakespeare: http://bit.ly/2QK9Zef (popeth am ddim ar hyn o bryd)
Gwylio arbrawf ar-lein: https://www.techniquest.org/daily-demos/
Gwersi ukulele gyda Mei Gwynedd: https://www.youtube.com/watch?v=iVT-ULFoCqw
Helpu gyda'r gwaith ty
Tacluso'ch ystafell wely
Helpu i baratoi bwyd
e-bostio aelod o'r teulu
Ffonio aelod o'r teulu i weld sut maen nhw