HELO BLWYDDYN 7! Gobeithio eich bod i gyd yn iawn. Cofiwch gysylltu gyda Mr Ellis os oes problem: GEllis@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk
Tasg: Chwaraewch dric Ffwl Ebrill ar rywun yn eich teulu, ond dim byd rhy gas.
Cofiwch wneud hyn cyn 12pm amser cinio, neu chi fydd y ffwl!
Dechreuwch eich diwrnod gyda rhyw fath o ymarfer corff.
Mae llu o syniadau ar ein gwefan Iechyd a Lles:
https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Gwyliwch yr arbrawf dyddiol o Techniquest.
Peidiwch â thrio'r arbrofion hyn yn y ty!
Mae rhai ohonynt yn edrych braidd yn beryglus!
Darllenwch y darn hwn gan yr Adran Gwyddoniaeth ar y Tywydd
Ewch i'r wefan Gweiddi
https://www.gweiddi.org/rhifynnau/rhifyn-56-cyfrir-ceiniogau-ym-myd-chwaraeon/troi-mewn-cylchoedd/
Dewiswch yr opsiwn Rhifyn 56 a darllenwch y darn darllen ‘Troi mewn cylchoedd’
Cwblhewch y gwaith o dan y teitl ‘Tasg 1’ ar yr ochr dde:
https://www.gweiddi.org/media/5736/3-tasg-1.pdf
Go on the website ‘Gweiddi’ https://www.gweiddi.org/rhifynnau/rhifyn-56-cyfrir-ceiniogau-ym-myd-chwaraeon/troi-mewn-cylchoedd/ - choose Rhifyn 56 and read the text ‘Troi mewn cylchoedd’. Complete the work under the title ‘Tasg 1’ on the right hand side.https://www.gweiddi.org/media/5736/3-tasg-1.pdf.
Gwaith yn y llyfryn: Heddiw bydd angen i chi gwblhau'r ymarferion 18, 19 a 20 yn eich llyfryn maths. Heddiw, byddwch yn defnyddio cyfesurynnau. Dechreuwch drwy wylio'r fideo.
If your child is continuing with the booklet, today's tasks are exercises number 18, 19 and 20. Start by watching the video above.
Diolch i @Mathemateg, sef Dr Gareth Evans o Ysgol y Creuddyn am y llyfryn a'r fideo gwych!
Dyma gyfle euraidd i chi ddysgu eich tablau'n berffaith:
https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Profwch eich hunan fesul tabl yma yn y ffeiliau Quizlet: https://quizlet.com/class/14188490/
Os ydych chi wedi gorffen y gwaith Maths yn gyflym, efallai yr hoffech wahanol heriau ychwanegol am weddill yr wythnos. Cliciwch ar y top ar y dde er mwyn agor y ddogfen.
These are extension Maths tasks for the whole week, for pupils who would like an extra challenge. They are not compulsory for all.
Dyma wahanol weithgareddau ar gyfer dysgu geirfa:
Kahoot Ansoddeiriau: https://kahoot.it/challenge/0122158?challenge-id=22d09182-2c27-4442-88a2-0bb6a1ba1f73_1585222173078
Gimkit Berfau er a sie: https://www.gimkit.com/play/5e7519584ae5dd002272de99
Quizizz Barn syml a chyflwyno'ch hunan: http://quizizz.com/join?gc=444532
Dysgwch yr eirfa bwysig yma ar gyfer astudio Hanes.
Yna profwch eich hunan unwaith eto gyda'r gwahanol gwisiau:
Geirfa Hanes:
https://quizlet.com/498969959/geirfa-hanes-1-blwyddyn-7-flash-cards/
Geirfa Hanes mewn brawddegau:
https://quizlet.com/498970698/geirfa-hanes-2-blwyddyn-7-flash-cards/
Cwis Geirfa Hanes:
http://quizizz.com/join?gc=556041
Gwyliwch clip am y Normanaid o dan William y Concwerwr, sydd weithiau yn y Gymraeg yn cael ei alw'n Gwilym Goncwerwr (William the Conqueror yn Saesneg).
Tasg 1: Beth yw ystyr yr eirfa yma yn y clip:
cyfraith
Arglwydd
gorchyfygu
Tasg 2: Beth mae Wiliam am wneud gyda ffiniau Cymru?
Arlunio, creu comic ac animeiddio.
Mae fideos Huw Aaron i gyd ar ei gyfrif YouTube. Dilynwch y gwersi:
https://www.youtube.com/channel/UCjbHZGFNpOPW9w7vKixrNyQ/featured
Tasg: Trydarwch eich lluniau at @BroEdern a @HuwAaron #joio
Cyfrif Trydar Huw Aaron: https://twitter.com/huwaaron
Mae ymweliad rhithiol heddiw ag Amgueddfa Van Gogh yn Amsterdam.
Today's virtual visit is to the Van Gogh Museum in Amsterdam. Click and enjoy!
Lolipop: Rhaglen wych sy'n cynnwys Alys a Ramiro o flwyddyn 8
Geirfa Gwyddoniaeth:
https://quizlet.com/497481988/geirfa-bl7-flash-cards/
Geirfa Cerdd:
https://quizlet.com/498970617/geirfa-cerdd-1-blwyddyn-7-flash-cards/
Mewn blynyddoedd i ddod, bydd yn ddiddorol i chi fedru edrych nôl ar y cyfnod hwn ac atgoffa eich hunan o beth aeth ymlaen. Gallwch ysgrifennu'r dyddiadur mewn llyfr, ar bapur, ar lein fel blog - lan i chi:
Beth wnaethoch chi heddiw?
Beth wnaethoch chi fwyta?
Sut oeddech chi'n teimlo?
Am beth ydych chi wedi bod yn meddwl?
Beth oedd yn y newyddion heddiw?
Darllen llyfr - dylsech ddarllen am o leiaf hanner awr bob dydd
Ysgrifennu am lyfr (neu ysgrifennu llyfr!)
Tynnu llun (neu lawer o luniau)
Gwylio S4C: https://www.s4c.cymru/clic/
Cadw'n heini gyda holl syniadau'r Adran Add Gorff: https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Her keepy uppy: Dilynwch yr Adran Add Gorff i weld y diweddaraf ar https://twitter.com/AG_BroEdern
Ysgrifennu stori, sgript neu ddarn o farddoniaeth neu ddilynwch yr Her 10 Munud: https://authorfy.com/10minutechallenges
Gwneud gwaith creadigol o ryw fath
Ymarfer offeryn
Lliwio: https://emilyellenjames.myportfolio.com (am ddim!)
Gwersi arlunio ar-lein gyda Huw Aaron – un wers y dydd am 3pm: https://www.youtube.com/watch?v=jYGXCbvLu_o
Gweithgareddau amrywiol ar wefan yr Adran ITM: https://sites.google.com/hwbcymru.net/itmbroedern
Dysgu mwy o Almaeneg ar yr app Duolingo
Gwrando ar stori: https://stories.audible.com/discovery (mae holl straeon Audible am ddim am gyfnod!)
Llyfrau David Walliams – mae'r awdur poblogaidd David Walliams yn rhyddhau llyfr llafar bob dydd: https://www.worldofdavidwalliams.com/elevenses/
Darllen llyfr ar-lein: https://worldbook.kitaboo.com/ (dyma lawer o syniadau)
Dylunio cit newydd ar gyfer bl 8 y flwyddyn nesaf: https://twitter.com/AG_BroEdern/status/1242489061136187392?s=20
Gwylio fideos tablau: https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Ymarfer tablau: https://quizlet.com/class/14188490/
Gwylio perfformiad ar-lein, megis ballet, drama, neu hyd yn oed ychydig o Shakespeare: http://bit.ly/2QK9Zef (everything free of charge at the moment)
Gwylio arbrawf ar-lein: https://www.techniquest.org/daily-demos/
Gwersi ukulele gyda Mei Gwynedd: https://www.youtube.com/watch?v=iVT-ULFoCqw
Helpu gyda'r gwaith ty
Tacluso'ch ystafell wely
Helpu i baratoi bwyd
e-bostio aelod o'r teulu
Ffonio aelod o'r teulu i weld sut maen nhw