Llais y Llyw

Rhifyn9

15 Mehefin 2020

Croeso i rifyn 9 cylchgrawn digidol Gwynllyw. Dyma gyfle i chi ddarllen, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio clipiau ac hefyd gymryd rhan. Os hoffech gyfrannu at y rhifyn nesaf, e-bostiwch eich syniadau at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 18fed Mehefin 2020.


Welcome to issue 9 of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. If you would like to contribute to the next issue, email your ideas to llais@gwynllyw.org before Thursday 18th June 2020.


Mrs Nerys Harding

Beth ydy eich rol yn yr ysgol?

Athrawes Mathemateg


Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?

8 / 2 x (6 - 2) o flynyddoedd!


Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?

Roeddwn yn awyddus i barhau mewn maes Mathemateg a gweithio gyda phlant.


Sut ydych chi'n goroesi lockdown?

Mae fy mhlant i yn fy nghadw fi'n brysur iawn, byddwn ni'n cerdded, garddio a coginio yn aml. Mae'r tywydd braf wedi bod yn help mawr ac rydym wedi treulio lot o amser yn yr ardd.



Mrs Nia Goode


Beth ydy eich rol yn yr ysgol?

Pennaeth Hanes


Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?

Yr un mor hir a Mr Ion Thomas a Mr Hywel Williams ond ddim mor hir a Mr Leighton Thomas.


Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?

Roeddwn eisiau gyrfa ble y buaswn yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan oeddwn yn yr ysgol bues yn gwirfoddoli mewn cyrsiau i blant a phobl ifanc a sylweddolais fy mod yn mwynhau eu cwmni. Rwy'n mwynhau gweld plant yn datblygu ac yn llwyddo, a hynny drwy'r Gymraeg.


Sut ydych chi'n goroesi lockdown?

Rwyf newydd symud ty felly mae gen i ddigon o bethau i'm cadw'n brysur, heb son am drefnu rota 3 chyfrifiadur rhwng 4 person sy'n gweithio o adref! Ac mae'r we mor araf! Loncian. Siopa i gymdogion bregus.




Ms Manon Roberts


Beth ydy eich rol yn yr ysgol?

Rydw i yn Bennaeth Cynnydd Blwyddyn 9 ac hefyd yn Bennaeth yr Adran Gerddoriaeth


Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?


Rydw i wedi bod yng Nghwynllyw ers amser maith nawr - bron iawn i ugain mlynedd!


Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu? gweithio mewn ysgol?


Roeddwn i ers yn ifanc wedi mwynhau gweithio gyda phlant, ac wrth i mi fynd trwy'r ysgol uwchradd, cefais fy ysbrydoli i ddatblygu fy sgiliau cerddorol, ac yn naturiol plethu y ddau beth oedd yn fy niddori- a mynd amdani i fod yn athrawes Gerddoriaeth.


Sut ydych chi'n goroesi lockdown?


Mae lockdown wedi bod yn eithaf prysur yn ty ni. Rydw i wedi bod yn ceisio cael y plant i gwblhau eu gwaith ysgol, ond hefyd mwynhau yr awyr iach, a mwynhau ein cyfnodau o ymarfer corff yn cerdded y ci. Rwyf yn hoff iawn o goginio, ac felly mae'r plant wedi bod yn arbrofi ac yn pobi amrywiaeth o wahanol gacenau- a pawb wedi bod yn mwynhau eu bwyta!


Unrhyw gwybodaeth arall?

Rydw i yn wreiddiol yn dod o'r gogledd, ac mae acen cryf yn dal i fodoli wrth i mi siarad. Rydw i wir yn mwynhau chwarae y piano a'r delyn, ac yn mwynhau gweld sgiliau cerddorol plant Gwynllyw yn datblygu. Rydw i wedi byw yn y de nawr am dros ugain o flynyddoedd- ac wir yn mwynhau y bwrlwm sydd gan fywyd i gynnig.



Rydyn ni wrthi'n paratoi i chi ddod yn ol i'r ysgol ar ddiwedd y mis. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan yr ysgol o dan 'Tymor yr Haf 2020' neu dilynwch y ddolen isod.

We are busy preparing for you to return to school at the end of the month. There is more information on the website under the tab 'School Term 2020' or follow the link below.

https://sites.google.com/view/tymoryrhaf2020/home


Llongyfarchiadau i Harri Lloyd-Evans ar ddod yn Rhif 1 yng Nghymru o dan 18 ym maes Tenis. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o'r ymroddiad a'r gwaith caled mae Harri yn ei rhoi i'r gamp ac mae'n gwbl haeddiannol. Mae pob un ohonom yng Ngwynllyw yn dy longyfarch Harri.

Congratulations to Harri Lloyd-Evans on becoming 18&U Welsh number 1. This achievement is a reflection of the dedication and hard work Harri puts in and is thoroughly deserved. All of us at Gwynllyw congratulate you Harri.

Beth am leisio eich barn chi? Danfonwch eich barn chi atom llais@gwynllyw.org

Byddwch siwr o fod wedi gweld yr ymgais Black Lives Matter ar y newyddion ar hyn o bryd boed ar y teledu neu cyfryngau cymdeithasol. Gyda phobl ar draws y byd yn protestio yn erbyn hiliaeth ers llofruddiaeth George Floyd, mae nifer o bobl wedi ymateb mewn nifer o wahanol ffyrdd, dymchwel cerfluniau, protestiadau tawel ac heddychlon a rhai'n dreisgar.

Mae Lloyd Lewis, cyn-ddisgybl a chwaraewr rygbi wedi bod yn rhannu ei brofiadau a barn, gallwch ei wylio fe ar drydar:

https://twitter.com/s4cchwaraeon/status/1270400833113505794?s=21




Disgrifiad hyfryd o'r mor gan Megan Teague Blwyddyn 8


Teimlaf y tywod ysgafn yn gorffwys ar y nhraed fel petai blanced o fy ngwely. Gwelaf yr awyr tangnefeddus yn adlewyrchu ar y dwr digynnwrf. Teimlaf wres yr haul yn bwrw yn erbyn fy nghorff fel gwres ffwrn. Golau yr haul yn llachar fel y nefoedd. Aroglaf y pysgod perffaith a sglodion yn dawnsio o gwmpas yn yr awel. Clywaf yr awel tennau ac yr adar yn canu fel cor. Blasaf y cwn poeth trwchus, nefolaidd yn gymryd dros fy ngheg. Clywaf granc yn cropion o gwmpas y traeth glan. Gwelaf rhif y gwlith o bysgod perffaith yn nofio yn y mor hapus. Clywaf adar swnllyd yn debyg i drwmped.


Gwelaf y mor gwyrdd-las, dawel yn symud yn araf fel malwoden. Syllaf ar y tonnau cyffrous yn neidio fel defaid dros cae. Teimlaf y dwr ffres, glan yn poeri drostaf. Edrychaf nol a gwelaf y coed palmwydd yn gorffwys ar bein ei gilydd fel tesai nhw wedi blino. Symudaf yn gyflym fel y gwynt a rwyf wedi cael siom ar yr ochr orau. Gwyliaf y dwr yn dawnsio yn cydamersol efo'r tonnau wrth edrych lawr at y mor di waelod. Gwelaf adlewyrchiad yr haul yn sefyll ar y mor mawreddog. Dechreuaf wrando ar swn yr adar. Clywaf dim a gwelaf rywbeth annisgwyl ond anffodus iawn.


Clywaf dawelwch yn yr awyr fel petai'n nos. Dechreuaf boeni. Y mor yn ymosod fel llew am ei fwyd. Gwelaf y tonnau yn tasgu yn erbyn y creigiau yn galed fel rhyw fath o frwydr. Mae'r haul yn ddiflannu fel ysbryd. Clywaf sgrech yr anifeilaid diniwed yn y mor fel tesai nhw mewn dioddef. Dyna beth maen nhw mewn. Syllaf ar domen o blastig yn cael ei wthio o'r pellter i achosi niwed i'r traeth. Gwyliaf y mor perffaith yma yn drawsnewid i for llygredig yn gyflym fel y gwynt. Blasaf halen y mor yn amsugno mewn i'r mwd fel candi fflos mewn dwr. Synnaf at y sbwriel yn droelli ogwmpas y mor fel plwg bath. Teimlaf awel y mor yn trawsnewid i wynt cryf, oer peryglus. Edrychaf at y traeth, nid tywod melyn, glan yw hwn, ond tywod brwnt, frown, llwyd. Edrychaf nol at y mor- sydd nawr yn mor llwyd ac arian.


Clywaf sbwriel yn arllwys allan o'r pibellau fel jwg o ddwr enfawr. Gwelaf hunllef yn ehangu o gwmpas y lle. Edrychaf at y tomenau o sbwriel yn disodli y cestyll tywod. Teimlaf fel fy mod yn byw fel Eeyore, mewn byd llwyd ac isel. Clywaf y crwbanod yn tagu ar blastig siarp sy'n lapio o gwmpas ei wddf. Teimlaf yn warthus. Blasaf fwg trwchus yn brwydro tu fewn i fy nghorff. Clywaf distawrwydd yn llenwi'r byd. Gwibiaf allan o'r mor hunllefus yma wrth edrych nol efo euogrwydd. Teimlaf blastig siarp yn drywanu mewn i fy nghorff. Mae ewyn y mor nawr yn fel cymylau storm. Aroglaf mwd brwnt, cryf yn codi o'r sbwriel creulon yma. Teimlaf ddarnau o wydr yn pigo allan o fy nhraed wrth imi gerdded ar y tywod, peryglus, drist yma. Aroglaf arogl chryf o lygredd wrth i'r glaw dechrau cwympo on gyflyn fel cheetah.



Llyfrau yr Wythnos

Dyma argymhellion Mrs Rh Dickenson a Mrs S Toovey.

Madi gan Dewi Wyn Williams

Nofel gan Dewi Wyn Williams am ferch ifanc sy'n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy'n cuddio'r salwch. 'Roeddwn i'n wyth oed. Ac ar ddeiet.' Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth. Sut gall Madi ddod o hyd i'r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi'n gwmni? Nid yw stori Madi'n ddarllen cyfforddus, ac er bod y nofel yn llawn hiwmor tywyll a sylwadau crafog, mae'r cynnwys yn gignoeth. Dyma nofel heriol i'n cymdeithas fodern, a'i harddull a'i themau anghonfensiynol yn torri cwys newydd.



'The Young Elites' by Marie Lu

It's medieval Italy but following a plague, some young people bear some strange markings and discover they have powers to harness the elements. Adelina has always been an outcast, a malfetto, for her markings, but when she discovers she can create illusions, she trains to join the Young Elites and aid them in their campaign to put the rightful king on the throne.

This book draws you in from the first page and is action packed, with unpredictable twists and turns in the plot. Great for fans of Twilight, this Young Adult fantasy is suitable for ages 12+.

Here's a link to my vlog review: https://youtu.be/PHelO8M56VM


BAND PRES LLAREGGUB

Band Pres Llareggub, o fynyddoedd bytholwyrdd Eryri, yw'r band pres cyntaf i ddwyn safle ar siart C2 y BBC. Ni welwyd y fath beth o'r blaen yn hanes cerddoriaeth fodern Gymreig “ dyma grwp sydd yn cyfuno'r hen a newydd mewn ffordd gwbl wahanol...

Cysyniad gwreiddiol Owain Roberts yw Band Pres Llareggub wrth iddo hiraethu am adref tra'n byw yn Llundain bell. Yn tarddu o draddodiadau bandiau pres dalgylch Eryri, cewch glywed Band Pres Llareggub yn chwythu, gweiddi, neidio a dawnsio eu ffordd i'ch clustiau drwy gyfuno arddulliau i gyflwyno profiad egniol a chofiadwy. Gan gadw gafael a thraddodiad eu cyn-dadau, cawn y band yn torri tir newydd wrth ymadael a chonfensiwn i gyflwyno band pres ar newydd wedd. Maen nhw'n cyfuno elfennau o Hip Hop, Drum'n'Bass, a Jazz New Orleans gydag emynau Cymreig ac anthemau Dafydd Iwan, byddwch siwr o brofi rhywbeth newydd yn eu perfformiadau byw!

Dyma waith Saesneg Daniel Gauntlett am Nagasaki - diolch am rannu.



Some people believe that they could use the powerful atomic bombs to create their enemies surrender. If allies or enemies have nuclear weapons people would be afraid to attack because they are so powerful they could wipe out this earth that we are standing on. When Nagasaki got hit by an atomic bomb codenamed 'FatMan' the Japanese surrendered because the Americans threatened them by destroying their cities following Hiroshima. The Japanese spent millions on creating the cities that they had to make a new Hiroshima and Nagasaki, if another few bombs drop the earth will be on the edge of extinction. The Americans created a load of nuclear weapons to either destroy their enemies or make them confused to surrender and terrified to be hit and create thousands of millions of people dead on this world.


On the other hand citizens of this world and many more have decided to say that atomic bombs and nuclear weapons are disgraceful to the human race that it would destroy everything it touches when it explodes. If we would have another war the Russians or the Americans would highly drop more atomic bombs to destroy the enemies and Cities with Countries and Continents, The Americans and the Russians don't want to betray each other in case that they will cause a nuclear war.


In my opinion the atomic bombs are destructive they would destroy this world of ours, and wipe out the human race and many other things like; Animals, Trees, Buildings, anything which stands on this earth. I am wondering if America and Russia betray each other, say like the Russians dropped the first atomic bomb, and it landed on the facility where America makes the atomic bombs, they would explode and make America destroyed, then the world will be on the edge of extinction, then the Americans want to have revenge and they would blow up Russia following the everything. In todays scenario we have CoronaVirus or as you would call it Covid-19, they could help the NHS by giving them the money to buy equipment instead of buying atomic bombs and nuclear weapons.



Llais Lles

Ydych chi'n 'ffan' o Gavin and Stacey? Wel, mae Ruth Jones wedi bod yn ymarfer ei sgiliau Cymraeg. Dilynwch hi ar ei thaith gyda'r iaith yn y cyfres Iaith ar Daith.

Ap yr Wythnos

Ap Anagramau Atebol - Help gyda gwella sgiliau llythrennedd. Cyfle i wella sgiliau llythrennedd a llwyddo yn yr ysgol. Addas ar gyfer plant sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Gem ddifyr a hwyliog sy'n gwneud dysgu yn hwyl! Cyfle i symud o un lefel i'r llall a gweld os ydych chi'n gallu gwella eich sgor. Curo'r cloc ydy'r gamp!


Idiom yr Wythnos

fel hwch ar y rhew

to look silly

Ateb Cwis:

Roedd y llun o Ynys y Barri ac wrth gwrs ffilmiwyd 'Gavin and Stacey' yn Ynys y Barri.

Cwis

Beth ydy enw'r band?

Ebostiwch eich ateb at llais@gwynllyw.org!



Bydd y rhifyn nesaf ar gael o ddydd Llun 22 Mehefin 2020. Os hoffech gyfrannu, cofiwch ddanfon eich darn at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 18 Mehefin 2020.

Our next issue will be available on Monday 22 June 2020, remember to send your contribution to llais@gwynllyw.org before Thursday 18 June 2020.