Llais y Llyw

Rhifyn 13

13 Gorffennaf 2020

Croeso i rifyn 13 cylchgrawn digidol Gwynllyw. Dyma gyfle i chi ddarllen, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio clipiau ac hefyd gymryd rhan. Dyma fydd y rhifyn olaf cyn y gwyliau haf.


Welcome to issue 13 of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. This will be the last issue before the summer holidays.


Gwobr iDEA

Mae'r wobr digidol ysbrydoledig, sef iDEA, yn rhaglen ryngwladol sy'n eich helpu i ddatblygu sgiliau digidol, Menter a chyflogadwyedd am ddim.

Drwy'r gyfres o heriau ar-lein, gallwch ennill bathodynnau gwella gyrfa, datgloi cyfleoedd newydd ac, yn y pen draw, ennill gwobrau a gydnabyddir gan y diwydiant sy'n eich helpu i sefyll allan.

Gwasgwch ar y llun iDEA i gyrraedd y wefan a chreu cyfrif. Os ewch at eich gosodiadau wedyn, gallwch roi'r cod YGG2020 er mwyn ymuno gyda'r ysgol.

Gallwch ddysgu llawer o sgiliau newydd ac ennill tystysgrifau am eich gwaith.



Os ydych chi wedi cwblhau gwobr, cofiwch hawlio eich tystysgrifau trwy wasgu ar eich enw ar y dde a dewis 'certificates'. Bydd y tystysgrifau yn cael eu postio i'r ysgol.


Disgrifiad o Fachlud yr Haul

gan Charlotte Sweeting


Aroglaf halltrwydd y cefnfor oherwydd aer o'm cwmpas. Blasaf frechdan ham a chaws wrth wylio'r machlud arbennig ar y noson hyfryd. Teimlaf bod cynhesrwydd yr haul yn araf yn oeri erbyn y funud. Gwelaf liwiau hardd o'r haul fel enfys fawr ar draws yr awyr. Clywaf yr adar yn canu fel eu bod yn canu can mewn cor o sioe boblogaidd.


Aroglaf fwyd blasus yn y fasged liwgar wrth fy ymyl a'r flanced yn gorwedd ar y tywod. Blasaf y tywod o ychydig o wynt yn yr awyr. Teimlaf y tywod cynnes rhwng fy nhraed fel llosg glo poeth. Gwelaf adlewyrchiad o'r mynyddoedd enfawr ar ben y cefnfor disglair fel golau mawr ar bwll o ddwr ar y llawr. Clywaf y criced gyda'r nos o bell i ffwrdd fel cloc larwm.



Her Minecraft:

Mae Menter Iaith Mon, Dinbych a Chaerffili wedi bod yn gweithio gyda Minecraft i greu adnoddau hanes trwy Minecraft- gwasgwch ar y lluniau i ddygsu mwy.

Ydych chi'n hoffi Minecraft? Beth am ddylunio rhywbeth ar minecraft a'i rannu gyda ni? Gallwch greu Eisteddfod Genedlaethol, adeiladu Castell Coch neu hyd yn oed Ysgol Gwynllyw. Rhannwch eich dyluniadau gyda ni drwy ebostio llun neu fideo i llais@gwynllyw.org.

Llyfr y Flwyddyn


Ydych chi ar Drydar? Felly, beth am ymuno gyda'n her ddarllen? Rhannwch lun o'r llyfrau rydych chi'n darllen gyda'r hashnod #heryrhaf.

@YGG Mrs C Jenkins - Her yr Haf

Apiau Cymraeg


Ewch draw at y wefan isod lle welwch restr o apiau sydd ar gael yn y Gymraeg.

http://www.appsinwelsh.com/

Dalgylch Afon

Dyma waith Daearyddiaeth gan Gwenno Wood - diagram dalgylch afon gyda chacen! Ardderchog Gwenno - am ffordd greadigol ac unigryw o ddangos dealltwriaeth.

Cerddoriaeth Cymraeg

Mae cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r sin cerddoriaeth Cymraeg yn dod yn fwy poblogaidd. Gwyliwch y rhaglen gyda Beti George yn trafod cerddoriaeth Cymraeg.

Gwenwch - mae'r haf ar fin cyrraedd, amser i ymlacio, darllen, cerdded a mwynhau cyn ail-ddechrau ym mis Medi.

Ar lan y mor....

Mae disgyblion blwyddyn 8 wedi bod yn gwneud gwaith ar 'Ar lan y Mor'. Gwrandewch ar Elin Fflur yn canu'r gan wreiddiol wedyn darllenwch y penillion isod.

Dyma benillion 'Ar Lan Y Mor' gan ddisgyblion blwyddyn 8.


Gwenno Wood:

Ar lan y mor mae plant yn mwynhau

Ar lan y mor does dim rheolau

Ar lan y mor mae bwydydd blasus

Dim son am waith, jest bwyta lolis.


Ar lan y mor mae tywod meddal,

A'r mor gwyrddlas yn dawnsio'n yr awel

O amgylch hon mae 'na glogwyni

Ac ambell gangen coeden palmwydd


Evan Howells:

Ar lan y mor mae'r dwr yn oer

Ar lan y mor mae band o goed

Ar lan y mor mi welaf Elin

yn swnio'n hardd fel y delyn.


Ar lan y mor mae tywod esmwyth

Ar lan y mor mi deimlaf gregyn,

Ar lan y mor mae'r haul yn gwenu

yn cysgu'r nos a goleuo'r bore.


Megan Teague:

Ar lan y mor mae pysgod lliwgar

Ar lan y mor mae peli traeth llachar

Ar lan y mor mae gwymon gwyrdd

Yn dawnsio yn y mor llwydwyrdd.


Podlediadau Cymreig

Ydych chi'n hoffi podlediadau? Mae llwyth ohonynt ar destunau gwahanol ar https://ypod.cymru/. Mae'r wefan isod. O bodlediadau am natur a chomedi i chwaraeon- mae rhywbeth at ddant pawb. Gallwch ddefnyddio'r podlediadau i wella eich sgiliau gwrando, ehangu ar eich geirfa ac i fwynhau!

Yr Horwth

Dyma stori newydd gan Elidir Jones am greadur o'r enw Yr Horwth. Gallwch wrando ar y stori trwy ddilyn y dolen isod.

https://soundcloud.com/atebol/yr-horwth-rhan-1


Llais Lles

The Counselling Service can be found on Facebook:

Torfaen Young People Counselling Service

https://www.facebook.com/Torfaen-Young-Peoples-Counselling-Service-109172984050900/


We are also on Instagram: ccyp_counselling.

If you would like to speak to a counsellor, send us a message.

A counsellor will contact you to arrange a time to call you. Parents, and family members can get in touch with us for you, if you prefer.

Parents can contact us for advice and guidance.

Another way of contacting us is via our Confidential Telephone Message Service:

01633 453035

Leave us a message with your name and number and a counsellor will get in touch.

Direct Contacts: Ceri Jones, Service Manager Tel: 0780 1550582

Email: ceri.jones@ccyp.org.uk

Oliver Wilford, Primary Coordinator Tel: 07590 005585

Email: oliver.wilford@ccyp.org.uk



Hoffi Celf?

Beth am 'sgetsho' gyda Huw Aaron. Rhannwch eich lluniau gyda ni ar drydar neu drwy e-bostio llais@gwynllyw.org

Celf gan Kayley Sydenham

Mae Kayley wedi defnyddio'r cyfnod clo yn greadigol iawn. Mae hi wedi dylunio print lino o Gymru ac nawr mae hi'n eu gwerthu nhw. Entrepreneuriaeth ar ei orau. Os hoffech archebu cysylltwch gyda Kayley trwy ebost kayleysydenham03@gmail.com.

Pob lwc gyda'r fenter Kayley!

Ble yn y byd? Llandeilo!

Yn ein cwis yr wythnos ddiwethaf roedd llun o dref Llandeilo. Darllenwch mwy am Landeilo ar y wefan.

Idiom yr Wythnos

mae e'n cadw draenog yn ei boced

he's tight with money


Cwis

Ble yn y byd?

Llandeilo