HELO BLWYDDYN 7! Gobeithio eich bod i gyd yn iawn. Cofiwch gysylltu gyda Mr Ellis os oes problem: GEllis@ysgolbroedern.cardiff.sch.uk
Dechreuwch eich diwrnod gyda rhyw fath o ymarfer corff.
Mae llu o syniadau ar ein gwefan Iechyd a Lles:
https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Gwyliwch yr arbrawf dyddiol o Techniquest.
Peidiwch â thrio'r arbrofion hyn yn y ty!
Mae rhai ohonynt yn edrych braidd yn beryglus!
Darllenwch hwn gan yr Adran Gwyddoniaeth.
Erthygl arall am yr amgylchedd, y tro hwn yn canolbwyntio ar wahardd poteli plastig.
Gwnewch y 2 ymarfer gramadeg canlynol:
YN + enw lle: https://spark.adobe.com/page/179xxlWZ2h9gP/
Arddodiaid: https://spark.adobe.com/page/gQ9QtbiJslKXB/
Pupils need to complete the 2 grammar exercises which are in the links above.
Gwaith yn y llyfryn: Heddiw bydd angen i chi gwblhau'r ddrysfa.
The last task in the booklet before Easter is for pupils to complete the maze and find their way to the middle.
Diolch i @Mathemateg, sef Dr Gareth Evans o Ysgol y Creuddyn am y llyfryn gwych!
Dyma gyfle euraidd i chi ddysgu eich tablau'n berffaith:
https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Profwch eich hunan fesul tabl yma yn y ffeiliau Quizlet: https://quizlet.com/class/14188490/
Os ydych chi wedi gorffen y gwaith Maths yn gyflym, efallai yr hoffech wahanol heriau ychwanegol am weddill yr wythnos. Cliciwch ar y top ar y dde er mwyn agor y ddogfen.
These are extension Maths tasks for the whole week, for pupils who would like an extra challenge. They are not compulsory for all.
Dyma wahanol weithgareddau ar gyfer dysgu geirfa:
Kahoot Ansoddeiriau: https://kahoot.it/challenge/0122158?challenge-id=22d09182-2c27-4442-88a2-0bb6a1ba1f73_1585222173078
Gimkit Berfau er a sie: https://www.gimkit.com/play/5e7519584ae5dd002272de99
Quizizz Barn syml a chyflwyno'ch hunan: http://quizizz.com/join?gc=444532
Dysgwch yr eirfa yma am y Pasg, sef yr Wythnos Sanctaidd:
https://quizlet.com/469875120/yr-wythnos-sanctaidd-flash-cards/
Edrychwch ar y gweithgareddau hyn sy'n ymwneud â'r Pasg:
Crewch fwrdd stori (story board) sy’n dangos wythnos olaf bywyd Iesu Grist (yr Wythnos Sanctaidd). Croeso i chi ei gwblhau'n ddigidol neu ar bapur.
Darllenwch yr erthygl hon am y Pasg. Beth yw ystyr ac arwyddocâd y Pasg?
Arlunio, creu comic ac animeiddio.
Mae fideos Huw Aaron i gyd ar ei gyfrif YouTube. Dilynwch y gwersi:
https://www.youtube.com/channel/UCjbHZGFNpOPW9w7vKixrNyQ/featured
Tasg: Trydarwch eich lluniau at @BroEdern a @HuwAaron #joio
Cyfrif Trydar Huw Aaron: https://twitter.com/huwaaron
Mae ymweliad rhithiol heddiw â Chastell Neuschwanstein yn yr Almaen.
Neu = newydd / Schwan = alarch / Stein = carreg/creigiau
Today's virtual visit is to Neuschwanstein Castle in Bavaria in southern Germany. Click and enjoy!
Dysgwch yr eirfa bwysig yma ar gyfer astudio Hanes.
Yna profwch eich hunan gyda'r gwahanol gwisiau:
Geirfa Hanes:
https://quizlet.com/498969959/geirfa-hanes-1-blwyddyn-7-flash-cards/
Geirfa Hanes mewn brawddegau:
https://quizlet.com/498970698/geirfa-hanes-2-blwyddyn-7-flash-cards/
Cwis Geirfa Hanes:
http://quizizz.com/join?gc=556041
Lolipop: Dyma'r drydedd bennod, gydag Alys a Ramiro o flwyddyn 8
Geirfa Gwyddoniaeth:
https://quizlet.com/497481988/geirfa-bl7-flash-cards/
Geirfa Cerdd:
https://quizlet.com/498970617/geirfa-cerdd-1-blwyddyn-7-flash-cards/
Mewn blynyddoedd i ddod, bydd yn ddiddorol i chi fedru edrych nôl ar y cyfnod hwn ac atgoffa eich hunan o beth aeth ymlaen. Gallwch ysgrifennu'r dyddiadur mewn llyfr, ar bapur, ar lein fel blog - lan i chi:
Beth wnaethoch chi heddiw?
Beth wnaethoch chi fwyta?
Sut oeddech chi'n teimlo?
Am beth ydych chi wedi bod yn meddwl?
Beth oedd yn y newyddion heddiw?
Darllen llyfr - dylsech ddarllen am o leiaf hanner awr bob dydd
Ysgrifennu am lyfr (neu ysgrifennu llyfr!)
Tynnu llun (neu lawer o luniau)
Gwylio S4C: https://www.s4c.cymru/clic/
Cadw'n heini gyda holl syniadau'r Adran Add Gorff: https://sites.google.com/hwbcymru.net/iechydallesbroedern/home
Her keepy uppy: Dilynwch yr Adran Add Gorff i weld y diweddaraf ar https://twitter.com/AG_BroEdern
Ysgrifennu stori, sgript neu ddarn o farddoniaeth neu ddilynwch yr Her 10 Munud: https://authorfy.com/10minutechallenges
Gwneud gwaith creadigol o ryw fath
Ymarfer offeryn
Lliwio: https://emilyellenjames.myportfolio.com (am ddim!)
Gwersi arlunio ar-lein gyda Huw Aaron – un wers y dydd am 3pm: https://www.youtube.com/watch?v=jYGXCbvLu_o
Gweithgareddau amrywiol ar wefan yr Adran ITM: https://sites.google.com/hwbcymru.net/itmbroedern
Dysgu mwy o Almaeneg ar yr app Duolingo
Gwrando ar stori: https://stories.audible.com/discovery (mae holl straeon Audible am ddim am gyfnod!)
Llyfrau David Walliams – mae'r awdur poblogaidd David Walliams yn rhyddhau llyfr llafar bob dydd: https://www.worldofdavidwalliams.com/elevenses/
Darllen llyfr ar-lein: https://worldbook.kitaboo.com/ (dyma lawer o syniadau)
Dylunio cit newydd ar gyfer bl 8 y flwyddyn nesaf: https://twitter.com/AG_BroEdern/status/1242489061136187392?s=20
Gwylio fideos tablau: https://www.youtube.com/playlist?list=PLm3-WYdWIH3AkblyKK9UbS-1xuLLYFnFM
Ymarfer tablau: https://quizlet.com/class/14188490/
Gwylio perfformiad ar-lein, megis ballet, drama, neu hyd yn oed ychydig o Shakespeare: http://bit.ly/2QK9Zef (everything free of charge at the moment)
Gwylio arbrawf ar-lein: https://www.techniquest.org/daily-demos/
Gwersi ukulele gyda Mei Gwynedd: https://www.youtube.com/watch?v=iVT-ULFoCqw
Helpu gyda'r gwaith ty
Tacluso'ch ystafell wely
Helpu i baratoi bwyd
e-bostio aelod o'r teulu
Ffonio aelod o'r teulu i weld sut maen nhw