8 Mehefin 2020
Welcome to issue 8 of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. If you would like to contribute to the next issue, email your ideas to llais@gwynllyw.org before Thursday 11th June 2020.
Beth ydy eich rol yn yr ysgol?
Athrawes Cerdd a Drama
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Blwyddyn a hanner - ond yn gyn-ddisgybl hefyd.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
I ysbrydoli plant i fynegi eu hun mewn ffordd greadigol trwy'r celfyddydau.
Sut ydych chi'n goroesi lockdown?
Gwylio Box sets o Grey's Anatomy, mwynhau yr haul a mynd a Doli (fy nghi) am dro dros y mynyddoedd.
Unrhyw wybodaeth arall?
Rydw i'n edrych ymlaen i ddod nol at yr ysgol i weld eich wynebau chi i gyd ac i fynd nol i ryw fath o normaliti.
Beth ydy eich rol yn yr ysgol?
Rwyf yn athrawes Addysg Grefyddol a Phennaeth blwyddyn 11 ar hyn o bryd. Byddaf yn dechrau gweithio fel Pennaeth Addysg Grefyddol o fis Medi ymlaen.
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Rwyf wedi bod yn gweithio fel Athrawes Addysg Grefyddol yng Ngwynllyw ers 2014.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Cefais i brofiad arbennig o dda yn yr ysgol - roeddwn i'n lwcus iawn i gael athrawon ysbrydoledig ac roeddwn i'n awyddus iawn i weithio gyda phlant a cheisio gwneud gwahaniaeth gyda hwy. Roedd dad hefyd wedi gweithio fel athro ac felly roedd y byd addysg o fy nghwmpas o oedran ifanc.
Sut ydych chi'n goroesi lockdown?
Dwi wedi bod yn ceisio gwneud llawer o gerdded (er nad yw'r ci'n hapus iawn gyda hwn - diog!), rwyf wedi dechrau busnes bach yn gwerthu brownies, cacennau ag ati ar yr ochr sydd wedi cadw fi'n brysur. Dwi a fy ffrindiau a teulu hefyd wedi bod yn cadw mewn cyswllt drwy wneud cwisiau ar Zoom a dathlu achlysuron arbennig fel penblwydd, priodasau ag ati drwy hwn hefyd. Diolch byth am y tywydd braf rydym ni wedi cael - dwi wedi llwyddo i weithio a dal yr haul yr un pryd!
Beth ydy eich rol yn yr ysgol?
Pennaeth Ffiseg
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Dyma fy mhedwaredd flwyddyn yma yng Ngwynllyw.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Roedd fy rhieni yn athrawon. Roedd mam yn athrawes gynradd a dad yn un o'r athrawon cyntaf i ddysgu Cemeg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ddau yn arwyr i mi!
Sut ydych chi'n goroesi lockdown?
Rwy'n hoffi torri'r dydd lan i rannau bach. Unwaith fy mod wedi gosod gwaith yn y bore, rydw i'n cael hoe bach i ddarllen neu gwylio'r teledu. Yna, rwy'n mynd yn ol i weithio cyn cael cinio. Rydw i'n mynd am dro yn y prynhawn, yn eithaf aml rown y llyn cyfagos. Mae fy ngwallt nawr yn edrych yn wyllt, felly rydw i wedi dechrau gwisgo het drwy'r amser...
Unrhyw wybodaeth arall?
Fy hoff lyfr yw The Martian gan Andy Weir.
Dyma argymhelliad Miss K Jones: Pluen gan Manon Steffan Ros
''Chawn ni ddim siarad am Hywel. Ddim ar ol be ddigwyddodd.''
Pwy oedd Hywel? Beth ddigwyddodd iddo? Pam y bluen wen? Dyma rai cwestiynau mae Huw yn ceisio eu hateb wrth wneud ei waith cartref am yr Ail Ryfel Byd.
Dyma stori arbennig am fachgen 12 oed sy'n wynebu salwch anodd ei Nain, dementia, wrth iddo hefyd ymchwilio i'r cyfrinachau am hanes ei deulu yn ystod y rhyfel.
Rydym wedi creu gwefan pontio ar gyfer disgyblion yr ysgolion cynradd. Mae'r holl wybodaeth pontio ar gael trwy wasgu ar y ddolen isod. Mae yna neges bwysig oddi wrth eich athrawon cofrestru!
https://sites.google.com/gwynllyw.org/pontiogwynllyw2020/hafan
We have created a website for primary school pupils. All of the transition information is available by clicking the link above. There is a special message from your for tutors!
Enw genedigol: Elin Fflur Llewelyn Jones
Ganwyd: 1984
Ynys Môn, Cymru
Genres: pop, soul, gwerin, pop-roc
Galwedigaeth: cantores, cyfansoddwraig caneuon, cyflwynydd
Cantores Gymreig o Gymru yw Elin Fflur Llewelyn Harvey, sy'n adnabyddus yn broffesiynol fel Elin Fflur. Mae Elin Fflur yn adnabyddus iawn yn y cyfryngau Cymraeg, yn enwedig ers iddi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002.
Dechreuodd gwreiddiau cerddorol Elin Fflur gyda'i mam Nest Llewelyn Jones, a oedd yn brif unawdydd y band gwerin Cymraeg yn eu datganiadau cynnar, prawf-roc. Yn union fel y byddai Elin Fflur yn gwneud 24 mlynedd yn ddiweddarach, daeth Bran yn adnabyddus am ennill Cân i Gymru yn 1978. Cafodd Elin Fflur hefyd ei hysbrydoli gan hoff artistiaid ei thad, a oedd yn cynnwys Joni Mitchell, Leonard Cohen a'i ffefryn personol, Janis Ian. Yn ei harddegau, ysgrifennoddElin ei chaneuon roc ei hun, gan ddisgrifio ei hun fel "gwrthryfelgar".
Dechreuodd Elin Fflur gymryd rhan mewn eisteddfodau lleol o 3 oed a daeth yn enw cyfarwydd mewn Eisteddfodau Cenedlaethol wedi hynny. Bu Elin yn cymryd rhan yn Cân i Gymru yn 2002. Enillodd y gystadleuaeth gyda'r gân "Harbwr Diogel " wedi ei chyfansoddi gan Arfon Wyn – yr un cyfansoddwr a ysgrifennodd yn 1979 gân fuddugol "Ni welaf yr haf " i fam Elin Fflur a'r band Pererin.
Mae Elin Fflur yn gweithio tu ôl i'r llenni yn achlysurol ac fel cyflwynydd ar S4C, y sianel deledu Gymraeg, ar y sioe deithiol gerddorol i ddechrau nodyn, ond yn fwy ddiweddar ar raglen gylchgrawn nosweithiol heno. Ar hyn o bryd mae Elin Fflur yn cyd-gyflwyno Cân i Gymru bob blwyddyn ar S4C.
Y Gwahaniaeth o dan y tonnau
Y Tonnau yn mynd nol ac mlaen fel pendil
Y pysgod mynd rownd yn cylchau fel ceir ras
Swn tawel y mor yn swnio fel ffidl
Y cregyn pigog fel picas
Y gwylanod yn sgwrsio fel ffrindiau
Y bobl yn ymlacio fel madfall yn yr haul
Y traeth yn sgleiniog fel diemwntau
Y crancod yn goch fel llosg haul
Y plastig yn y mor yn barod i gael ei bwyta fel bwyd mewn bwyty
Y llygredd yn y mor yn fel mwd yn pwdlo
Y bobl yn gadael sbwriel fel raccoon yn mynd trwy bin du
Y dwr yn dywyll fel glo
Y dwr difywyd fel anialwch
Y rhwyd yn dal pysgod fel person dal pel
Mae pobl wedi lladd yr ardaloedd yma...
Dydy hyn dim yn meddwl ni ddim yn gallu helpu.
Mae Cysgliad, pecyn meddalwedd sy'n cynnwys gwirydd iaith a gramadeg Cymraeg, yn awr ar gael i'w lawr-lwytho am ddim yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru. Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi disgyblion sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'u rhieni, yn ogystal a phobl sy'n gweithio gartref a sefydliadau bychain yn ystod y pandemig coronafeirws - a thu hwnt.
Lansiwyd y fersiwn gyntaf o'r gwirydd sillafu Cymraeg - CySill - yn 1988. Hyd yma, bu rhaid i ddefnyddwyr dalu am drwydded i ddefnyddio'r feddalwedd, sydd bellach yn cynnwys geiriaduron a gwirydd gramadeg, ar eu cyfrifiadur Windows.Ond o heddiw ymlaen, gall unigolion, ysgolion a sefydliadau sy'n cyflogi llai na 10 o bobl lwytho'r pecyn i lawr a'i ddefnyddio am ddim.
Daw hyn fel rhan o becyn o gefnogaeth i helpu plant a'u teuluoedd, a'r cyhoedd yn gyffredinol, i ddefnyddio'r Gymraeg wrth weithio gartref yn ystod yr argyfwng presennol.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru fod adnoddau ychwanegol yn cael eu rhyddhau i gefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ystod y pandemig coronafeirws, ac mae Cysgliad am ddim yn un ohonynt.
Meddai: "Rwy'n arbennig o falch fod Cysgliad yn awr ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau bychain, o ganlyniad i'r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor.
"Bydd hyn o fudd mawr yn arbennig i rieni di-Gymraeg sydd â'u plant yn mynychu ysgolion Cymraeg, yn ogystal a'r disgyblion eu hunain, busnesau bychain, elusennau ac eraill sy'n defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd."
Ychwanegodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor: "Roedden ni'n gwybod o adborth defnyddwyr dros y blynyddoedd fod Cysgliad yn declyn hynod werthfawr i bobl sy'n ysgrifennu a defnyddio'r Gymraeg - ac mae'n help mawr i gynyddu hyder.
"Rydyn ni'n falch iawn fod y drwydded am ddim ar gael i helpu pobl sy'n dysgu, addysgu a gweithio gartref yn ystod y cyfnod anodd hwn. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o bobl o bob oed yn llwytho Cysgliad i lawr ac yn defnyddio'r feddalwedd, ac yn cael mwy o hyder i ddefnyddio'r iaith o wneud hynny."
To me, my Covid 19 hero would be my parents. I know many people will be choosing heroes such as, Colonel Tom, N.H.S workers, charity workers, front line workers, yes they are all deserved heroes, and will forever be heroes, but to me my heroes are my parents.
I would like to think most people believe that their parents are heroes. I think it is important to recognize them, honour them and all they do for us.They are my heroes because they have taught me a lot and they know the value of life. They have kept me grounded during this outbreak, and made what is a strange situation not so strange. A hero to me is a person, who is selfless and helps others to grow in all areas of life and that is my parents. Without them I would never have coped with this new Covid 19 life we have all been subjected to.
My Dad born in December 1979, and my Mam, born in May 1982, met in Trevethin School ( they did not like each other then hehe ). They have been together for 21 years, married for 14. They still make each other smile and have great fun together. My Mam always said that we are the 3 musketeers. I do not say it enough but I really look up to them and I hope I have a relationship as fun and as good as theirs. They always work hard to give me a fab life and always put me first.
Firstly, my parents have always taught me to give to others when you can, and always help others whenever you can, no matter how small it can make a big difference. No matter what my parents face they do it together, and I think this makes them strong, they always do it with a smile and ensure I am protected at all times. They always have my back and I know they will always help and guide me. They have taught me life is a gift to be enjoyed each day, if you work hard you benefit in the end. Always give 100 percent, even if you fail if you have tried your best then you're still a winner. Don't get me wrong, my Dad is a lot more laid back than my Mam ( she can be a little crazy protective of us hehe); they are not perfect, who is?? But to me they are the best. If I am poorly they go out of their way to care for me, no matter how tough of a day they have had. They let me go online and play with my friends, keep me in contact with family, play games, watch movies. They keep my day full.
Secondly, they might not seem like a typical hero what does the word hero mean?? How do you define a hero?? They are a person who often do what is better for the greater good, kind, courageous and smart. And that's my parents, even if my Mam keeps sayin'I'm glad you have your dad's brains, or you would be going back to school a lot more behind than what you started before this homeschoolig' hehe. During this outbreak Mam is constantly not just entertaining me, keeping me safe, helping me with school work, but checking family are ok , that my Grandparents have all they need. My Dad delivers all they need once a week even if he is really tired after work. They comfort me, care for me and teach me every day. I know they might not seem like a typical hero but to me they are.
Finally, true heroes exist everywhere, they do not have to be superheroes with powers flying all over the place. They can be sat right next to you. A hero is a person with compassion and puts others first and that to me, is both my parents, my heroes, the ones who have got me through so far this covid 19 outbreak, keeping me safe, entertained, and more importantly happy.Â
Ers faint wyt ti wedi gadael Gwynllyw?
4 blwyddyn yr haf yma.
Beth yw dy sefyllfa ar hyn o bryd o ran y syrffio?
Blwyddyn diwethaf, cymerais flwyddyn i ffwrdd o gystadlu er mwyn cwblhau fy mlwyddyn olaf Prifysgol i safon uchel. Eleni roeddwn yn mynd i ddechrau cystadlu eto er mwyn gystadlu am le yn nhim Prydain a byddaf yn teithio i'r Pencampwriaeth Byd yn El Salvador, ble byddaf yn cael y cyfle i ennill safle yn y Gemau Olympaidd. Dwi nawr wedi dechrau Triathlon ble roeddwn yn mynd i gystadlu gyda thim Prydain yn yr 'Age Group World Championships' yn Canada.
Fy hanes cystadlu a fy hoff atgofion o syrffio yw:
6 waith yn Bencampwraig Cymru
Ennill BUCS Surfing (British Universities Champion)
Surf Snowdonia UK Pro Tour Champion
Ail ym Mhrydain
Cystadlu mewn tair Pencampwriaeth Byd a tair Europeans.
Ers pryd wyt yn syrffio ? Beth oedd dy ysbrydoliaeth i syrffio ?
Dwi wedi bod yn syrffio ers fy mod yn gallu nofio! Roeddwn yn dechrau cystadlu a syrffio yn aml pan roeddwn yn 12 mlwydd oed. Fy ysbrydoliaeth syrffio yw fy nhad, a dad ddysgodd mi sut i syrffio, mynd a fi i'r traeth bob pythefnos ac yn bresennol yn mhob cam o fy mywyd cystadlu, trwy'r canlyniadau gwael a da!
Sut wyt ti'n goroesi 'lockdown'?
Ar hyn o bryd rydw i'n cwblhau fy ymchwil meistr ym Mhrifysgol Abertawe ac felly rydw i dal yn gweithio o adref! Dydw i methu casglu unrhyw wybodaeth a data ac felly rhaid newid fy topic ychydig! Dwi wedi bod yn rhedeg/beicio ar y turbo er mwyn cadw yn heini a chael egwyl o'r gwaith. Rydw i ond wedi clywed yn y dyddiau diwethaf fod y world Triathlon champions wedi ei orhirio felly lan at hynny roeddwn dal yn ymarfer er mwyn cystadlu.
Oes unrhyw lockdown fideos e.e. ymarfer syrffio neu ymarfer corff yn yr ardd ?
Mae gen i fideo o'n 'lockdown virtual varsity'. Gan fod ein Welsh Varsity rhwng Abertawe a Caerdydd wedi gohirio roedd pob clwb yn cystadlu mewn sialens wahanol, y Transistion challenge oedd y sialens triathlon. Blwyddyn yma roeddwn yn Gapten y clwb Triathlon ac roeddwn yn curo Caerdydd!
https://www.facebook.com/SwanseaUniSU/videos/pcb.541329076582706/10163824263540554/?type=3&theater
Beth yw dy hoff lyfr? Pam?
Fy hof lyfr yw hunangfiant Nicole Cook a Geraint Thomas, dau o feicwyr gorau Cymru. Dwi'n credu ei fod yn ddiddorol darllen am bethau sy'n digwydd tu ol i'r llenni ac mae'r ddau ohonynt yn fy hoff bobl chwaraeon.
Pa fandiau / cerddoriaeth rydych yn ei hoffi ?
Ed Sheeran, ond yn hoffi unrhyw gerddoriaeth heblaw am rap!
Beth wyt ti'n ei wylio ar y teledu / ar lein?
Dwi'n hoffi gwylio Netflix ar hyn o bryd ac yn mwynhau gwylio murder mysteries neu unrhyw ffilm Marvel!
Here is Caiti Beynon singing for her church recently, a very talented young lady with a beautiful voice. Thank you for sharing with us.
Paris was a very different city.
Of course, some things looked the same; the exclamation mark of the Eiffel Tower still punctuated the skyline; Sacre-Coeur still sat on top of its hill at Montmartre watching over the city's inhabitants as they went about their business; and the silver ribbon of the Seine continued around the buttressed flanks of Notre Dame, churning between the bridges that linked the river's right and left banks.
To all of us however, Paris is now a very different city.
No matter where I went those iconic landmarks of Paris were changed forever. On close inspection The Eiffel Tower was corroded by years of rust with the surrounding ground cover stained a rusty orange colour. The gargoyles that once keep watch on the city from their lofty purchases high in the structure of Notre Dame Cathedral were dotted around the ground; smashed, deformed. The flea market along the banks of the Seine, once swarming with company now gone, leaving only the scraps of the red, white and blue material that once hung proudly over the town. The Seine once devoid of life was now running clear and full of fish and other water creatures.
It wasn't always this way; it all began five years ago on a bleak midwinter's day. Christmas day in fact. The remarkable thing about Christmas is that I celebrated my birthday on the same day. It was my 12th birthday. Every year like clockwork I would climb out of my bed and run down the creaky staircase in an endeavour to wake up my family so we could gather in the living room to open up the gifts we received, but that year something different happened. You see when I reached the living room to my surprise nobody was up and the room sat in eerie silence.
I went upstairs to wake everyone up but there was no one in any of the rooms. I started to panic - where could they all be? After I came to my senses I realised they must have gone out which was odd for a Christmas morning. I was startled by a knock at my door; I didn't think lot about it when I opened it as I live in a close knit community in Neuilly-sur-seine which is a few miles away from the capitol. It was Henri Chalamet and his two sisters Renee and Therese
"Marie are your family in because mine are nowhere to be seen, I'm worried what if they're missing." Renee blurted out.
"No but my family are mostly like out, you know how they like to go out early to the Christmas market" I responded hesitantly.
We pondered for a minute and all four of us agreed on rounding up the town to try and work out what had happened to all of our parents. We started to ring our friends and suggested we all gather in the town square later that morning. Each person was told to pass the message on to their friends and cousins. When it reached 11 am the town was filled with people who had received the call. Henri decided we needed to understand who had gone missing, it was then we realised we all had something in common... we were all children.
The town square was packed with people like sardines in a tin; everyone roaring and questioning where their parents were and why had they disappeared.
"Be quiet everyone we will have no chance of figuring this out if everyone argues" shouted Michael the oldest amongst us. "We can't make you stay here so if you want to leave; go and don't bother coming back but if you want to stay here and help figure out what the hell is happening to us go over to Renee who will go over the plan. Thank you and stay calm."
People left complaining that it was better without parents and how it was a waste of time coming here, but many stayed to discuss the plan
"Right so it's best that we all split up, some you should go out and collect food from each shop. I know it it's not right but don't worry about paying as there is nobody to give the money to and we may need the money for more important things."
Five of them left the group.
"Marie and Henri you to go to the town hall to look through the archives to see if there's any clue or research which will be useful to us". After Renee finished assigning roles and jobs we all left to do ours.
Henri and I reached the town hall and after a few minutes rummaging through various offices and files and eventually we found a file that was labelled the Virus. We opened it and it revealed that the council had research from scientists have discovered something involving an infectious cell in the body of adults.
"Why does it stop there? Why isn't there any more information or a treatment? Why didn't they publish?" I shouted while throwing the paper around. "Right we need to tell the others".
Two hours later we all regrouped in the town centre to share what we found out. "I went to see if we were the only place to have adults go missing and it turned out it's happening worldwide" Therese exclaimed.
There's no cure, we are stuck like this.
Months had now passed. The oldest Michael had now disappeared, it was very disturbing when he got infected- he was there one minute and then I saw him rot away all in the matter of seconds leaving nothing behind of him. We are stuck here too scared to leave the town but thankfully we have enough supplies to last us for some time.
So still stuck in what was once a beautiful place that I called home but it's just a distant memory. I'll be turning 18 in 6 months and I've spent the last five years without the comfort of my family. I wonder when I will be reunited with them or if I ever will be reunited.
Freya Swenson (Blwyddyn 10)
Amser | Atebol Siop
Ap Amser Atebol - Help gyda gwella sgiliau dweud amser. Cyfle i wella sgiliau dweud amser a llwyddo yn yr ysgol. Gem ddifyr a hwyliog sy'n gwneud dysgu yn hwyl! Cyfle i symud o un lefel i'r llall a gweld os ydych chi'n gallu gwella eich sgor. Curo'r cloc ydy'r gamp!
An app to practise telling the time and beat the clock.
Bydd y rhifyn nesaf ar gael o ddydd Llun 15 Mehefin 2020. Os hoffech gyfrannu, cofiwch ddanfon eich darn at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 11 Mehefin 2020.
Our next issue will be available on Monday 15 June 2020, remember to send your contribution to llais@gwynllyw.org before Thursday 11 June 2020.