Fy enw i yw Mathias Davies a dwi newydd orffen blwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Astudiais Gwyddoniaeth trifflyg , TGCH a DT ar gyfer TGAU ac wedyn Maths, Bioleg a Ffiseg yn y chweched. Mwynheuais ddysgu am cwarciau a leptonau yn fy ngwersi Ffiseg llynedd. Ges i amser gwych pan es i nol i Lanllyn fel swog ar ddechrau blwyddyn 13.
Ym mis Medi, byddaf yn mynd i brifysgol Abertawe er mwyn astudio Peirianneg Awyrofod. Rydw in edrych ymlaen at fod ym mhrifysgol ar lan y mor.
My name is Mathias Davies and I have just finished in year 13 at Ysgol Gyfun Gwyllyw. I studied Triple Science, ICT and DT at GCSE and then Maths, Biology and Physics in the Sixth Form. I enjoyed learning about quarks and leptons in my Physics lessons last year. I had a great time when I went back to Glanllyn at the start of year 13.
In September, I will be going to Aberystwyth University to study Aerospace Engineering. I'm looking forward to being in University by the sea.
Fy enw i yw Maddie Jones a fe adewais Ysgol Gyfun Gwynllyw Haf yma. Ar ol astudio Seicoleg, DT a Chelf ym Mlwyddyn 10 & 11 wnes I ddilyn y cwrs Gofal Plant yn y chweched. Y rhan gorau o'r cwrs oedd datblygu perthynas positif gyda'r plant a hefyd gyda'r athrawon sydd yn gweithio yn yr ysgol. Dw i wedi dod allan o ofal plant gyda gradd B a swydd yn Ysgol Bryn Onnen.Ges i amser gwych yn Mryn Onnen. Ym mis Medi byddaf yn gweithio am 4 dydd yr wythnos a 1 diwrnod yn y coleg crosskeys yn astudio am Radd Astudiaethau Plant sydd yn parhau am 3 blynedd.
My name is Maddie Jones and I left Ysgol Gyfun Gwynllyw this Summer. After studying Psychology, DT and Art in Year 10 & 11 I followed a Child Care course in Sixth Form. The best part of the course was developing a positive relationship with the children and also the teachers who work in the school. I have completed the course with a B grade and a job in Bryn Onnen School. I had a great time at Bryn Onnen. In September, I will be working for 4 days and at Crosskeys College one day studying for a degree in Childcare Studies over 3 years.
Emily Cosgrove
Scott Simpson
Ar ol y cyfnod anarferol a heriol dros y misoedd diwethaf, mae'n rhyddhad enfawr i fod nol yng Ngwynllyw ac yn mwynhau bywyd yn y chweched eto. Er bod rhai pethau wedi newid - gwisgo mwgwd yn y coridorau ac ar y bws a dilyn system un ffordd o gwmpas yr ysgol i enwi ychydig, yn ffodus mae'r teimlad o gymuned yn y chweched wedi goroesi. Uchafbwynt personol i mi wrth ddychwelyd yn ol i'r ysgol oedd gweld fy athrawon eto ar ol wythnosau hir o ddysgu ar lein, ac ymlacio yn ystod fy ngwersi rhydd yn y lolfa efo fy nghyd-ddisgyblion.
Fel prif swyddogion rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol ac yn rhannu syniadau am sut gallem drefnu ddigwyddiadau hwyl sy'n dilyn y rheolau llym sydd ar waith i'n cadw yn ddiogel - er bod hyn yn dasg heriol, rydw i'n hyderus trwy gydweithio'n effeithiol a gweithio yn galed byddwn yn gwneud y gorau o'r sefyllfa a sicrhau bod ein blwyddyn olaf yng Ngwynllyw yn flwyddyn arbennig.
After the unusual and challenging time over the last few months, it is a huge relief to be back in Gwynllyw and enjoy life in the sixth form again. Although some things have changed - wearing a mask in the corridors and on the bus and following a one-way system around the school to name a few, fortunately the feeling of a community in the sixth form has survived. A personal highlight for me when returning to school was to see my teachers again after long weeks of online learning, and to relax during my free lessons in the lounge with my classmates.
As chief officers we look forward to the future and share ideas about how we could organise fun events that follow the strict rules in place to keep us safe – although this is a challenging task, I am confident that by working together effectively and working hard we will make the most of the situation and ensure that our final year at Gwynllyw is a special year.
Roedd locdown yn amser anodd iawn i sawl un ohonym- mae'n braf i weld yr ochr arall. Mae ddod nol i ysgol wedi bod yn wych; ailymgyfarwyddo gyda'r ysgol, ffrindiau ac athrawon. Os ydych yn debyg i mi, mae gallu cael sgwrs gyda ffrindiau'n wyneb-i-wyneb wedi bod yn help mawr i ddod dros y locdown blues. Dwi'n sicr cyn i ni dychwelyd i'r ysgol bu sawl un ohonym ni yn poeni am sut bydd y mesurau diogelu newydd yn effeithio ar ein haddysg, ond yn bwysicach eto ar ein iechyd ni ac ein teuluoedd. Yn bersonol credaf taw'r pethau bychain yw'r pethau anoddach i ymdopi gyda; mae ymdopi gyda aros yn yr un stafell dosbarth trwy gydol y ddiwrnod wedi bod yn anodd i rhai ohonym ni yn sicr, gan gynnwys, fi fy hun, wedi bod yn beth anodd, ond yn weddol rydym ni wedi ddod i'r arfer gyda hyn yn ogystal a sawl peth arall megis peidio rhannu offer gyda ffrindiau.
Ond, hoffwn ddweud bod y ffordd mae'r ysgol wedi ein arferu mewn i bywyd ysgol 'newydd' wedi bod yn llwyddiant enfawr! Hoffwn i ddiolch i bob athro ac athrawes am y modd arbennig rydym ni wedi dychwelyd nol i'r ysgol- er fod y sytem un ffordd wedi bod yn anodd i ddod i'r arfer gyda! Mae'r athrawon, yn ogystal a ddisgyblion eraill wedi gwneud y symudiad oddi wrth dysgu ar lein, nol i ddysgu wyneb i wyneb yn un ardderchog- nid wyf un gallu canmol digon pa mor dda mae pob un ohonym ni wedi ymateb i'r newidiadau enfawr yma- llongyfarchiadau i ni i gyd!
Ar rhan bob aelod o'r chweched, rydw i'n edrych ymlaen at gwir gwrdd a chi i gyd yn y dyfodol, a chynnwys sawl digwyddiad ardderchog ar eich cyfer, fel yn blynyddoedd cynt. Yn amlwg, dibynnir hyn ar pryd mae bywyd yn dod nol i'r arfer, ond pwy a wyr pryd fydd hynnu.
Cofiwch i gadw yn ddiogel, a ddymunaf dda i bob un ohonoch.
Lockdown was a very difficult time for many of us- it's nice to see the other side. Coming to school has been great; re-familiarise ourselves with the school, friends and teachers. If you're like me, being able to have a face-to-face conversation with friends has been a great help in getting over the Lockdown Blues. I'm sure before we returned to school several of us were worried about how the new safeguarding measures would affect our education, but more importantly on our health and our families. Personally I think that the little things are the harder things to cope with; coping with staying in the same classroom throughout the day has certainly been difficult for some of us, including, myself, has been a difficult thing, but we have become used to this as well as many other things such as not sharing equipment with friends.
However, I would like to say that the way in which the school has settled us into a 'new' school life has been a huge success! I would like to thank all teachers for the special way we have returned to school- although the one-way sytem has been difficult to get used to! The teachers, as well as other pupils have made the move away from online learning, to face-to-face learning an excellent one- I can't praise enough how well we have all responded to these huge changes- congratulations to us all!
On behalf of each member of the sixth form, I look forward to meeting you all in the future, and including several excellent events for you, as in previous years. Clearly, this depends on when life comes to normal, but who knows when that will be.
Remember to stay safe, and I wish you all well.
Fy enw i yw Maisy Evans, ac rwyf wedi bod yn sefyll fel Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Torfaen ers mis Tachwedd 2018. Efallai y byddwch yn tybio beth mae hynny'n ei olygu; efallai y byddwch yn tybio pam y dewisais sefyll mewn etholiad; efallai y byddwch chi'n tybio pam rydw i'n dweud wrthych chi...
Am y tro cyntaf yn hanes Cymru, cynhaliwyd Etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru yn 2018. Sefais fel un o 16 o bobl ifanc yn Nhorfaen, a gyda chymorth gan fy ffrindiau, teulu ac ysgol, enillais y bleidlais. Mae fy nhymor, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi bod yn llawn cyffro ac rydw i wedi cael cyfleoedd anhygoel!
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru, sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth ar y lefel uchaf bosibl. Rydym yn gweithio tuag at fynd i'r afael a thri mater, y pleidleisiwyd arnynt gennym ni ein hunain: Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm, Sbwriel a Gwastraff Plastig a Chefnogaeth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl. Mae pwyllgorau'n canolbwyntio ar y tri blaenoriaeth hyn, i wella bywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Gan fy mod yn gynrychiolydd Torfaen, mae'n ddyletswydd arnaf i wrando ar bobl ifanc yr ardal. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Fforwm Pobl Ifanc Torfaen, sy'n caniatau imi weithio gyda phobl ifanc o ystod o ysgolion yn Nhorfaen, gan olygu fy mod yn dod i adnabod a deall ystod o safbwyntiau a barn.
Rwyf wrth fy modd a'r gwaith rwy'n ei wneud; mae'n fy nghadw'n brysur, ac mae bod yn rhan o newid go iawn ar lefel genedlaethol a lleol yn rhoi llawer o foddhad i mi.
My name is Maisy Evans, and I have been standing as the Welsh Youth Parliament Member for Torfaen since November 2018. You may wonder what that means; you may wonder why I chose to stand for election; you may wonder why I am telling you...
For the first time in Welsh history, the Welsh Youth Parliament Elections were held in 2018. I stood as one of 16 young people in Torfaen, and with support from my friends, family and school, I won the vote. My season, over the last two years, has been exciting and I've had amazing opportunities!
The Welsh Youth Parliament is made up of 60 young people from across Wales, who are trying to make a difference at the highest possible level. We are working towards addressing three issues, voted on by ourselves: Skills for Life in the Curriculum, Litter and Plastic Waste and Emotional and Mental Health Support. Committees focus on these three priorities, to improve the lives of young people in Wales.
As I am a representative of Torfaen, I have a duty to listen to the young people of the area. I work very closely with the Torfaen Young People's Forum, which allows me to work with young people from a range of schools in Torfaen, meaning that I get to know and understand a range of views and opinions.
I love the work I do; it keeps me busy, and being part of real change at a national and local level gives me a lot of satisfaction.
20fed o Mawrth 1954
Y bore ma codais yn gynnar i godi y plant cyn i'r beiliaid dod, doeddwn i ddim yn edrych mlaen i'r diwrnod o fy mlaen. Heddiw roedd Trefor yn gweithio felly roeddwn i ar ben fy hunan yn gwneud popeth yn y ty. Roedd cnoc ar y drws am saith o'r gloch y bore, pam oedden nhw yma mor gynnar?
Roedd e'n 8 o'r gloch y bore, felly roedden nhw wedi bod yma am awr. Cymron nhw popeth roedden nhw yn gallu gweld hyd yn oed y carpedi. Teimlais yn drist pob eiliad o'r dydd yn enwedig pan welais fy anregion priodas diflanu or silfoedd, ond hefyd teimlaf yn gryf am y iaith Gymraeg.
Aeth y beiliaid i ystafell y plant, yna roedden nhw yn tynnu lan y carped. Pryd welon nhw fi, gofynon nhw os gallaf helpu nhw cymrud fy mhethau i'r lori? Pam oedden nhw wedi gofyn fi hwn? Roedd fy ngwaed yn berwi! Ydyn nhw erioed yn mynd i rhoi ffidl yn y to?! Meddylais i.
O'r diwedd am 10 o'r gloch y bore, roedden nhw wedi gadael. Ar ol roedden nhw wedi gadael, roedd e'n amser gwneud gwaith, mae'r plant yn mwynhau gwneud gwaith o gwmpas y ty·. Ar ol hynny roedden ni wedi ymlacio ychydig a chael cinio.
O'r diwedd am 5:30 y nos roedd Trefor gartref, wedyn roedd e'n amser teulu. Roeddwn i mor hapus nawr pawb yn ol gyda'n gylidd, Am 7 o'r gloch y nos roedd y plant wedi mynd i'r gwely felly mae hi'n amser nawr i fi fynd i'r gwely hefyd. Dydw i ddim yn edrych ymlaen at fory.
gan Martha Cox
Bore ma , codais i'n ddigalon yn gwybod bod y beiliaid wedi dod. Yn ddigalon ac wedi siomi cerddais i lawr y grisiau i weld fod popeth wedi mynd edrychais i weld ble maer piano llachar , hen , hyfryd. Doeddwn i ddim yn gallu gredu fy llygaid , oedden nhw hefyd wedi mynd a'r carped ! Ydw i'n ymladd am y peth cywir ? Ydy'r Gymraeg yn fyw ?
Wedyn , edrychodd Delyth arna fi ac gofyn ' beth sydd yn digwydd?'dwedais ein bod ni'n cael problemau bach gyda'r gyfraith . Ond doeddwn i ddim yn eisiau fy phlant braf , hapus, garedig , i boeni am beth oedd yn digwydd . Teimlais i yn grac ac rydw i wedi cael llond bol o'r gyfraith . Ond dydw i ddim am rhoi'r ffidl yn y to .
Cafon ni'r trethi yn Saesneg sydd yn drist iawn i weld . Roeddwn i eisiau fy nhreth yn cymraeg . Roedd fy nagrau yn llifo fel afon glas , mawr . Roedd Trefor yn ffyrnig ac yn wyllt oherwydd y treth . Cefais i cwpan o de i dawelu fy meddwl oherwydd roeddwn i yn wyllt gacwn .
Rwy'n teimlo mor drist, dydw i ddim yn gallu cysgu.
gan Roxy Woodward
Annwyl ddyddiadur
Am ddiwrnod!Newydd dod adref o'r gwaith a mae'r teulu i gyd yn crio! Daeth y beiliaid a cymeron nhw popeth, hyd yn oed y carped!Gyda'n gilydd wnaeth fi a fy wraig trio cuddio'r gwir or plant i ddangos nhw bod popeth yn iawn. Dywedais i wrth fy ngwraig, gallen nhw cymryd unrhywbeth ond dydw i ddim yn talu'r treth! Rydw i'n teimlo'n ddigalon bod hwn wedi digwydd.
Teimlais i'n chwyrn oherwydd doedd dim bwyd i'r plant i fwyta na gwely i gysgu mewn. Rwy'n benderfynol o gymryd hwn i'r llys. Rydw i wedi cael digon! Dydyn nhw ddim yn gallu dod i fewn i fy nghartref i a chymryd popeth. Hefyd roedd cywilydd arnyn nhw i ofyn i fi helpu nhw rhoi popeth yn y fan!
Mae teimlad gen i bob hwn yn mynd i gymryd sbel i ddatrys.Roedd rhaid i ni mynd i'r llys eto. Rwy'n ofni beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf i ni. Rwy'n barod yn teiml'n sal wrth feddwl amdano.
gan Max Jacob
Mr I Thomas
Awdur: Cynan Llwyd.
Pris : £5.99
Gwasg: Y Lolfa
Un o ragoriaethau'r nofel ddarllenadwy hon yw diffuantrwydd llais adroddwr y stori a'r prif gymeriad Tom. Dyma fachgen y tybiwn ei fod ar y spectrwm sy'n ceisio ymdopi gyda heriau ei gymdeithas a'i gymuned dlawd. Cefais fy atgoffa o nofel afaelgar arall sef 'The Curious Incident' gan Mark Haddon.
Ceir darlun byw o'r berthynas agos rhwng Tom a'i fam; mae hi'n ceisio'i gorau glas i gael dau ben llinyn ynghyd tra'n ei fagu cystal ag y medr yn ardal galed Caercoed. Daw cysur a noddfa Tom o fyd y comics a'r archarwyr, ond a fydd rhain yn fodd i'w amddiffyn yn wyneb realiti y bygythiadau, bwlian a thlodi sy'n taenu eu cysgod ar noddfa'r aelwyd un rhiant?
Rhagoriaeth arall y nofel gyfoes hon yw'r gwrthdaro a ddarlunir oddi mewn i enaid Tom. A fedr wneud y dewisiadau cywir pan mae ar yr un llaw yn dyheu i warchod ei fam ac ar y llaw arall yn ceisio amddiffyn ei hun? A fedr wrthsefyll yr hyn a'i greithiodd yng ngorffennol ei blentyndod ac a gladdwyd yn ddwfn yn ei isymwybod?
Mae gan Cynan Llwyd y ddawn i glywed a mynegi llais y Tom diniwed sydd mewn trybini. Wrth i'n cydymdeimlad tuag at Tom ddwysau rydym yn gobeithio y bydd ei gyfeillgarwch newydd yn blodeuo, ei berthynas â'i gymydog yn goroesi ac yn dyheu iddo ganfod nodweddion yr archarwyr yn ei gymeriad a threchu grymoedd y drygioni.
Er mai nofel fer yw Tom, mae yna gyfoeth o themau a phwyntiau trafod ynddi. Mewn gair - gwych!
Cynan Llwyd. Y Lolfa, May 22, 2019 - Bullying - 122 pages. A novel about Tom, a 15 year old youth who lives in a block of flats with his mother and who befriends an 81 year old neighbour. This contemporary novel in the genre of The Curious Incident of the Dog in the Night-time is by a new, young writer.
Mrs S Toovey
Yn ystod amser bwyta, mae disgyblion yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg. Dyma'r rhestr chwarae. Mae llwyth o fandiau Cymraeg ar gael ar hyn o bryd felly mae dewis anhygoel o gerddoriaeeth Cymraeg ar gael.
During lunch time, pupils are listening to Welsh music. Here is a playlist. There are lots of Welsh bands around at the moment so there is a fantastic choice of music.
Ydych chi'n hoffi podlediadau? Mae llwyth ohonynt ar destunau gwahanol ar https://ypod.cymru/. Mae'r wefan isod. O bodlediadau am natur a chomedi i chwaraeon- mae rhywbeth at ddant pawb. Gallwch ddefnyddio'r podlediadau i wella eich sgiliau gwrando, ehangu ar eich geirfa ac i fwynhau!