27 Ebrill 2020
Welcome to the second issue of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. If you would like to contribute to the next issue, email your ideas to llais@gwynllyw.org before Thursday 30 April 2020.
Beth yw eich rôl yn yr ysgol?
Pennaeth Cynorthwyol ac Athrawes Gymraeg
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Ers Medi 2019, des i i'r ysgol fel Pennaeth Cynorthwyol ar ol gweithio yn Ysgol Brenin Harri yn y Fenni ers 2010 fel Pennaeth Adran. Cyn hynny, dysgais i yn Ysgol Gyfun Aberaeron am bum mlynedd.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Doedd dim dewis i fi, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau bod yn athrawes yn ifanc iawn. Dysgais i Gymraeg fel ail iaith ac roeddwn i'n sicr fy mod i eisiau dysgu Cymraeg i'r genhedlaeth nesaf.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Rydw i'n darllen llyfrau, mynd am dro neu allan ar fy meic i gadw'n heini, diddanu fy mhlant ac fel pawb arall yn y byd, garddio. Rydw i hefyd yn mwynhau gwaith ymchwil, gwneud bach o gelf a chreu'r cylchgrawn!
Beth yw eich rôl yn yr ysgol?
Athro Mathemateg, Ail yn yr Adran Fathemateg, Cydlynydd yr Amserlen a Dirprwy Bennaeth Blwyddyn 8
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Ers 2007 fel athro (13 mlynedd!) a 7 cyn hynny fel disgybl.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Fy athrawes Fathemateg ym mlwyddyn 7 - 9.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Darllen, gwylio ffilmiau dylwn i fod gweld ers sbel a mynd am dro bob dydd. A gwneud Mathemateg wrth gwrs!
Beth yw eich rôl yn yr ysgol?
Pennaeth Adran Ieithoedd Tramor Modern
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
16 mlynedd
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Roeddwn i eisiau rhannu profiadau gefais i wrth ddysgu ieithoedd newydd a gobeithio bydd disgyblion yn cael eu hysbrydoli i ddilyn llwybrau annisgwyl a chyffrous yn eu bywyd.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Plannu hadau, darllen a dawnsio i raglen Huey Morgan ar fore Dydd Sadwrn.
BBC Radio Cymru - Gorwelion - Mellt
Daw aelodau Mellt o Aberystwyth. Disgyblion Blwyddyn 13 yn Ysgol Penglais. Ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o fandiau ysgol, fydd dim un can sy'n atseinio'r Arctic Monkeys neu Guns 'n' Roses yn eu casgliad o ganeuon. Mae gan y band stormus Mellt set sy'n llawn bolltau trydanol o gerddoriaeth wyllt tebyg iawn i'r band anhygoel, Cysgod Cyfarwydd.
Maen nhw'n gweithio ar hyn o bryd gydag un o enwogion y Sin Roc Gymraeg, Mei Gwynedd (Beganifs / Big Leaves / Sibrydion / sawl sesiwn!)
The band Mellt came to Gwynllyw recently and performed live for us. An upcoming Welsh band who are making a name for themselves on the Welsh rock scene.
Ydych chi'n hoffi codio? Oes diddordeb gyda chi ddysgu mwy am beth yw codio a sut mae'n effeithio arnom ni bob dydd? Wel dyma'r rhaglen i chi. Ar gael ar Netflix, dyma sut mae IMDB yn disgrifio'r rhaglen:
"Explained" Coding (TV Episode 2019) - Plot Summary - IMDb
Explained looks at how computer code now controls how we live. It looks at how computer code is pervasive in how it effects our lives. It looks at the development of machine code first in the textile industry and later binary code in early mechanical computers. It also discusses computer logic, algorithms, computer languages, personal computing, and machine learning.
You may have seen Kayley's work around school or on Twitter. Kayley was recently featured on Prynhawn Da on S4C and you can read about her inspiration below.
Mae gen i lawer o ddiddordeb yng nghelf, ac ar hyn o bryd yn astudio hi fel un o fy mhynciau lefel A. Dw i o hyd yn awyddus i drio pethau newydd ac i arbrofi efo deunydd gwahanol, ond yn bennaf dw i’n tueddi i weithio llawer efo fineliner a phrintio. Rydw i’n hoff iawn o brintio, er gall hi fod yn broses hir iawn o gynllunio, a cherfio, ond mae’r canlyniad o hyd yn wahanol, ac mae’r print ei hun yn bold ac yn egniol. Byddwn yn disgrifio fy steil yn un eithaf bras a rydw i’n hoff iawn o ddefnyddio lliw yn fy ngwaith i gynrychioli bwrlwm ac egni. Mae hi’n bwysig iawn eich bod yn cyfleu neges yn eich gwaith, a rydw i’n hoff iawn o weithio efo’r thema a’r neges o gofio, oherwydd mae hi’n hynod o bwysig i ni fel Cymry i gofio ein hanes ac i gadw yr Iaith Gymraeg yn fyw.
Fel disgybl sydd hefyd yn astydio Y Gymraeg, mae gymaint o ddiddordeb ac angerdd ‘da fi yn yr Iaith Gymraeg ac yn ddiwylliant a hanes Cymru. Rydw i’n gweithio llawer efo’r thema o Gymru a Chymreictod yn fy ngwaith celf, gan ei fod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi. Gall unrhyw beth fy ysbrydoli i, boed yn gân, tirwedd neu’n wyl, ond yn bennaf barddoniaeth yw fy ysbrydolieth fwyaf. Fel rhywyn sydd yn ysgrifennu barddoniaeth fy hun, mae hi’n wir i ddweud bod, llun wedi’i hysgrifennu efo geiriau yw cerdd. Mae o hyd ryw ddelwedd yn fy mhen cyn i mi rhoi pen ar bapur, felly o’n i mwyn dod a hynny mewn i fy ngwaith celf a phlethu barddoniaeth mewn i fy ngwaith.
Darllenwch fwy am Fae Caerdydd ar wefan Caerdydd.
Learn all about the many exciting things you can see and do at Cardiff Bay - something to look forward to post lockdown. Why not plan a trip? What would you do first?
Watch this clip about Cardiff Bay. What is your favourite place to go for a walk? Send us a picture and describe the place.
Ar noson Calan, ni chysgais. Ar Ionawr 02, 2020 fe gyrhaeddais Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd tua 2:30 y bore, yn gyffrous am y pythefnos nesaf o fy mlaen yn Cape Town, De Affrica.
Pwrpas y daith hon oedd cystadlu ym Mhencampwriaethau Cadetiaid Rhyngwladol (ICC) St John Ambiwlans ymhlith gwledydd megis Mauritius, Seland Newydd, Canada a llawer mwy! Roedd cwrdd a phobl o ddiwylliannau mor amrywiol yn anhygoel: profiad deffroadol iawn. Y prif ddiwrnod oedd y 9fed o 12 dydd. Roedd yn ddiwrnod cystadlu o 15 awr a oedd yn cynnwys arholiad ysgrifenedig am 6 o'r gloch y bore, pedwar efelychiad (simulation) ac i mi, cystadleuaeth dril lle roedd yn rhaid i mi reoli 24 o Filwyr Byddin De Affrica, wrth gael fy marnu gan eu Rhaglaw Cyffredinol (Lieutenant General). Credaf mai hwn oedd y diwrnod mwyaf heriol yn fy mywyd hyd yn hyn. Nid wyf erioed wedi gweld senarios o'r fath, gyda chleifion mor realistig. Fel tim o bedwar, fe aethon ni at y sefyllfaoedd a gorfod ymateb yn gyflym i'r hyn yr oeddem yn gallu ei weld - mewn un sefyllfa, roedd 10 claf a damwain tacsi. Yn y sefyllfa honno, beth ydych chi'n ei wneud? Gwnaethom asesu'r sefyllfa yn effeithlon, a llwyddo i drin y cleifion a anafwyd fwyaf difrifol gan gynnwys gwaedu mawr i'r goes uchaf, dynes yn cael babi ac anaf i'r pelfis. Mewn efelychiadau eraill, fel grwp ac fel unigolion, gwnaethom drin plentyn ifanc yn boddi mewn pwll nofio, hen ddyn oddi ar feic a llawer mwy yn ystod y dydd.
Yn amlwg, nid oedd y daith yn gwbl seiliedig ar waith! Yn ystod dyddiau eraill gwelsom olygfeydd enwog fel Table Mountain, Ynys Robben a Gerddi Botaneg Kirstenbosch. Hefyd, fe aethon ni ar Safari, Taith Bws Coch, ymweld ag Ynys y Morloi a chanwio ar hyd afon Breede. Yn ystod yr amseroedd hyn fe wnaethom adeiladu bondiau bythgofiadwy gyda phobl o bob cornel o'r byd, a chael cyfle i ddod i adnabod diwylliannau eraill.
Y diwrnod gorau, o bell ffordd, oedd y diwrnod y cawsom gyfle i wirfoddoli mewn ysgol gynradd leol. Roedd yr ysgol hon yn dioddef o dlodi difrifol. Am eiliad, ystyriais fy ngwerthoedd fy hun ac ers yr eiliad honno, mae fy mywyd wedi newid. Y plant a oedd yn ddisgyblion yn yr ysgol hon, Scherpenheuwel, oedd y bobl ifanc fwyaf diolchgar rwyf wedi eu cyfarfod erioed. Roedd eu hangerdd am yr ysgol yn rhagorol, a'u diolchgarwch yn anhygoel. Roedd paentio eu hysgol, adeiladu ystafell ddosbarth newydd ac ail-osod eu cegin yn brofiadau na fyddaf byth yn gallu eu hanghofio. Roedd pob eiliad a dreuliais yn yr ysgol honno yn gwneud i mi fod eisiau sgrechian a chrio, ond fe wnaeth agweddau'r plant adfer fy ffydd mewn dynoliaeth - mae rhai yn ddiolchgar iawn am eu haddysg, ac nid oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n gweld hwnnw ar y raddfa hon.
Yn ystod y daith unigryw hon, gwnes i ffrindiau gwych a ffurfiais atgofion anhygoel. Yn bwysicaf oll, dysgais bwysigrwydd rhoi eich gorau i bopeth. Pe na bawn wedi bod yn gwirfoddoli gyda St. John Cymru ers blynyddoedd, byddwn wedi treulio pythefnos gyntaf mis Ionawr yn yr ysgol. Pe na bawn erioed wedi cyflwyno fy enw i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, efallai na fyddai Pencadlys Cenedlaethol St John wedi gwybod fy enw, ac yn bendant ni fyddwn wedi fy ngweld yn gynrychiolydd ar gyfer y sefydliad i deithio i Dde Affrica.
Fy nghyngor i unrhyw un fyddai i fynd amdani! Peidiwch byth a gwrthod cyfle - mwynhewch y rhai a roddir i chi.
Yn ystod yr amser ofnadwy o anodd hwn o ansicrwydd, byddwch yn bositif. Nid yn unig tuag at eich gilydd, ond tuag at eich hunain... Mae'n bwysig ein bod ni'n gofalu amdanom ein hunain dros y misoedd nesaf wrth i'r amser hwn ddod yn fwyfwy heriol. Bydd y sefyllfa newydd hon yn gofyn am wneud penderfyniadau gofalus iawn, felly mae hefyd yn bwysig ein bod yn deall y penderfyniadau hynny a wneir gan y rhai sydd uwch ein pennau; cofiwch fod awdurdodau eisiau'r gorau i ni, eu bod nhw ar ein hochr ni.
On the night of New Year's day, I didn't sleep. On January 02, 2020 I arrived at Cardiff International Airport at around 2:30am, excited for the next two weeks ahead of me in Cape Town, South Africa.
The purpose of this trip was to compete in International Cadet Championships (ICC) amongst countries including Mauritius, New Zealand, Canada and many more! Meeting people from such diverse cultures was incredible: a very awakening experience. The main day was the 9th of 12. It was a 15-hour-competition-day which included a written exam at 6am, four casualty simulations and for me, a drill contest where I was required to command 24 South African Army Soldiers, whilst being judged by their Lieutenant General. This may have been the most challenging day of my life. I'd never seen such scenarios, with such realistic casualties. As a team of four, we approached the scenes and had to rapidly respond to what we could see - in one, 10 patients and a crashed taxi (really, they'd crashed it for the purpose of this simulation). In that situation, what do you do? We assessed the scene efficiently, and managed to treat the most severely injured patients including major bleeding to the upper leg, a lady in labour and a pelvic injury. In other simulations, as a group and as individuals, we treated a drowning child, an elderly man and many more casualties during the day.
Obviously, the trip wasn't entirely work-based! During other days we saw famous sights like Table Mountain, Robben Island and Kirstenbosch Botanical Gardens and the cape Waterfront. Also, we went on Safari, a Red Bus Tour, visited Seal Island and canoed along Breede river. During these times we built unforgettable bonds with people from around the world, and were given the opportunity to truly embrace other cultures.
The best day, by far, was the day we were given the chance to volunteer at a local primary school. This school was suffering from severe poverty. For a moment, I considered my own values and since that moment, my life has changed. The children who were pupils at this school, Scherpenheuwel, were the most grateful young people I have ever met. Their passion for school was admirable, and their gratitude incredible. Painting their school, building a new classroom and re-fitting their kitchen were experiences I will never be able to forget. Every second I spent at that school made me want to scream and cry, but the student's attitudes restored my faith in humanity - some are extremely grateful for their education, which I never thought I'd see to this scale.
During this trip of a lifetime, I made great friends and amazing memories. Most importantly, I learnt the importance of giving your all. If I hadn't been volunteering with St. John Cymru for so long, I would have spent the first two weeks of January in school. If I had't ever put my name forward to be a member of the Welsh Youth Parliament, St. John's National Headquarters may not have known my name, and definitely wouldn't have seen me as a representative for the organisation.
My advice to anyone would be to go for it! Put yourselves out there, never turn down an opportunity and enjoy those you are given.
During this awfully difficult time of uncertainty, please be positive. Not only towards each other, but towards yourselves... It's important that we look after ourselves over the coming months as this time becomes evermore challenging. This unprecedented situation will require for very delicate decisions to be made, so it's also important that we are understanding of those decisions made by those in power; remember that authorities want the best for us, that they're on our side.
A beautiful picture from Emily - an image to bring some happiness. This was Emily's task for her Mindfulness lesson.
Ydych chi'n chwilio am rywbeth gwahanol i wneud? O Glocsio i Her Lego, mae Menter Iaith BGTM yn darpau gweithgareddau ar lein i'n cynnal ni yn y cyfnod yma. Manylion ar eu gwefan.
http://www.menterbgtm.cymru/home
From clog dancing to lego challenges, Menter Iaith ar providing activities online to help entertain us during these strange times. Details on their website.
Fersiwn ap o'r wefan SGLEIN AR LEIN yw hwn. Mae'r wefan a'r ap wedi creu ar gyfer dysgwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf CA5/safon uwch. Mae'r ap yn rhoi blas o gynnwys y wefan ac wedi'i gynllunio i gynnig profiadau a heriau gramadegol rhyngweithiol ar ffonau symudol clyfar ac ar dabledi. Gallwch weld y wefan ei hun isod.
This app is a reduced version of the website below. Suitable for anyone wishing to study Welsh at A Level or anyone who would like to brush up on their language skills. The main website is below.
Gallwch chi glywed rhan 1 o'r stori yr Horwth gan Elidir Jones yma. Listen to the first part of the story on Sound Cloud.
Bydd y rhifyn nesaf ar gael o ddydd Llun 4 Mai 2020. Os hoffech gyfrannu, cofiwch ddanfon eich darn at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 30 Ebrill 2020.
Our next issue will be available on Monday 4 May 2020, remember to send your contribution to llais@gwynllyw.org before Thursday 30 April 2020.