4 Mai 2020
Welcome to issue 3 of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. If you would like to contribute to the next issue, email your ideas to llais@gwynllyw.org before Thursday 7 May 2020.
Os ewch chi draw at wefan yr 'Imperial War Museum' gallwch ddarllen llawer mwy am VE Day.
https://www.iwm.org.uk/history/what-you-need-to-know-about-ve-day
Ar ddydd Gwener yr 8fed o Fai 2020, bydd 75 mlynedd ers i'r gynnau dawelu ar draws Ewrop yn arwydd o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Bydd y wlad yn dawel am 2 funud am 11:00 er cof am bawb fuodd farw yn y rhyfel. Hefyd, bydd pobl yn canu 'We'll Meet Again' gan Vera Lynn am 9:00 y nos ar draws y wlad.
Colonol Tom Moore has won the hearts of the nation raising over £32 million for the NHS. Aiming to raise £1000 he walked 100 laps of his garden.As a young man, Colonel Tom served in WW2, VE Day marked the end of the war, a week after his 25th birthday. He has received over 125,000 birthday cards. Not all super heroes wear capes.
How will coronavirus fundraising be spent?
Donations since the pandemic started have been used to help set up wellbeing spaces in hospitals. These include sleep pods, reclining chairs and so-called "wobble rooms" - areas where staff have a safe space to release emotions after a traumatic experience, such as losing a patient.
Wellbeing packs including everyday items such as porridge, tea or hand cream have also been given to staff, which one charity member said was "like a hug in a box".
The money has also helped pay for electronic tablets that allow patients who are in isolation in hospital to have contact with their friends and family.
In the long term, the funds will be used in planning to allow people to leave hospital quicker and safely, and also provide mental health support for staff and volunteers involved in dealing with the pandemic.
Gwaith arholiad 10 awr a gyflawnwyd ym mis Mawrth 2020 yw'r darn arbennig yma o waith o dan y teitl 'Y Glowr'.
Braslun manwl, arbennig gan yr hynod o dalentog, Jasmine Ellis bl 11. Cytunodd Miss B Hughes a Mr E Lewis mai hwn oedd y darn gorau o waith arholiad TGAU iddyn nhw weld mewn bron cyfuniad o 50 mlynedd o ddysgu Celf.
Hoffwn longyfarch bl 11 Celf TGAU ar safon eu gwaith arholiad eleni, gwaith ardderchog!" Mr E Lewis.
A beautiful piece of work by the exceptionally talented Jasmine Ellis entitled 'The Miner'. Both Mr Lewis and Mrs Hughes agree that this is the best piece of GCSE examination work they have ever seen in a combined 50 years of teaching Art. Congratulations also to year 11 on the standard of their examination work this year.
Beth yw eich rol yn yr ysgol?
Pennaeth Adran y Gymraeg
Ers faint ydych chi wedi bod yn Ysgol Gwynllyw?
19 mlynedd
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Fe fwynheais i astudio llenyddiaeth Gymraeg yn yr ysgol ac yn y Brifysgol ac roeddwn yn awyddus i drosgwlyddo'r mwynhad yna i ddisgyblion y de-ddwyrain. Roeddwn i hefyd yn awyddus i weld mwy o bobl yn siarad Cymraeg fel iaith bob dydd, felly roedd hi'n bwysig i mi i ymuno yn y frwydr i ennill mwy o siaradwyr Cymraeg.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Trwy goginio, darllen, gweithgareddau Celf, mwynhau gyda'r teulu, cwisiau ar google meet gyda ffrindiau a theulu, ymarfer corff gyda Joe Wicks, mynd am dro unwaith y dydd gyda fy nheulu.
Unrhywbeth arall?
Fy hoff fath o fwyd yw bwyd Eidalaidd felly rwy'n hoffi iawn o bitsa a phasta, ac wrth gwrs, lasagne.
Un rhaglen deledu dydw i byth yn ei methu ydy 'Home and Away', opera sebon sy'n dangos traethau bendigedig Awstralia, ond rwyf hefyd yn hoff iawn o wylio 'Casualty', 'Holby City' a 'Pobol y Cwm.'
Mae'n gas gen i fynd ar reidiau cyflym neu ben i waered mewn ffair.
Beth yw eich rol yn yr ysgol?
Rheolwraig Adnoddau Dynol & Pennaeth y Swyddfa
Ers faint ydych chi wedi bod yn Ysgol Gwynllyw?
10 mlynedd y flwyddyn hon
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Trwy gadw trefn ar fy niwrnod ac ymlacio yn yr ardd pan mae'r haul allan.
Beth yw eich rol yn yr ysgol?
Athrawes Addysg Gorfforol Safon Uwch a BTEC Iechyd a Gofal.
Ers faint ydych chi wedi bod yn Ysgol Gwynllyw? Ionawr 1991
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Mwynhau Addysg Gorfforol a hyfforddi ac yna gwneud gradd a cwrs hyfforddi athrawon gyda tiwtoriaid a myfyrwyr ymroddgar. Dewisais ddysgu trwy'r Gymraeg gan fy mod heb gael y cyfle i fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Wedi dechrau gwylio Netflix, mwynhau tywydd braf a ceisio peidio cwympo mas gyda'r gwr! Mae TG fel Zoom, Whatsapp a Hangouts hefyd wedi bod yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad gyda'r teulu a ffrindiau a staff ysgol.
Mae Dreigiau Dinas Emrys yn ap ac adnodd ar-lein Cymraeg AM DDIM sy'n wych ar gyfer ymarfer geirfa a gwella sillafu. Mae'r gem yn seiliedig ar stori Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid Celtaidd o'r 5ed ganrif a oedd am adeiladu caer yn Eryri i amddiffyn ei bobl yn erbyn y Sacsoniaid. Bob nos, ar ol i'r adeiladwyr fynd adref, byddai'r waliau'n cwympo oherwydd antics dwy ddraig dan ddaear yn Ninas Emrys.
Dreigiau Dinas Emrys is a FREE Welsh language app and online resource great for practising vocabulary and improving spelling.. The game is based on the story of Gwrtheyrn, the 5th century king of the Celtic Britons who wanted to build a fortress in Snowdonia to protect his people against the Saxons. Each night, after the builders had gone home, the walls would collapse owing to the antics of two dragons underground at Dinas Emrys.
Descriptive Writing: Tree
By Eifion Stockman
It's a new day, this air tastes distinctive. I've been sitting here for centuries, collecting dust. I am towering over a ruined temple, that I rest on. Although the water here tastes dirty, happily there is no pollution here, allowing me to grow strong and tall. But unfortunately, I'm getting old, my bark is now a favorite to beetles and termites to nest in. Bees have colonized in my oldest branches providing me with extra protection. They swarm around me like planets orbiting the sun.
My long twisting roots cling onto the hard bricks and down the cracks of the ancient temple. I remember the temple being used by to worship the gods. There preys echoing around the now barren temple and all that's left is the whispers of history. I remember the day a giant flood hit the thriving temple and drowned many unfortunate people. I was just a young sapling back then. Sometimes in the late afternoon I can still hear their screams travelling in the wind. I feel sorrowful, I can still taste the flood water and the accidently absorbed souls.
My bursting roots are being pressed by the old structure, crushing my limbs. I wonder if the ruins are at risk of falling, or am I protecting and supporting them? Like a bird's nest in my hand. My sturdy branches stand firm, my new shoots skyrocket into the sky like fireworks whilst my roots tunnel and hold me firmly to the ground. I wonder if I will still be alive when the ruins finally decay and crumble or will somebody stumble upon this abandoned place of worship and demolish every trace of my home.
I look down to see an ocean of fragrant Bluebells and wild Ivy creeping up at me and wrapping around me like a snake on a branch. These are the only things around me that are alive, I feel lucky to have survived.
I hope that nature continues to blossom and reclaim this lost land.
I watched as the pencil I was holding drew one last line. My desk was covered in small bits of rubber, colouring pencils sprawled over the white surface, but I ignored it as I looked down at my work. After what felt like hours of sketching, erasing, frustration and excitement, it was finally done. Yet the sketch still seemed merely adequate- it needed more.
I knew painting was a bad idea. I was clumsy with the brushes, I found it so unbearably hard to do something as simple as paint inside the lines, and the colours were always so badly mixed that the end result was always, without fail, a confusing array of browns and greens. It made no sense to paint, it would only make the drawing worse. But trying new things, even if it's your fifth attempt, is always a good thing. Or at least, it's meant to be.
It didn't take long for me to find myself searching through my messy box of pencils, brushes, paints and paper to finally find the small, shiny navy tin I'd been looking for. Parts of the dark blue paint had been scratched off, and the lid of the tin was already partly open, so I wasn't surprised to see all the paint palettes upside down, or in the wrong order from the way I'd organised them months ago. The white has stains of red and blue, and the yellow had turned a sickly green from my terrible habit of not washing the brushes properly. I could tell this was going to ruin my drawing, which suddenly didn't seem that bad anymore as I compared it to the sludgy mess it would become. Yet the temptation to paint it, to ruin it, somehow remained.
I grabbed a thin brush from my pen pot, one with dishevelled bristles and a loose handle. It was a detailed drawing, I'd need a thin brush, but of course the only one I had was this misfit. It'll do, I lied to myself, knowing deep down that this was already a failure. It became even more obvious that this was destined to fail when I didn't even know where to start; the sky? No, the blue was too dark, and then I wouldn't be able to do the trees. The trees? No, I couldn't, it would be impossible to trace around the thousands of spindly leaves. The only thing left was the grass, but every detailed blade of green already outlined on the paper would be impossible to paint over with the tousled bristles of my paintbrush. But I couldn't just not paint it, and my brain returned to the same thought; it needed more.
Before I knew it, green paint was already on the paper. There was no going back now.
From the moment that bilious shade of lime green touched the paper, I already regretted what 'd done. But again, there was no going back now. I tried to remain calm and started with a new shade of darker, emerald green. It was a decent shade, considering the clear low quality of the palette that I had owned for as long as I could remember, yet the obvious patch of lighter, yellowish green underneath it didn't help it look any better. I could already feel my technique getting sloppier, as the thin whips of paint became long, thick strokes as I started to rush slightly, as the feeling of regret really started to kick in. It was paint, I could layer over it, yet the idea of ruining a drawing 'd worked so hard on started to almost panic me; that would be hours of work, deemed useless by my execrable, deficient painting skills. Nevertheless, I carried on filling the gaps of my drawing, there was no point giving up now if I was going to scrap the painting anyway. I decided to instead think of it as a chance to experiment, instead of the blunder it really was.
In a moment of panic I started painting the sky first, trying to avoid the places where I had sketched out some unadorned trees. The blue looked different to the paint in the palette, appearing slightly purple and transparent instead of the deep cobalt blue it appeared to be. I continued painting anyway, it wasn't like I had a better option. Soon the sky had been filled with a rough coat of blue, white gaps around the corners where I had narrowly avoided getting paint on the desk; and all that was left was white gaps, roughly in the shape of trees. I dipped my brush in the green pan, and quickly pulled the brush away as I saw strokes of blue now mixed with the green; I hadn't cleaned the brush. Again. It'ss much of a problem, I thought, seeing as I was never going to paint again after this. I just sighed, disappointed in myself for making such an obtuse mistake, and carried on painting. Now the sketch, which looking back was no longer just adequate, but fairly good, was nothing but a memory as my last stroke of green paint bled into the paper.
Over and over again, I kept thinking, you should've left it as a sketch. I was being quite hard on myself, it was just a painting, but I couldn't help but feel especially half-witted as I stared at the mess I'd created. The feeling of regret, for succumbing to the temptation to add to the drawing, was especially strong now. But there was nothing I could do.
However it later became evident to me that the problem was my reluctance to improve and practice painting- of course my paintings were going to turn out bad if I'd barely practiced and instead focused on sketching, which I'd already been learning and practicing for years. Looking back, succumbing to the temptation to 'ruin' my drawing actually inspired me to practice my painting more and try to improve, so the same thing doesn't happen again, and I can actually improve those drawings that 'need more'. Yes, the painting was a hideous mess, but at least I learnt something from the experience.
Mae Los Blancos yn ymgorfforiad o'r hyder tawel sy'n tanlinellu'r diwylliant Alt/Pop sy'n tyfu'n gyflym yn Sir Gaerfyrddin, De Orllewin Cymru. Does dim cyfaddawd yn sain Los Blancos, maent yn greadigol agored ac yn llawn hyder, gyda chaneuon sy'n byrlymu o nwyd meddwol, afradlon Y Replacements a llawenydd chwareus Mac Demaco y llawenydd a ddaw yn sgil creu o fewn pedair wal yr ystafell ymarfer.
Mae cyfeillgarwch yn uno band Los Blancos am fod Gwyn, Dewi, Emyr ac Osian yn adnabod ei gilydd oddi ar ddyddiau ysgol. Mae'r band yn estyniad o'u cyfeillgarwch lle mae gonestrwydd cerddorol a geiriol o'r pwys mwyaf, fel y gwelir yn eglur ar Mae'n Anodd Deffro Un, Datgysylltu a Chwarter i Dri sef eu sengle cyntaf. Mae Kris Jenkins aka Sir Doufus Styles (SFA, Gruff Rhys, Cate Le Bon, H Hawkline, Gulp) wedi bod yn cyd-weithio gyda Los Blancos yn ei stiwdio recordio, Signal Box, yng Nghaerdydd. Mae hon yn briodas berffaith rhwng yr artist a chynhyrchydd sydd a'u ffiniau sain unedig yn dal yn ddirgelwch i'w ddarganfod.
Diolch i Mrs Luned Jones am drefnu cyfweliad gyda'r actor Huw Euron, cyn aelod o gast Pobol y Cwm (cymeriad Darren yn y garej) ac hefyd aelod presennol o Only Men Allowed.
Thank you to Mrs Luned Jones for organising this interview with actor Huw Euron, a previous cast member of Pobol y Cwm (Darren in the garage) and also a member of Only Men Allowed.
1.Pa gymeriad oeddech chi'n chwarae yn Pobol y Cwm a sut berson oedd e?
Treuliais dros ddeng mlynedd yn chwarae y rol o Darren Howarth yn y gyfres 'Pobol y Cwm'. Ymddangosodd Darren am y tro cyntaf yng Nhwmderi yn 1999 fel "Side Kick" diniwed i Mark Jones. Cymeriad "syml" ydoedd, ac roedd Mark yn ddylanwad drwg iawn arno. Roedd y ddau yn aml yn cael eu hunain mewn i bicil (er enghraifft - llosgi'r siop chips lawr yn ddamweiniol a gwerthu nwyddau anghyfreithlon). Darren fyddai wastad yn cymeryd y bai, er mwyn safio ei ffrind gorau, nes i Derek (y Mechanic lleol) ei gymeryd dan ei adain a rhoi cyfle iddo ddechrau prentisiaeth yn y garej, ac o ganlyniad, ei arwain ar hyd trywydd gwell.
Darganfyddodd yn fuan iawn mai ffrind gorau Derek oedd ei Dad colledig, ac wedi cychwyn ansicr i'w perthynas, daethant yn agos iawn.
Cafodd Darren sawl stori ddifyr yn ystod ei gyfnod yn y Cwm.
Priododd ddwy waith ac fe ddyweddiodd gyda mam ei blentyn cyntaf hefyd. Cafodd ei daflu allan o'r fyddin. Dechreuodd focsio yn anghyfreithlon er mwyn ennill arian i dalu am fodrwy i'w gariad cyntaf, cyn cael ei anafu a'i roi mewn coma. O ganlyniad i hyn, datblygodd Epilepsi, a wnaeth effeithio ar ei yrfa a'i fywoliaeth fel mechanic.
I fod yn onest.os fedrwch chi feddwl am stori, mae Darren siwr o fod wedi bod yn gysylltiedig a stori debyg iawn yn ystod ei fywyd yn y Cwm!!!
2. Beth mae'r cymeriad yn ei wneud ar hyn o bryd yn yr opera sebon?
Bellach mae Darren wedi ymfudo i Ganada ers 2009 gyda'i wraig a'i deulu diweddaraf/newydd. Mae e dal i ymweld a Chwmderi o bryd i'w gilydd. Fel arfer i achub ei deulu a'i ffrindiau o ryw argyfwng.
3. Pwy yw eich hoff gymeriad yn y rhaglen heddiw a pham?
Dwi wastad wedi bod yn hoff o'r cymeriad Mark Jones gan ei fod mor ddrygionus. Bellach mae Mark wedi aeddfedu rhywfaint, ond dwi dal yn ei weld fel cymeriad hoffus ac annwyl. Cymeriad sy'n haeddu ychydig bach o lwc!
Dwi hefyd yn hoff Iawn o'r cymeriad Garry. Er nad oedd Darren a Garry yn gweld llygad yn lygad, mae yna lawer o haenau i bersonoliaeth "dyn drwg" y Cwm, a dwi wrth fy modd a'r ffordd mae Garry a Dani yn cydweithio ac yn gwrthdaro gyda'i gilydd.
4. Ers pryd rydych chi'n canu gyda Only Men Allowed?
Rydw i wedi bod yn aelod o Only Men Aloud ers Hydref, 2010.
Bum yn ddigon ffodus i ennill cystadleuaeth canu "Y Rhuban Glas" yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy y flwyddyn honno. Bron yn union-syth ar ol camu oddi ar y llwyfan, derbyniais alwad ffon gan Tim Rhys Evans (sefydlwr a chyfarwyddwr Cerdd OMA) yn cynnig swydd i mi yn y grwp.
Roeddwn wedi cydweithio gyda Tim ar sioe gerdd blynyddoedd yn gynharach ac wedi mwynhau gweithio gydag ef, felly derbyniais y cynnig yn syth gan ei fod yn ymddangos fel sialens ddiddorol.
5. Pa lais ydych chi'n canu?
Dwi wastad wedi ffeindio y nodau isel yn fwy cyfforddus i ganu. Y mwyaf isel - gorau oll! Felly dwin canu Bas yn y grwp. Mae'r grwp wedi ei rannu yn 4 grwp lleisiol wahanol sef - Tenor 1 (y lleisiau uchaf), Tenor 2, Bariton ac yna y Baswyr ar y gwaelodion. Yn 2013 penderfynwyd i leihau y grwp o 16 i 8, er mwyn sicrhau safon cerddorol cytbwys ac hefyd i fedru teithio yn haws.
Mae perfformio fel rhan o wythawd yn hollol wahanol i'r dyddiau a fu. Bellach nid oes arweinydd yn sefyll o'n blaenau ac rydym, gan amlaf, yn canu mewn 8 rhan felly mae'n allweddol ein bod yn gwybod y gerddoriaeth yn drwyadl gan nad oes lle i guddio! Mae angen gwrando yn astud ar ein gilydd er mwyn sicrhau ein bod yn asio yn gerddorol ac o ran lefel a chryfder sain. O ganlyniad, rydym yn creu sain tynnach a mwy harmonig, yn fy nhyb i.
6. Enwch rai o'r llefydd mwyaf diddorol rydych chi wedi bod ynddynt yn canu.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn i ganu ar rai o lwyfanau mwyaf adnabyddus Prydain a thu hwnt.
Rydym wedi perfformio yn Neuadd Albert gyda Bryn Terfel a Sting. Diddanu torf rygbi a phel droed Cymru yn stadiwm Principality, Stadiwm Dinas Caerdydd a Liberty. Wedi agor yr Ashes yng ngerddi Sofia. Wedi ymddangos ar noson y Royal Palladium gyda phobl o'r byd enwog megis Robbie Williams. Perfformio ar Strictly Come Dancing Christmas Special - (yn canu wrth gwrs, nid dawsio!!!)
Rydym hefyd wedi teithio America sawl tro. Perfformio ym Mharis dair gwaith ac wedi cydweithio ar brosiect arbennig a rhaglen deledu gyda phlant ysgol tra yn Mumbai, India.
Ond yr uchafbwynt fwyaf oll i mi, oedd canu yn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012 tra roedd y fflam yn cael ei gynnau, gan wybod bod dros 900 miliwn o bobol yn gwylio led led y byd. Profiad bythgofiadwy a swreal iawn. Roeddem ninnau yn canu ar un ochr y stadiwm enfawr tra roedd un o'm arwyr cerddorol mwyaf (Paul McCartney) yn perfformio ar y llwyfan gyferbyn wrth i'r awyr lenwi gyda miloedd o dân gwyllt! Profiad a hanner ma'n rhaid cyfaddef!!!
7. Sut ydych chi'n dysgu'r geiriau a'r symudiadau?
Dwi wrth fy modd yn dawnsio o amgylch y ty gyda'r gerddoriaeth yn blastio pan nad oes neb yno, ond dwi bell o fod yn ddawnsiwr naturiol!
Yn y dyddiau cynnar roeddem yn creu dawns neu Choreography i bron pob can roeddem yn ei pherfformio, felly roedd clywed nad oedd hyn am barhau yn fendith i ddweud y lleiaf!
Rydym yn dal i berfformio dwy neu dair can ag iddynt symudiadau. Ond rydym bellach yn defnyddio Microffonau "hand held" nawr, sydd yn llawer mwy soffistigedig na'r hen "head sets" gwreiddiol. Mae hyn yn cyfyngu ar ein rhyddid i ddawnsio ond yn sicrhau yr ansawdd lleisiol yr anelwn ato.
Dwi wastad wedi bod yn eithaf araf yn dysgu'r symudiadau, ond wedi i mi eu dysgu yn iawn rwyf yn joio rhoi 100% i'r perfformiad.
Yr unig ffordd o ddysgu geiriau a symudiadu yw i fynd drostynt drosodd a throsodd nes eu bod yn dod yn gwbl naturiol heb i chi feddwl.
8. Pwy yw'r cymeriad mwyaf drygionus yn Only Men Allowed? Pam?
Fel y disgwylir gyda chriw o fois, daw llawer iawn o dynnu coes a phob aelod yn cael ei dro o flaen y "firing squad". Mae wastad llwyth o chwerthin i'w glywed pan ddown at ein gilydd a phawb yn trafod digwyddiadau trwstan y "gig" diwethaf gan dynnu sylw at y camgymeriadau dwl a wnaethpwyd. Digon o hwyl i helpu i'r oriau basio. Ond os byddai rhaid dewis un clown yn y grwp, eafallai taw Wyn byddai hwnnw.
9. Oes yna stori neu ddigwyddiad doniol wedi bod yn ymwneud ag OMA?
Mae yna lawer o ddigwyddiadau digri wedi digwydd dros y blynyddoedd - fel y disgwylir gyda chriw o ddynion mewn oed yn ceisio diddanu eu gilydd, ond dim byd digon parchus 'w ddatgelu yn anffodus.
Er hyn, dw'n cofio sawl unigolyn yn syrthio ar lwyfan. Fy nhrwyn yn gwaedu yn ddibaid yn ystod can. Y piano yn cwmpo ar lwyfan hanner ffordd drwy perfformiad a phawb yn ceisio ei godi ac yn methu ac felly yn gorfod gorwedd ar lawr nesa ir cyfeilydd a chwblhau'r gan. Y pwer yn cael ei ddiffodd yn ddamweiniol ac yn gorfodi i ni ganu yn acapela. Dwi hefyd yn cofio sgwrsio gyda hen ffrind i fy nhad tu cefn ir llwyfan a methu fy nghiw i fynd mlan gyda gweddill y bois. Roeddent bron a chwblha'r gan agoriadol cyn i mi sylweddoli ac ail ymuno a hwy a chael bloedd mawr sarcastig ganddynt 'r gynulleidfa am hyn.
10. Sut rydych chi'n cadw'n brysur yn y 'lockdown' yma?
Dwi wrthi yn ceisio cyfansoddi alawon a threfniannau amrywiol newydd i ni berfformio ar gyfer sioeau pan ddown allan o'r cyfnod cythryblus yma, yn ogystal a chwblhau ambell i brosiect DIY rwyf wedi bod eisiau eu gwenud ers amser maith. Y peth sydd yn cadw fi'n fwyaf prysur yw diddanu a chwarae gyda fy mhlant sydd yn 7 a 3 oed- Dwi erioed wedi bod mor flinedig!!!
Y CWMPAWD
Beth yw'r ddyfais? Mae'r cwmpawd yn ddyfais sy'n dweud wrthoch chi ble mae gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Mae hyn yn gweithio gan bod y cwmpawd bob tro yn pwyntio i'r gogledd ac ar ol gwybod ble mae'r gogledd mae'n hawdd i wybod ble mae'r cyfeiriadau arall.
Pryd gafodd ei ddyfeisio?:206 BC
Ble gafodd ei ddyfeisio?:Cafodd y cwmpawd ei ddyfeisio yn Tsieina.
Pwy wnaeth ei ddyfeisio? Does neb yn gwybod pwy sydd wedi dyfeisio'r cwmpawd ond ei fod e wedi cael ei ddyfeisio yn Tseina.
Pam ei fod yn ddyfais bwysig?Mae y cwmpawd yn ddyfais bwysig gan ei fod wedi newid y ffordd mae bywyd yn gweithio heddiw ac dal yn cael ei ddefnyddio gan bobl sy'n cerdded neu heicio. Hefyd heb y cwmpawd byddai pethau modern fel satnav ddim yma.
Bydd y rhifyn nesaf ar gael o ddydd Llun 11 Mai 2020. Os hoffech gyfrannu, cofiwch ddanfon eich darn at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 7 Mai 2020.
Our next issue will be available on Monday 11 May 2020, remember to send your contribution to llais@gwynllyw.org before Thursday 7 May 2020.