Llais y Llyw

Rhifyn 15

1 Tachwedd 2020

Croeso i rifyn 15 ein newyddlen digidol gyda newyddion diweddaraf yr ysgol. Bydd yr ysgol yn cyhoeddi Llais y Llyw bob mis. Os hoffech chi rhannu eich newyddion, llwyddiannau neu gwaith gyda ni, ebostiwch llais@gwynllyw.org.

Welcome to issue 15 of our digital newsletter with the latest school news. We will be publishing Llais y Llyw every month. If you would like to share your news, achievements or work with us, email llais@gwynllyw.org .

Dysgwyr yr Wythnos

Learners of the Week

Lansiwyd ein menter 'Dysgwyr yr Wythnos' yn ystod yr hanner tymor cyntaf er mwyn cydnabod y disgyblion hynny sydd yn mynd tu hwnt i'r disgwyl a gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymuned yr ysgol. Dewisir disgyblion gan yr Uwch Dîm Arwain a Phenaethiaid Cynnydd. Da iawn i bawb sydd wedi cael eu dewis.

We launched our 'Learners of the Week' initiative during the first half term in order to recognise those pupils who go above and beyond and make a positive contribution to the school community. Pupils are chosen by the Senior Leadership Team and Progress Leaders. Well done to all of those who have been chosen.

Cwricwlwm i Wynllyw

Curriculum for Gwynllyw


Mae Blwyddyn 7 ac 8 wedi bod yn dilyn cwricwlwm newydd cyffrous a thros yr wythnosau nesaf byddwn yn rhannu rhywfaint o'r gwaith gwych y mae ein disgyblion wedi'i gwblhau dros yr wythnosau diwethaf. Disgwylir i Uned 2 y cwricwlwm newydd ddechrau ar 23 Tachwedd. Gall disgyblion ddefnyddio'r wefan isod i baratoi eu hunain ar gyfer yr uned o'r enw 'Beth yw'r dyfodol i Gymru?'

Year 7 and 8 have been following an exciting new curriculum and over the next few weeks we will be sharing some of the fantastic work our pupils have completed over recent weeks. Unit 2 of the new curriculum is due to begin on November 23rd. Pupils can use the website below to get ahead of the game and prepare themselves for the unit entitled 'What is the future for Wales?'

Fel rhan o'r uned Rhyfel: Cyfider? Cyflafan?, mae blwyddyn 7 ac 8 wedi bod yn astudio'r frwydr dros y Gymraeg. Roedd rhai o'n disgyblion blwyddyn 8 yn lwcus iawn i gyfweld Dafydd Iwan ac mae pob disgybl wedi gwylio'r cyfweliad fel rhan o'u hastudiaethau. Mae Dafydd Iwan yn fwyaf adnabyddus am ei ganeuon protest, yn weithredydd adnabyddus dros y Gymraeg ac yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf.

As part of the unit War: Justified?Massacre?, year 7 and 8 have been studying the battle for the Welsh language. Some of our year 8 pupils were very lucky to interview Dafydd Iwan and all pupils have watched the interview as part of their studies. Dafydd Iwan is best know for his prostest songs, a known activist for the Welsh language and an inspiration to the next generation.

Cyngerdd Theatr y Gyngres

Congress Theatre Concert

Rydym yn hynod o ffodus yn Ysgol Gyfun Gwynllyw i gael cyfoeth o ddisgyblion talentog sy'n cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol. Mae'r sefyllfa bresennol, wrth gwrs, yn golygu nad yw llawer o'r gweithgareddau a grwpiau arferol yn gallu digwydd ond mae pobl wedi dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o barhau. Un o'r diwydiannau y mae'r pandemig wedi effeithio arno yw'r diwydiant adloniant ond mae'r diwydiant yn dod o hyd i ffyrdd o sicrhau y gall y sioe barhau. Gwyliwch Laura Preston un o'n disgyblion yn canu mewn cyngerdd a gynhyrchwyd gan Theatr y Gyngres.

We are extremely lucky at Ysgol Gyfun Gwynllyw to have a wealth of talented pupils who take part in numerous activities in and out of school. The current situation of course means that many of the usual activities and groups are unable to be open but people have found new and innovative ways to continue. One of the industries affected by the pandemic has been the entertainment industry but the industry is finding ways to ensure that the show can go on. Watch Laura Preston one of our pupils singing in a concert produced by the Congress Theatre.


Codi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Mental Health Awareness

Er nad oeddent yn yr ysgol gan eu bod yn gorfod hunanosod yn dilyn achos Covid cadarnhaol yn y chweched dosbarth, daeth ein myfyrwyr chweched dosbarth at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl drwy wisgo melyn. Yn ogystal â lluniau o'n myfyrwyr chweched dosbarth fe welwch isod restr wirio lles. Os ydych yn cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd, mae cymorth ar gael bob amser. Gallwch gysylltu â Mrs Leader neu Miss James os oes angen cymorth arnoch.

Even though they were not in school as they were having to self isolate following a positive Covid case in the sixth form, our sixth form students came together to raise aware of mental health issues by wearing yellow. As well as pictures of our sixth form students you will see below a wellbeing checklist. If you are struggling with mental health issues at the moment, there is always help available. You can contact Mrs Leader or Miss James if you are in need of support.

ChildLine on 0800 1111

www.mind.org.uk

www.kooth.com

Cymorth am Ofalwyr Ifanc

Os ydych yn dymuno derbyn mwy o wybodaeth am ‘Gofalwyr Ifanc’, danfonwch e-bost neu dewch i weld :

Miss Rhian James

rhj@gwynllyw.org

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Show Racism the Red Card

Cymerodd disgyblion a staff Ysgol Gyfun Gwynllyw ran yn yr ymdrech i Ddangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Rydym i gyd yn gyfartal, rydym i gyd yn bwysig ac rydym i gyd yn un gymuned. Diolch i'r holl ddisgyblion a'r staff a gefnogodd yr achos pwysig hwn. Gallwch gael mwy o wyblodaeth am ble y bydd yr arian a roddwyd gennych yn mynd drwy edrych ar wefan yr achos.

Pupils and staff at Ysgol Gyfun Gwynllyw took part in the effort to Show Racism the Red Card. We are all equal, we are all important and we are all one community. Thank you to all of the pupils and staff who supported this important cause. You can find out more about where the money you donated will go by looking at the website.


Maisy Evans yn lleisio barn pobl ifanc

Maisy Evans voicing the opinions of our young people

Mae Maisy Evans yn parhau i leisio barn pobl ifanc Tor-faen. Mae wedi bod mewn cyfarfodydd gyda Mark Drakeford AS, Kirsty Williams AS, Lynne Neagle AS ac ar y radio. Rydym yn falch iawn o gael Maisy yn ein Chweched Dosbarth ac yn hynod ddiolchgar iddi am roi cymaint o amser i sicrhau bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed.

Maisy Evans continues to voice the opinions of Torfaen's young people. She has been in meetings with Mark Drakeford AS, Kirsty Williams AS, Lynne Neagle AS and on the radio. We are very proud to have Maisy in our Sixth Form and extremely grateful to her for giving so much time to ensuring the voices of our young people are heard.

(Mark Drakeford on Twitter: "It was good to chat to a brilliant group of young people today thanks to @YoungWalesCIW, and hear how the pandemic is effecting their lives. It's really important we listen to our young people so their opinions inform our decision making. https://t.co/L2G8tjo4Aj" / Twitter


Pontio Cynradd / Uwchradd

Primary / Secondary Transition


O fewn amseroedd arferol byddai blwyddyn 5 a 6 wedi ymuno â ni ar gyfer ein gweithgareddau pontio gyda'n noson agored a byddem wedi ymweld â'r ysgolion. Yn anffodus, nid yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd. Rydym wedi lansio prosbectws digidol, map rhyngweithiol o'r ysgol, sesiynau 'Hawl i Holi' a gynhelir yn rhithiol gyda disgyblion a rhieni. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau pontio pellach wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen.

In normal times year 5 and 6 would have joined us for our open evening, transition activities and we would have made school visits. Unfortunately this is not currently possible. We have launched a digital prospectus, interactive school map, conducted and virtual 'Question Time' sessions with pupils and parents. We are looking forward to holding further transition events as the year goes on.

Disgybl yn ennill gwobr entrepreneuriaeth

Pupil wins entrepreneurial award

Enillodd Millie Dyson ym Mlwyddyn 7 gystadleuaeth yn ddiweddar ar ôl creu busnes gyda dim ond £5. Gallwch ddarllen ei stori yn yr erthygl.

Millie Dyson in Year 7 recently won a competition after creating a business with only £5. You can read her story in the article.


https://www.southwalesargus.co.uk/news/18772181.abertillery-schoolgirl-wins-challenge-plan-business-just-5/



Bydd yr ysgol yn cyhoeddi Llais y Llyw bob mis. Os hoffech chi rhannu eich newyddion, llwyddiannau neu gwaith gyda ni, ebostiwch llais@gwynllyw.org.

We will be publishing Llais y Llyw every month. If you would like to share your news, achievements or work with us, email llais@gwynllyw.org .