EISTEDDFOD RITHIOL GWYNLLYW:
1AF - 5ED O FAWRTH 2021!
Welcome to issue 18 of Gwynllyw's digital magazine. This is the school's digital newsletter with opportunities for learners and their families to read the latest school news. We also share useful links with you.
1af Cariad Brown
2il Laura Preston, Megan Wood, Isabelle Phillips
3ydd Tyler Haynes
Mae'r Pwyllgor Lles wedi creu cyfrif trydar newydd, maen nhw'n trydaru gweithgareddau lles wythnosol. Dilynwch y pwyllgor trwy ddilyn y ddolen isod. The Wellbeing Committee have created a new twitter account, there are tweeting weekly wellbing activities. Follow the committee using the link. https://twitter.com/YGGLles
Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy diogel.
Safer Internet Day 2021
Roedd dysgwyr blwyddyn 7 i 9 wedi dathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ar ddydd Mawrth, Chwefror y 9fed. Cafodd dysgwyr gyfle i greu gemau gan ddefnyddio Scratch, dylunio posteri diogelwch a dylunio logo. Hefyd, roedd rhai disgyblion wedi gweithio ar y wobr ddigidol iDea.
Learners in years 7 - 9 celebrated Safer Internet Day on Tuesday, 9th February. Learners were given the opportunity to create a game using Scratch, design safety posters and design a logo. Also, some pupils worked on the iDea digital award.
Y Cyfnod Clo
Cyffrous am wyliau, cyffrous am bennod newydd,
gormod yn digwydd i gofio yn yr ymennydd,
Covid sy’n ymestyn cynlluniau oedd yno
arhoswch adre yn ddiogel ond yn gryno,
diwrnodau yn araf a misoedd yn gyflym
cyfyngiadau yn gosod popeth yn llym.
Eleri Jackson Bl.9
Y Cyfnod Clo
Mae gwynt yn llifo yn araf ac yn hardd
Mae plant yn caru chwarae yn yr ardd,
Dawnsiodd y goeden yn sbri gyda’r gwynt
Roedd rhaid i bawb ddod mewn yn gynt.
Harri Jacob bl.9
Y llyfr rydyn ni’n wedi bod yn darllen yw ‘Tawel Nos’ gan John Townsend. Mae’r genre yn ffilm o gyffro tywyll, dirgelwch a trosedd. I ddechrau, mae’r clawr yn drawiadol iawn ac yn dipyn o ddirgelwch. Pwy yw’r ferch sy’n sefyll yn y glaw? Pam fod golwg betrus ar ei hwyneb? Mae ‘na olwg o frys a phryder yn ei llygaid. Fedrai ddim pwysleisio pwysigrwydd clawr wrth ddenu rhywun i ddewis llyfr ac mae hwn yn enghraifft dda o un sy’n denu sylw.
I grynhoi’r stori tipyn mae merch o’r enw Lowri sy’n mynd ar fws a chael ei gadael yn y glaw ar ben ei hun felly mae bachgen o’r enw Marc yn siarad efo hi. Mae’n gadael hi wybod pam ei fod fe’n fyna a mae e’n dweud ei fod yn poeni am Lowri a’i fod e yna achos mae ei ffrind o’r enw Dafydd ar goll ond y cwestiwn yw pwy sydd ar fai?
Lowri yw prif gymeriad y stori, a rydyn ni’n dilyn hi wrth iddi gyrraedd y pentref glan mor ar y bws i drio rhedeg allan o westy peryglus. Rydyn ni’n dychmygu sut mae hi’n teimlo, mae emosiwn fwyaf rydw i’n gallu darllen yn ofnus gan ei bod hi’n clywed ei fbd hi’n rhywle lle mae plant yn mynd ar goll a mae hi ar ben ei hun. Mae Marc yn mynd i siarad gyda hi a bod yn neis iddi hi felly mae hi’n meddwl ei bod yn gallu ymddiried ynddo ond ydy hynna yn wir?
Ar ddiwedd y stori mae Lowri yn gweithio mas pan mae hi yn y gwesty fod popeth yn blot i’w herwgipio hi. Pan mae Lowri yn gwybod hynny mae hi’n trio ei gorau i ddianc dyna pan mae’r tensiwn yn codi yn y stori. Mae’n gadael chi ar ddiwedd eich cadair yn trio gweithio mas os mae hi’n mynd i ddianc mewn amser.
Rydw i’n hoffi sut mae’r stori yn codi tensiwn a sut mae’r plot yn datblygu achos rydyn ni’n ffeindio popeth allan ar y un pryd a Lowri felly mae’n teimlo mwy fel ein bod ni yn y sefyllfa efo hi. Byddwn i yn argymell y llyfr i blant oedran 12 neu fwy. Rydw i yn gallu darllen neges tu ol i’r stori sef i feddwl am bwy ydych chi’n ymddiried ynddo a bod yn fwy ymwybodol am pwy sydd o gwmpas chi.
Gwaith Addysg Grefyddol Arwel Owen Blwyddyn 8
Religious Education Work Arwel Owen Year 8
Not for the first time that night, a scratching came from the supposedly empty spare room…
I awoke. Darkness surrounded me. The candle by my side was already lit… but ever so dim, my feet were barely visible. As I gazed out into the midnight void, that heinous, eerie noise continued. Apprehensively, I navigated through the gloomy hallways, using this only source of light… in this ancient cavern of a house. Scratch! There it was again. That abnormal sound emanating from upstairs, in the empty spare room.
“Hello, is...is someone there?” I anxiously stuttered. While observing the void, after foolishly asking that, I was reminded that I was the only one in this gelid, damp and dreadful building… or at least I believed I was... There was nothing. No sound. No sight. I climbed up, what I could only assume was the staircase. Alone, I was accompanied by the slight flickering of scarlet candlelight and the abhorrent creaking of the dilapidated leaden teal stairs. One after the other, gingerly placing my feet, endeavouring to make the faintest noise possible.
Then... a torn crimson carpet appeared, the candle in my hand emitted just enough light allowing me to perceive it from a small distance. Although, it had an indisputably malodorous odour, and it appeared to be dripping, slowly. I cautiously followed, to the top of the ragged staircase and through the onyx corridor that lay before me, guided by that sangria pathway. The more I approached the scratching at the end of the corridor, the more audacious the situation became. The air was foul, a heavy wind blew down the narrow tunnel. I reached the obsidian aegean door. I took hold of its icy handle, and began to rotate.
Suddenly, a plethora of scuttling scampered behind me. I managed to catch a glimpse of a hunched hooded figure… but nothing more.
“Who’s there?!” I agitatedly cried. Poised and filled with trepidation, unable to identify what it was. I opened the door momentarily, and passed through without consideration. I closed the door. Locked it. Barricaded it with whatever I could notice. Although, the peculiar side of this is that the room was actually… empty. Except for a white bed, which is where the violet coral liquid leads.
As I thought to myself, I couldn’t remember any scuttling at all. I was relieved after deep contemplation that there wasn’t scuttling throughout this dreadful house. However, all of that changed instantly. The door was locked. There wasn’t even a key for it… And, not for the first time this night, the same scratching came from under the bed in this supposedly empty spare room.
A short story by Joseff Lewis Year 11
Llongyfarchiadau enfawr i Ioan Higgins sydd wedi derbyn cynnig i astudio Seicoleg yng Ngholeg Girton, Prifysgol Caergrawnt.
Huge congratulations to Ioan Higgins who has received an offer to study Psychology at Girton College, Cambridge University.
Rydym hefyd yn falch i rannu fod Morganna Davies wedi derbyn cynnig i astudio Daearyddiaeth yn Rhydychen. Newyddion gwych- llongyfarchiadau Morganna. We are also proud to share that Morganna Davies has received an offer to study Geography at Oxford University. Great news - congratulations Morganna.
Tu ôl i’r Awyr, Megan Angharad Hunter
Rydym yn byw yng nghanol pandemig- mae’r wlad o dan reolau pendant, nifer wedi cau eu drysau, wedi gohirio eu cynlluniau, wedi ail drefnu digwyddiadau. Ond wrth gwrs ma hynny’n amlwg yn dydy? Does dim angen i mi eich atgoffa am hynny nagoes?
Y gwir yw, rydym yn byw yng nghanol sawl pandemig - efallai nad ydynt yn weladwy. Dim ond i restru un ymhlith nifer- rydym yn byw yng nghanol pandemig iechyd meddwl. Iechyd meddwl yw’r thema sydd yn sefyll allan drwy gydol nofel Megan Hunter, Tu ôl i’r Awyr, ond cawn hefyd gyffyrddiadau ar gyfeillgarwch ac ymddiriaeth.
Mae darllen Tu ôl i’r Awyr yn brofiad bythgofiadwy. Llwydda’r awdur i ddal ein lleisiau ni fel pobl ifanc, ac i adlewyrchu ein bywydau.
Cawn ddilyn teithiau Anest a Deian, wrth i’r ddau gyfarfod tra yn yr ysbyty ar ddiwedd gwyliau’r haf, wrth i’r ddau frwydro efo’u iechyd meddwl. Maent yn cael eu carcharu ym mrwydr eu meddyliau, tra oedd pawb arall yn mwynhau ac yn partïo ym maes B, ac yn meddwi o dan fachlud haul ar faes yr Eisteddfod. Ond y cwbwl sydd ganddynt i’w wneud bellach yw i syllu allan ar y sêr.
Ond, yn wahanol i Anest, dyw Deian ddim yn poeni am Maes B, a bydd well ganddo i gadw iddo fo ei hun, a mynegi ei deimladau trwy gelf a barddoni. Mae Deian yn gymeriad eithriadol o swil, ac nid yw’n gadael fawr o neb i fewn i’w fywyd, ac yn sicr i fewn i’w feddyliau. Er hynny, cyfaill pennaf iddo mae’n debyg heblaw am ei deulu yw Vincent Van Gogh, ac y mae’r llyfr ‘The Letters of Vincent Van Gogh’ yn agos i’w galon. Ond, a fydd creadigrwydd yn ddigon i achub Deian?
Wedi gwyliau’r haf, mae’r ddau bellach yn disgyblion yn yr un chweched dosbarth, ac y mae’r ddau wedi eu cloi allan o’r byd o’u cwmpas, fel petai dwy seren y nofel yma, ddim yn rhan o’r un system solar â phawb arall. Maent yn ffurfio cyfeillgarwch, ac ymddiriaeth, er nad yw’r ddau yn deall pam mae’r llall yn ffrindiau efo nhw. Cynnig cymorth i’w gilydd wna’r ddau, ond nid yw’r ddau yn methu cymryd cyngor eu hunain. Mae mor drist i weld faint maen nhw’n becso am beth y mae pawb arall yn eu meddwl amdanynt, ond ni allan nhw guddio eu holl gyfrinachau.
Wrth i’r nofel mynd yn ei blaen, rydym yn dod i adnabod Anest a Deian yn well, a chawn glywed am eu problemau a’u teimladau dyfnaf. Llwydda’r awdur i gynnal lais Anest fel petai hi’n siarad gyda ni’n go iawn, a chawn nifer o gyffyrddiadau barddonol yng nghanol y ddeialog realaidd. Teimla’r ddau, fel pobl yr oeddwn wedi eu hadnabod am oesoedd erbyn diwedd y nofel, nid ond cymeriadau mewn llyfr yn unig.
Yn sicr, mae hon yn chwip o nofel, sydd yn sefyll mewn cae ar ei phen ei hun. Yn nhudalennau olaf y nofel, cawn restr o gysylltiadau all fod o gymorth. Os ydych yn dioddef, neu’n gwybod am aelod o’ch teulu, neu ffrind sy’n dioddef, mae’n bwysig i ymestyn allan at y bobl gywir, ac i wybod nad ydych ar eich pen eich hun.
Mae Tu ôl i’r Awyr ar gael i’w brynu o’ch siopau Cymraeg lleol, am £9.99.
Kayley Sydenham
Adeiladu'r Ysgol Gynradd
Building the Primary School
We celebrated Welsh Language Music Day on the 5th of February by listening to music from Welsh bands.Thanks to the Welsh Committee for creating a fantastic playlist for us. Listen again by following the links below.
Ydych chi'n hoffi podlediadau? Mae llwyth ohonynt ar destunau gwahanol ar https://ypod.cymru/. Mae'r wefan isod. O bodlediadau am natur a chomedi i chwaraeon- mae rhywbeth at ddant pawb. Gallwch ddefnyddio'r podlediadau i wella eich sgiliau gwrando, ehangu ar eich geirfa ac i fwynhau!
Mae'r wobr digidol ysbrydoledig, sef iDEA, yn rhaglen ryngwladol sy'n eich helpu i ddatblygu sgiliau digidol, Menter a chyflogadwyedd am ddim.
Drwy'r gyfres o heriau ar-lein, gallwch ennill bathodynnau gwella gyrfa, datgloi cyfleoedd newydd ac, yn y pen draw, ennill gwobrau a gydnabyddir gan y diwydiant sy'n eich helpu i sefyll allan.
Gwasgwch ar y llun iDEA i gyrraedd y wefan a chreu cyfrif. Os ewch at eich gosodiadau wedyn, gallwch roi'r cod YGG2020 er mwyn ymuno gyda'r ysgol.
Gallwch ddysgu llawer o sgiliau newydd ac ennill tystysgrifau am eich gwaith.
Ewch draw at y wefan isod lle welwch restr o apiau sydd ar gael yn y Gymraeg.
http://www.appsinwelsh.com/
Hoffech chi barhau i wella eich sgiliau dros y gwyliau? Dyma wefannau i'ch helpu i barhau i ddysgu dros yr haf.
Cymraeg
https://adnoddau.canolfanpeniarth.org/matiau_gramadeg/
https://adnoddau.canolfanpeniarth.org/cywirdeb-iaith/
https://adnoddau.canolfanpeniarth.org/legends-wales/index_cy.html
https://adnoddau.canolfanpeniarth.org/hanes/?u=cy
https://www.bbc.co.uk/bitesize/subjects/zpt3cdm
https://www.bbc.co.uk/bitesize/subjects/zsrhk7h
Saesneg
https://www.bbc.co.uk/teach/class-clips-video/english-ks2-ks3-punctuation-rules/z7d8rj6
https://www.bbc.co.uk/teach/skillswise/filling-in-a-form/zfvrpg8
https://www.bbc.co.uk/teach/skillswise/planning-your-writing/z46nqp3
https://www.bbc.co.uk/teach/skillswise/editing-and-proofreading/zvs36v4
https://www.educationquizzes.com/ks3/english-spelling/
https://www.educationquizzes.com/ks3/english/
https://www.educationquizzes.com/gcse/english/
https://www.englishclub.com/writing/capital-letters-quiz.php
https://www.englishclub.com/spelling/misspellings.htm
https://www.englishclub.com/grammar/verb-tenses_past_quiz.htm
https://www.englishclub.com/grammar/verb-tenses_past-perfect-quiz.htm