29 Mehefin 2020
Welcome to issue 11 of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. If you would like to contribute to the next issue, email your ideas to llais@gwynllyw.org before Thursday 2nd July 2020.
Prif ferch: Emily Cosgrove
Prif fachgen: Scott Simpson
Dirprwyon
Lles: James Merchant a Lois Jones
Cymhwysedd Digidol : Catty Langford ac Evan Jacob
Cymreictod : Kayley Sydenham a Lewys Brill
Seren/ UCAS a Phontio bl 11 i 12: Oscar Denton ac Ellie Bainton
Bydd Laura Preston, Blwyddyn 10, ar Radio Cymru ar ddydd Mercher y 1af o Orffennaf am 11:15 gyda Shan Cothi. Mae Laura'n hynod o falch o gael y cyfle a meddai Laura 'Heb yr ysgol yma ac y cyfle i siarad Cymraeg, fydda i ddim di cael y cyfle yma, felly diolch yn fawr!' Pob lwc Laura!
Cyhoeddwyd restr fer albwm Cymraeg y flwyddyn gan BBC Radio Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Gallwch ddarllen mwy yn y wefan isod.
The shortlist for the Welsh Album of the Year 2020 was announced recently - fantastic to see Los Blancos on the list, our very own Mr Rosser, History, is a member of this band.
3 Hwr Doeth Hip Hip Hwre
Ani Glass Mirores
Carwyn Ellis & Rio Joia!
Cynefin Dilyn Afon
Georgia Ruth Mai
Gruff Rhys PANG!
Gwilym Bowen Rhys Arenig
Los Blancos Sbwriel Gwyn
Llio Rhydderch Sir Fon Bach
Mr Amen
Yr Ods Iaith y Nefoedd
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi yn Ă´l yn yr ysgol o heddiw! Cofiwch fod rhagor o wybodaeth ar wefan yr ysgol o dan 'Tymor yr Haf 2020' neu dilynwch y ddolen isod.
We are looking forward to welcoming you back at school from today!. Remember is more information on the website under the tab 'Summer Term 2020' or click on the link below.
https://sites.google.com/view/tymoryrhaf2020/home
Three Year 11 students are trying to escape their different situations and end up going to Weston Super Mare!
This story follows Agnes, a girl with Aspergers who is struggling to cope with her sister moving out, and how she makes friends with Hattie, who is desperately trying to get her old friends back with an amazing Instagram feed. Jake is hiding a secret but perhaps if he shares it, he might find help.
I loved this book as it's an easy, uplifting read with a really positive message on true friendship that goes beyond superficial image. Agnes, Hattie and Jake were real, honest and funny and the story gives point of view from each character, which I found made it more interesting to read.
If you order direct from fireflypress.co.uk, you can get a signed copy with a badge.
Vlog review here https://youtu.be/VGYhuGPMFbg
Adeiladwyd pentref Portmeirion gan y pensaer Cymreig Clough Williams-Ellis o 1925 i 1976.
Gwelodd yma bopeth a ddeisyfai ar gyfer safle delfrydol ar gyfer ei arbrawf pensaerniol: clogwyni serth, nentydd a choedwigoedd uwchlaw traeth eang, tywodlyd ynghyd a chnewyllyn o hen adeiladau.
Ym 1925, cafodd y pensaer Cymreig, Clough Williams-Ellis, hyd i'r safle delfrydol ar gyfer Portmeirion. Roedd wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn chwilio am leoliad addas ar gyfer ei bentref delfrydol arfaethedig a phan glywodd fod ystad Ia Aber ger Penrhyndeudraeth ar werth aeth ati'n union deg i roi cynnig amdani.
Ei fwriad oedd dangos bod modd datblygu safle hardd heb ei ddifetha a'i bod hyd yn oed yn bosibl i ychwanegu at yr harddwch naturiol gydag adeiladau oedd mewn cytgord a'r tirlun. Roedd stad Aber Ia yn cynnig pob dim yr oedd wedi gobeithio'i gael o ran safle i'w arbrawf pensaerniol: clogwyni serth uwchben traeth eang, coedwigoedd, nentydd a chnewyllyn o hen adeiladau.
Mae hanes Portmeirion yn cychwyn ymhell cyn 1925. Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y lle gan Gerallt Gymro yn 1188: "Bu inni groesi'r Traeth Mawr a'r Traeth Bychan, dwy fraich o'r mor, y naill yn fawr a'r llall yn fach. Codwyd castell cerrig yma'n ddiweddar gan feibion Cynan a'i alw'n Gastell Deudraeth a hwnnw wedi ei leolir yng nghwmwd Eifionydd, yn wynebu mynyddoedd y gogledd.
Sonnir am gastell Aber Iau gan Edward Lhuyd yn Parochalia II (1700). Cofnododd enw'r lle fel Aber Iau gan nodi bod "Adfeilion Castell Aber Iau eto'n sefyll ar begwn de-orllewinnol y penrhyn."
Yn 1861 ysgrifennodd Richard Richards ddisgrifiad o'r safle fel yr oedd yr adeg honno: "Nid oedd yno'r un adyn byw, dim ond haid o hwyaid estron ar lyn bychan, a dau fwnci a roddai'r argraff imi, o'r twrw a wnaent, nad oedd fawr o groeso i'm hymweliad. Yr oedd yr ardd ei hun yn un hyfryd, a'r waliau'n drwch o goed ffrwythau a phlasty hardd Aber Ia, annwyl ddarllennydd, ar lan y Traeth Bach ym Meirionnydd."
Prynodd Clough y safle yn 1925 a'r pryd hwnnw, fel yr ysgrifennodd Clough yn ei hunangofiant, roedd y lle "yn ddiffeithwch anniben wedi'i adael i fynd a'i ben iddo ers talwm gan y rhamantwyr rheini a welodd unwaith ei apel unigryw a phosibiliadau'r penrhyn prydferth hwn ond a gollodd eu pennau a gadael i'r tirlunio mawreddog hwn eu torri nes mynd yn fethdalwyr." Y peth cyntaf a wnaeth Clough oedd newid yr enw o Aber Ia i 'Portmeirion' : Port i'w osod ar lan y mor a Meirion i'w angori yn Sir Feirionnydd.
Y gwaith cyntaf a wnaeth oedd addasu'r hen blasty ar lan y mor a'i droi'n westy. Yr oedd y syniad o greu pentref bach rhamantus glan y mor wedi gwreiddio'n ddwfn ym meddwl Clough flynyddoedd cyn iddo ddod o hyd i safle addas.
Codwyd Portmeirion mewn dau gyfnod: rhwng 1925 a 1939 cafodd y safle ei 'begio' ac fe godwyd y prif adeiladau. Rhwng 1954-76 aeth ati i lenwi'r bylchau. Yr oedd arddull yr ail gyfnod yn fwy clasurol a Seorsaidd, a hynny'n gwrthgyferbynnu i raddau helaeth ag arddull Celf a Chrefft y cyfnod blaenorol. Roes gartref hefyd i sawl adeilad dan fygythiad mewn llefydd eraill a hynny'n esgor ar y disgrifiad o'r lle fel "cartref i adeiladau distryw".
Rhyfedd yw pleserau'r pensaer, ysgrifennai yn 1924. "Bydd yn gorwedd yn effro yn y nos tra'n gwrando ar y storm ac yn meddwl am y glaw'n curo ar ei doeau, gwyl yr haul yn dychwelyd gan feddwl mai i union haul o'r fath y gwnaed saerniaeth ei gerrig i daflu cysgod."
Ymddangosodd yr erthygl gyntaf am Bortmeirion yn The Architects Journal (Ionawr 6, 1926) ynghyd a llun o fodelau graddfa a dyluniadau arbrofol a baratowyd gan Clough i wneud argraff ar ddarpar fuddsoddwyr. Yn yr erthygl hon dywed John Rothenstein: "Ar hyd arfordir Gogledd Cymru, nepell o'i hen gartref ei hun, Plas Brondanw, mae wedi prynu'r hyn a dybia i fod yn safle delfrydol, ac mae wrthi'n cynllunio ac yn modelu ar gyfer codi pentref cyfan arno. Bydd canlyniadau ei gynllun yn sylweddol a dylai wneud llawer i chwalu'r syniad presennol, sef er y dylid cynllunio tai yn ofalus, y gall trefi godi trwy hap a damwain."
Agorwyd Gwesty Portmeirion ar gyfer y Pasg, yr 2il o Ebrill 1926. Codwyd adeilad olaf Clough, sef y tollborth , ym 1976 pan oedd yn 93 oed .
The Counselling Service can be found on Facebook:
Torfaen Young People Counselling Service
https://www.facebook.com/Torfaen-Young-Peoples-Counselling-Service-109172984050900/
We are also on Instagram: ccyp_counselling.
If you would like to speak to a counsellor, send us a message.
A counsellor will contact you to arrange a time to call you. Parents, and family members can get in touch with us for you, if you prefer.
Parents can contact us for advice and guidance.
Another way of contacting us is via our Confidential Telephone Message Service:
01633 453035
Leave us a message with your name and number and a counsellor will get in touch.
Direct Contacts: Ceri Jones, Service Manager Tel: 0780 1550582
Email: ceri.jones@ccyp.org.uk
Oliver Wilford, Primary Coordinator Tel: 07590 005585
Email: oliver.wilford@ccyp.org.uk
Mae llawer iawn o'n disgyblion wedi bod yn gweithio yn galed iawn yn ystod y cyfnod hwn ac wedi derbyn tystysgrifau. Dyma rai o flwyddyn 8 gyda'r tystysgrifau.
Lots of pupils have been working really hard during this time and have received certificates. Here are some of year 8 with the certificates.
Mae'r chweched dosbarth wedi creu cwis ar chwedl Branwen. Os ydych chi eisiau cymryd rhan, ebostiwch eich atebion at llais@gwynllyw.org.
(slowly, slowly catch a monkey)
Bydd y rhifyn nesaf ar gael o ddydd Llun 6ed o Orffennaf 2020. Os hoffech gyfrannu, cofiwch ddanfon eich cyfraniad at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 2il o Orffennaf 2020.
Our next issue will be available on Monday 6th July, remember to send your contribution to llais@gwynllyw.org before Thursday 2nd July 2020.