Rhifyn 1
20 Ebrill 2020
20 Ebrill 2020
Welcome to the first issue of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. If you would like to contribute to the next issue, email your ideas to llais@gwynllyw.org before Thursday 23 April 2020.
Also, get in touch if you would like to suggest a name for the magazine.
Huw Aaron is a Welsh artist and cartoonist who lives in Cardiff. He is well known for his comic strip in Mellten and contributes to Private Eye.
Huw Aaron has created a youtube channel, every day he releases a new video in which you can learn how to draw cartoons.
Bethan Gwanas
Be sy'n fy ysbrydoli i ddarllen?
1. Gallu colli fy hun mewn byd arall, difyr, cyffrous, emosiynol, brawychus, prydferth - be bynnag. Dwi jest yn mwynhau cael fy machu a fy amgylchynu gan fyd dychymygol. ee: dwi bron a gorffen darllen nofel, dwi'n gwybod mai heno fydda i'n cyrraedd y diwedd a dwi'n edrych ymlaen was bach! Nofel arddegau gan Charlie Higson gyda llaw - gwych.
2. Dysgu pethau am y byd ac am bobl. Gwbod bod teledu a ffilmiau yn gallu gwneud hyn hefyd ond mae llyfrau yn rhoi pleser mwy dwys i mi. Pam? Am mai fi sy'n gorfod gwneud y lluniau a'r lleisiau yn fy mhen.
Be sy'n fy ysbrydoli i sgwennu?
Isio i bobl eraill garu llyfrau a chael eu bachu ganddyn nhw, felly dwi'n gofalu peidio sgwennu mewn fordd rhy anodd na chymhleth - digon o bobl eraill yn gallu gwneud hynny. Mae sgwennu 'syml' yn anodd! A dwi'n licio cael sylw os dwi'n onest. Ac mae'n ffordd i bobl gofio amdana i pan fydda i wedi marw! Ffordd o dalu'n ôl i bobl sy wedi fy mhechu i hefyd... (ha!). Hoffi sgwennu am bethau dwi'n eu hoffi hefyd - sgwennu nofel am gi ar hyn o bryd. A dwi'n licio'r job satisfaction. Gwirioni bob tro y bydd llyfr newydd gen i yn cyrraedd yn y post.
Ydych chi wedi darllen llyfrau Bethan Gwanas? Beth oedd eich barn?
Beth am ysgrifennu adolygiad o un o lyfrau Bethan Gwanas?
Beth yw eich rôl yn yr ysgol?
Pennaeth
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Dwy flynedd a hanner. Roeddwn yn dysgu yn Aberaeron ac Aberystwyth cyn dychwelyd i'r De.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Bod yn Swog yn Llangrannog a mwynhau cwmni pobl ifanc yn y Gymraeg.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Beicio ar y ffordd, garddio a darllen.
Beth yw eich rôl yn yr ysgol?
Dwi’n un o ddirprwyon yr ysgol ac yn gweithio gyda Miss Bolton a gweddill yr Uwch Dim Arwain i sicrhau bod chi y disgyblion yn cael yr addysg orau. Rwy’n dysgu gwersi Meddwlgarwch a Lles i Flynyddoedd 7, 8 a 9 a Bagloriaeth Cymru i Flynyddoedd 12 a 13.
Ers faint ydych chi wedi bod yn Ysgol Gwynllyw?
Dwi wedi bod yng Ngwynllyw ers 25 mlynedd a dwi wedi dysgu nifer o’ch rhieni, brodyr a chwiorydd erbyn hyn a sawl un o’r athrawon, cynorthwywyr a staff y swyddfa. Dwi’n falch i ddweud nid wyf wedi dysgu mamgu na thadcu neb eto!!
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Roeddwn i’n ffodus i gael fy nysgu pan yn blentyn gan nifer fawr o athrawon ysbrydoledig (athrawon Hanes yn enwedig) a oedd wedi rhoi cyfleoedd di-ri i fi ym mhob agwedd o fywyd ysgol. O oedran ifanc roeddwn yn gwybod fy mod am wneud gwahaniaeth i bobl ifanc, felly roedd dewis gyrfa fel athrawes yn gwneud synnwyr i fi.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Gwrando ar gyngor y Llywodraeth - aros adref a dim ond mentro allan pan fo’n rhaid. Cadw mewn cyswllt gyda fy nheulu a ffrindiau, darllen, gwrando ar gerddoriaeth, ail-wylio Spooks o’r dechrau ar BBC i-player a digon o awyr iach!
Beth yw eich rôl yn yr ysgol?
Dirprwy bennaeth ac yn athro Gwyddoniaeth. Rydw i'n gyfrifol am ddysgu ac addysgu yn yr ysgol.
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Ers Medi 2019, ymunais â'r Uwch Dîm Arwain o Ysgol Cwm Rhondda.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
I wneud gwahaniaeth o fewn cymuned, mae ysgolion yn gymuned bwysig yn enwedig ysgolion Cymraeg.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Rhedeg er mwyn cadw'n iach, treulio amser gyda theulu a gweithio o adre.
Thanks to Morgan Young Year 8 for this article on Covid-19. How are you surviving lockdown? Send your ideas to us.
Coronfeirws
10 Ebrill 2020
Marwolaeth oherwydd y Feirws
Mae dros 128,948 achosion o coronafeirws yn yr Eidal yn barod, mae 15,887 o bobl wedi marw sydd yn rhif enfawr ac effaith mawr ar y boblogaeth ond mae dal lot mwy i fynd. Ar y foment mae 21,815 wedi gwella sydd yn dda oherwydd wedyn mae pobl yn gwybod os rydych yn aros yn eich ty ac ddim yn symud y feirws o gwmpas, gallwn wella. ond yr Eidal sydd wedi cael y mwyaf o achosion ac marwolaethau ar hyn o bryd
Pwy sydd yn gallu cael y feirws?
Gall bobl o bob oed gael eu heintio gan y coronavirus newydd. Mae'n ymddangos bod pobl hŷn, a phobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes (fel asthma, diabetes, clefyd y galon) yn fwy agored i fynd yn ddifrifol wael gyda'r feirws. beth maen nhw yn dweud i chi wneud i stopio cael y feirws neu os mae’r feirws gyda chi yw cadw golchi eich dwylo bob awr ac ar ol mynd i’r ty bach a chadw hylendid da.
Beth ddylech chi wneud os ydych chi’n cael y feirws?
Beth mae Boris Johnson wedi dweud neu unrhyw un sy'n gweithio gyda NHS os mae gennych y feirws, arhoswch yn eich ty am 1-7 neu 1-14 diwrnod ac os ydych chi’n dangos y symptomau (twymyn, peswch, diffyg anadl, ac anawsterau anadlu) peidiwch a bod mewn cyswllt agos gydag unrhyw un.
Cau Ysgolion
Maen nhw wedi gwneud penderfyniad i gau bob ysgol rownd y byd i arafu lledaeniad y feirws. Mae hwn yn rhoi mwy o amser iddyn nhw ffeindio mas sut i ddarganfod iachad i stopio’r coronafeirws. Mae ysgolion yn y DU yn gwneud gwaith ysgol ar wefan Google classroom, rydych chi'n gallu darganfod y wefan hon ar Google neu yr appstore.
Siopa
O gwmpas y byd, mae rhai wledydd wedi mynd ar lockdown, mae hwn hefyd i atal lledaenu corona virus,ond rhywbeth mae pawb yn panicio am yw mynd siopa, yn y DU mewn pob siop mae na cyfyngiad ar y maint o bobl sydd yn mynd mewn ir siopau ar yrun pryd, hefyd os ydych chi eisiau mynd siopa rydych angen sefyll 2 metr i ffwrdd o bawb ac dim ond un person sy’n gallu mynd mewn ar y tro. Cyn roedd y DU yn bendant ar lockdown roedd pawb yn prynu toilet roll ac bwyd , roedd bron pob siop wedi rhedeg mas o toilet roll.
Felly, sut allwn ni helpu?
Y ffordd orau o helpu gyda'r pandemig hwn yw aros tu fewn i’ch ty, dyna’r unig beth mae pawb yn gofyn amdano, ac hefyd dim ond mynd allan os fydd wir angen wedyn fydd dim problem ac gallwch arbed bywydau pobl. Os rydych yn mynd tu fas i siopa neu helpu gyda teulu sydd yn hen ond rhaid cadw pellter o 2 fetr i ffwrdd, mae hwnna hefyd yn rhoi llai o siawns ohonoch chi ddal y feirws hwn, os mae rhai ohonoch chi yn mynd i gampfa lleol , mae gennym ganiatad i fynd am 1 ymarfer y dydd
Lle gallwch chi fynd i gael rhagor o wybodaeth?
Os ydych yn styc gydag unrhyw beth neu angen help sut i ddelio gyda hwn mae’r ddolen yma yn mynd a chi syth i’r help gyda'r pandemig coronavirus
(https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/)
Peidiwch oedi i ofyn am gefnogaeth os ydych chi angen.
If you need help and support during this time, there is help available.
Thank you to all of those who are working hard to keep us safe during this time. Remember to clap and show your appreciation at 8:00 on Thursdays.
One of Wales' most popular bands - Yws Gwynedd. Enjoy listening to Welsh music - there are lots of bands available on YouTube.
Watch the video clip and then have a go at the game in the website below to learn a little more about Beddgelert and the story of Gelert.
Daeth ap i'm gwneud yn hapus, o'r rhwydwaith
ces eiriadur swmpus,
a gwn y bydd ei gynnwys
yma o hyd ar flaen fy mys.
Mae'r Ap Geiriaduron yn eiriadur Saesneg-Cymraeg / Cymraeg Saesneg sy’n caniatáu i chi chwilio ar-lein am filoedd o eiriau Cymraeg a Saesneg trwy nifer o ffynonellau, gan gynnwys CysGair, Y Termiadur Addysg a'r Termiadur Addysg Uwch.
Mae'r ap ar gael yn rhad ac am ddim i'w lwytho ar ddyfeisiau Android neu iOS.
Nodweddion:
Chwilio’n sydyn mewn amser real
Geiriadur ar-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
Ap cyffredinol ar gyfer Android, iPad a’r iPhone
Graffigau ar gyfer Retina Display
Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
Gallu dad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol i eiriau
Nodwedd manylu er mwyn cael gwybodaeth fwy manwl ar unrhyw air
Chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sydd yn gorffen gyda ‘aith’
Cynnwys y Geiriadur CysGair gyda dros 25,000 o eiriau Cymraeg a 25,000 o eiriau Saesneg
Cynnwys geiriadur ‘Y Termiadur Addysg’; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau addysg safonol
Porth i chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar termau.org
Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd
Wedi’i greu gan Patrick Robertson, David Chan, Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.
A fantastic discussion on Radio Cymru from our very own Maisy Evans Torfaen representative on the Youth Parliament.
Interactive language games to help improve accuracy.
Am gyfle i ennill gwobr, dyluniwch boster / lun sydd yn dangos ystyr y geiriau uchod a nodi o le mae'r geiriau'n dod ar y poster gyda #. Danfonwch y gwaith at llais@gwynllyw.org . Bydd enw'r enillydd yn y rhifyn nesaf.
Dyddiad cau: 24 Ebrill 2020.
Bydd y rhifyn nesaf ar gael o ddydd Llun 27 Ebrill 2020. Os hoffech gyfrannu, cofiwch ddanfon eich darn at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 23 Ebrill 2020.
Our next issue will be available on Monday 27 April 2020, remember to send your contribution to llais@gwynllyw.org before Thursday 23 April 2020.