11 Mai 2020
Welcome to issue 4 of Gwynllyw's digital magazine. This is an opportunity for pupils to read articles, listen to music, watch clips and take part. If you would like to contribute to the next issue, email your ideas to llais@gwynllyw.org before Thursday 14 May 2020.
Wrth i mi gerdded i mewn i'r ffair brysur, mae ton o gyffro yn fy nharo. Mae'r nos yn ddu fel bol buwch ond wedi cael ei goleuo gan y stondinau yn gwerthu bwyd sbeislyd a trits melys. Wedi byddaru gan y gerddoriaeth roc sy'n atseinio o'n cwmpas, rhedaf ymlaen er mwyn dianc o'r dorf ddiamenydd ar bwys y ceir bach gwyllt herciog. Yn sydyn, dwi'n stopio o flaen helter skelter anferthol ac rwy'n estyn am un o'r matiau, garw, pigog. Gydag un llaw yn dal y mat crafog, ar llall yn dal canllaw gludog, rwy'n hedfan i fyny'r grisiau llithrig. Erbyn i mi gyrraedd ben y brig, mae fy ngwynt yn fy nwrn ond mae'r ymdrech yn werth chweil. Mae mor o olau amryliw yn fy amgylchynu ac er rydw dal i glywed y gerddoriaeth erchyll isod, mae gen i deimlad o sirioldeb fel rydw yn ofodwr yn edrych i lawr ar y ddaear bert.
Gyda'r mat anghyfforddus o danaf i , rwy'n cylchdroi o gwmpas yr Helter Skelter llyfn gyda fy ngwallt yn chwythu tu ol i mi. Mae'r lliwiau amryliw yn troi mewn i un, wrth i mi fynd yn gyflymach ac yn gyflymach gyda phob troad! Mae'r gwynt cryf yn chwythu aroglau melys yn fy wyneb oer. Yn sydyn, rydw i'n dod i stop ac rwy'n hedfan off diwedd y llithren fendigedig ac rydw i'n cwympo oddi ar y mat garw. Rwy'n disgwyl bwrw'r llawr caled ond rwy'n glanio ar beth sy'n teimlo fel cwmwl meddal.
'SGWiC!' Mae drysau annifyr y tren ysbrydion yn agor. Teimlaf yn nerfus, does dim mynd yn ol nawr. Gwelais yr edrychiad ofn pur ar wynebau'r goroeswyr ond roeddwn yn teimlo yn ddewr. Dwi ddim nawr.
I mewn i'r 'stafell gyntaf, mae wedi cael ei addurno fel coeden Nadolig- ond gyda gwe pry-cop arswydus. Mae hefyd llawn cyrff ffiaidd, gwaedlyd, erchyll. Y 'stafell nesaf; mae'n ystafell frawychus sy'n ddu fel bol buwch. Clywaf ysbrydion yn udo yn y tywyllwch. Yn sydyn, mae golau llachar yn fflachio, mae sgerbydau erchyll yn cwympo o'r nenfwd di-ben-draw ac rydw i yn clywed sgrech fyddarol! Mae'r tren hunllefus yma yn parhau, gyda throadau sydyn yn synnu fi pob tro, a beth sy'n teimlo fel pry cop enfawr, blewog yn dawnsio ar draws fy mhen.
Heb rybudd, mae'r tren yn cyflymu, poenaf bydd y tren hwn yn ddiddiwedd ond yn sydyn mae golau dydd yn fy nallu. Mae'r haul yn disgleirio yn braf ac mae gen i deimlad o ryddid a rhyddhad. Byth eto!
Yn y ciw am y rollercoaster, dwi ddim yn siwr am hyn. Gwelais y neidr o drac ond roedd yn swnio fel syniad da ar y pryd, nid nawr. Dringaf i mewn i fy sedd oer, teimlaf yn nerfus. Mae'r reid yn dechrau, a mae fy nghalon yn neidio. I ffwrdd a ni, o gwmpas clwstwr o goed gwyrdd , o gwmpas crowdiau o bobl yn syllu ar y reid beryglus yma, o gwmpas stondinau prysur, bywiog a gallai arogli candi-fflos melys. Yn sydyn, rydym yn troi cornel, ac mae'r trac yn codi mewn llinell serth.
Mae'r car yn dechrau dringo. Rydym yn eistedd ar ongl anghyfforddus a mae'r car yn siglog sy ddim yn helpu. Teimlaf fel byddaf yn chwydu. Wrth i ni ddringo yn uwch mae'r bobl yn mynd yn mynd yn llai ac yn llai a dyw'r reidiau eraill ddim yn edrych mor uchel. Mae'r gerddoriaeth yn tawelu ac yr unig synau allai glywed yw'r sain o bobl tu ol i mi yn sibrwd a chyffro a'r car yn crafu yn wichlyd yn erbyn y trac.
Yn sydyn, rydym wedi cyrraedd pen yr allt. Wrth edrych i lawr gallaf weld bell i ffwrdd. Mae yna olygfeydd syfrdanol! O danaf i, gallaf weld rhesi maith gyda torfau o bobl yn siarad fel melyn bupur. Mae'r car yn dod i stop. Rwy'n gafael yn dynn yn yr harnes gludiog ac arhosaf am y reid i ddechrau. Gallaf deimlo fy nghalon yn curo yn fy mrest. Teimlaf yn frawychus, pryd bydd y car yn gostwng?
Yn sydyn, heb rybudd, mae'r car yn gostwng. Mae fy stumog yn dawnsio yn fy mol, a theimlaf wynt pwerus yn chwythu yn fy wyneb. Clywaf sgrechian byddarol tu ol i mi ac yn sydyn rydym yn dringo eto, tro yma yn gyflym. Mae hyn yn wych! Rwy allan o wynt ond llawn cyffro. I lawr a ni eto, ac rwy'n gafael yn fwy dynn ar yr harnes oer. Mae hyn yn anhygoel! Yna, edrychaf o fy mlaen a gwelaf Ëśloop the loop'! Mae un rhan ohonof i yn bryderus ond mae'r rhan arall wedi cyffroi! 'AAAAAAA!' Sgrechiaf wrth i ni fynd ben i waered, ond does dim amser i edrych o gwmpas ar y golygfeydd anghredadwy oherwydd rydym yn dringo rhan arall o'r rollercoaster anferthol!
O'r diwedd, mae'r car yn arafu ac mae gen i amser i ddal fy ngwynt. Rydw i'n falch roeddwn wedi trio fe: roedd o'n brofiad anhygoel, ond roedd y cyffro yn ddigon am heddiw. Efallai blwyddyn nesaf!
Mae fy mhen dal yn troelli fel jeli ar ol y rollercoaster aferthol yna, ond rydw i yn edrych ymlaen at archwilio gweddill y ffair anhygoel. Cerddaf heibio'r cwrt bwyd ac aroglaf fwydydd o bob cornel y byd, bwyd Indiaid sbeislyd, pysgod a sglods hallt a chrempogau melys. Prynaf candi-floss pinc, danteithiol ar y ffordd i'r stondinau. Rwy'n mynd yn ling di long heibio'r 'hook a duck' prysur a'r 'hoopla' poblogaidd, cyn gweld y 'Hoop Shoots'.
Mae yna giw hir tu fas i'r 'Hoop Shoots' ond rydw i eisiau cael tro. Mae'r candi-floss blasus yn toddi ar fy nhafod. Yn sydyn, clywaf sgrech fyddarol plentyn, edrychaf draw a gwelaf ei fod wedi ennill tedi fflwfflyd fel cwmwl sydd yr un maint a fo. O'r diwedd, mae'n tro fi! Teimlaf yn gyffrous wrth i mi bigo pel i fyny, mae'n teimlo yn arw yn fy nwylo oer. Cydiaf yn dynn a thaflaf yn ofalus. Ond clywaf y bel yn bownsio off yr ymyl, o na! Tro dau, cydiaf yn dynn eto a saethaf. Tro, yma clywaf y cadwyni yn dawnsio wrth i'r bel fynd trwy'r gol. Hwre!! Dwi wedi ennill tedi meddal, ciwt. Mae gen i un tro arall i gael gwobr, saethaf a chlywaf y cadwyni yn siglo eto. Doeddwn i ddim yn meddwl byddaf yn sgorio ddwywaith! Tro yma rydw i yn ennill tegan uncorn pinc fel y candi-floss melys cefais cynt!
Beth ydy eich rol yn yr ysgol?
Athrawes Saesneg
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Ers 2017
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Roedd gen i athrawon anhygoel a heb eu cymorth a'u hanogaeth ni fyddwn erioed wedi mynd i Rydychen. Deuthum yn athro i helpu myfyrwyr eraill i wneud yr un peth!
Sut ydych chi'n goroesi Ëślockdown'?
Llawer o ddarllen, amser yn yr ardd a'r daith gerdded ddyddiol.
Rydw i wedi dechrau vlog
https://www.youtube.com/channel/UC7nGqrSUM-wN8n0JwWkA26g
Unrhyw wybodaeth arall?
Rwy'n mwynhau ysgrifennu a fy nod yw cyhoeddi llyfr.
Beth ydy eich rol yn yr ysgol?
Arweinydd Y Fagloriaeth Cymru
Athro Ffiseg a Gwyddoniaeth
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
10 mlynedd
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
Eisiau cymryd rhan yn datblygu dealltwriaeth pobl ifanc ym mhynciau rwyn gweld yn ddiddorol a phwysig.
Eisiau gweithio gyda pobl ifanc a mewn swydd sy'n wahanol bob dydd.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
Edrych ar ol y meibion.
Cynllunio gwelliannau i'r ty.
Cadw mewn cyswllt a staff
Gwylio Westworld, Billions, Mandolorian a lot fawr o Patrol Pawennau!
Mynd am reid ar y beic
Facetime gyda ffrindiau a teulu
Unrhyw wybodaeth arall?
Edrych ymlaen at wneud mwy o ffitrwydd a threulio amser gyda ffrindiau a theulu
Beth ydy eich rol yn yr ysgol?
Athrawes Saesneg ac o fis Medi ymlaen dwi'n dechrau rol newydd fel Pennaeth Cynnydd dros dro.
Ers faint ydych chi wedi bod yng Ngwynllyw?
Dwi wedi cael dros 10 mlynydd o hapusrwydd yng Ngwynllyw. Dechreuais i yn 2006 a doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg. Ond gyda dyfalbarhad a lot o ymarfer roeddwn i'n rhugl erbyn Nadolig.
Beth oedd eich ysbrydoliaeth i ddysgu?
On i wastad moyn dysgu ond ar ol y Brifysgol yn Llundain a Stockholm, on i wedi cwympo mewn i weithio dros gwmni recriwtio. Rhan o'r rol oedd i hyfforddi staff yn y swyddfa ond hefyd llenwi swyddi pwysig iawn yn ninas Llundain. Ond ges i hiraeth am Gymru a des i adre i weitho mewn marchnata ond yn 2004 penderfynais i wneud rhywbeth on i wastad moyn neud sef dysgu. Felly es i i Aberdeen i wneud ymarfer dysgu.
Es i i ysgol galed iawn ond roedd athrawon brwdfrydig tu hwnt sy wedi ysbrydoli fi i ddysgu. Dwi wedi bod nol i fy hen ysgol i yng Nghaerdydd i weithio ac roedd e'n hyfryd cael y cyfle i gyd-weitho gyda fy hen athrawon a dysgu plant fy ffrindau o'r ardal. Dwi dal mewn cyswyllt gyda nifer fawr o fy hen athrawon ac hyd yn oed wedi cyflenwi dros un ohonyn nhw. Dwi'n mwynhau gweithio mewn ysgol ac yn gweld eisiau gweithio gyda disgyblion.
Sut ydych chi'n goroesi 'lockdown'?
DARLLEN! Ond rhwng gweithio a thrio addysgu fy mhlant, does dim lot o amser ar ol. Dwi hefyd wedi bod yn gwylio cyfres rhaglenni o Europe (dwli ar bethau o Scandinavia achos dwi'n gallu ymarfer fy Swedish) a ffilmau. Rydyn ni wedi bod yn coginio fel teulu hefyd a thrio neud Joe Wicks. Rydyn ni'n ddigon ffodus i fyw yn agos i barc felly rydyn ni'n mynd am dro neu mas ar y scooters bob dydd.
Unrhyw wybodaeth arall?
Wel, fel mae fy nisgyblion yn gwybod, dwi'n Bluebird ac yn cefnogi'r Adar Gleison sef Cardiff City. Mae tocyn tymor da fi a dwi'n edrych ymlaen i fynd nol lawr i'r city i weld nhw'n whare. Dwi wedi cyfrannu sawl tro i raglen radio Ar y Marc ar Radio Cymru ond dwi'n dal i aros am yr alwad gan Garry Lineker i helpu fe gyflwyno Match of The Day.
Dwi hefyd yn gallu siarad Swedish felly pan dwi'n gallu, dwi'n darllen a gwylio pethau yn Swedish er mwyn cadw fy sgiliau iaith lan. Wnes i radd mewn Scandinavian Studies ac roeddwn i'n byw yn Stockholm, Sweden am flwyddyn. Dwi'n gallu deall Danish a Norwegian hefyd ond dechrau mynd bach yn rusty gyda nhw ond ar ol gwylio ffilm dwi'n teimlo bod fy sgiliau yn dod nol.
Mae Luned Rhys-Parri yn artist o Groeslon , Caernarfon sy'n creu portreadau byw o gymeriadau mewn 3-D gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau. Enillodd 'Artist y flwyddyn' yng Nghymru yn gynnar iawn yn ei gyrfa ac mae wedi mynd ymlaen i ennill nifer o wobrau ers hynny. Mae ei gwaith yn cael ei arddangos yn helaeth o gwmpas Prydain a thramor, ac mae dylanwad ei chynefin i weld yn amlwg yn ei gwaith. Gwelir hefyd ysbrydoliaeth o deithio i Galicia, Gwlad y Basg a'r Wladfa yn yr Ariannin yn y blynyddoedd diwethaf.
Cefais gyfle i holi Luned yr wythnos yma am ei gwaith a sut mae hi'n ymdopi efo'r sefyllfa bresennol.
Os hoffwch weld mwy o'i gwaith, gwasgwch ar y dolenni isod.
https://welshart.net/artists/64-luned-rhys-parri/works/
https://www.oriel.org.uk/cy/artistiaid/parri-luned-rhys
Watch the television program to learn more about Luned Rhys-Parri's work.
Aeth Alys Williams ar raglen The Voice yn 2012 ond ni aeth drwodd i'r 'clyweliadau dall' oherwydd nerfau - teimlodd nad oedd wedi canu'n dda iawn. Aeth yn ol y flwyddyn ganlynol, 2013 i brofi ei bod hi yn gallu gwneud yn well na'r flwyddyn gynt. Y flwyddyn honno fe wnaeth y pedwar beirniad droi ond dewisodd Alys y canwr Tom Jones fel ei mentor. Gwnaeth Alys lawer o ffrindiau ar raglen The Voice a daeth ymlaen yn dda iawn gyda'i mentor Tom Jones. Roedd Alys yn arfer bod yn nerfus iawn cyn canu ond ar ol ymddangos ar y rhaglen llwyddodd i oresgyn ei nerfau gan fynd ymlaen i ganu ar raglenni a oedd yn cael eu darlledu yn fyw i filiynau o bobl, ac ennill bywoliaeth drwy ganu.
Rhyddhaodd Candelas eu EP cyntaf "Kim Y syniad " yn 2011. Ers cael ei arwyddo i'r label i KA Ching yn 2013 maent wedi rhyddhau dwy albym a thair sengl. Roedd eu halbwm cyntaf yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae eu hail albwm yn cael ei chanu'n llwyr yn Gymraeg. Ym mis Chwefror 2014 enillodd y band dair gwobr Y Selar am y gân Gymraeg orau, y record hir orau a'r band gorau. Fe enillon nhw'r band Cymraeg gorau eto ym mis Chwefror 2015, gan ennill y wobr gwaith celf gorau hefyd. Roedd eu halbwm 'Bodoli'n Ddistaw' ar restr fer albwm Gymraeg y flwyddyn 2015.
Yn 2016 recordiodd y band ffefryn i Paris, a ddisgrifiwyd fel "anthem yr haf ", i ddathlu tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd pencampwriaeth pêl-droed Ewrop.
Mae'r band wedi chwarae mewn nifer o wyliau cerddorol ledled Cymru fel Gŵyl Rhif 6, Maes B, a Tafwyl a ddaetyn ben-llanw yn 2016 ac eto yn 2017 ar ôl i Bryn Fôn dynnu allan.
Yn 2017 adroddwyd bod y band yn recordio eu EP Saesneg cyntaf a thrydydd albwm, a ryddhawyd yn 2018 o'r enw 'Wyt ti'n meiddio dod i chwarae gan ddilyn dwy ganllath.
Enillodd drymiwr y band, Lewis Williams, yr offerynnwr gorau yng ngwobrau 2013 Y Selar am ei waith yn Candelas a Sŵnami.
Lleoliad glan y mor a chanolfan hwylio/chwaraeon dwr hynod boblogaidd - a ffasiynol - gyda thraethau a harbwr cysgodol. Rhaglen brysur o ddigwyddiadau hwylio yn ogystal Wakestock, gwyl gerddorol a wakeboard fwyaf Ewrop (a gynhelir ym mis Gorffennaf). Bywyd bistro prysur hefyd ynghyd a dewis da o lety ac atyniadau, sy'n cynnwys merlota, tripiau cwch a chanolfan grefftau. Mae Abersoch hefyd yn ganolfan ar gyfer chwe thaith gerdded sy'n amrywio o rai llai na milltir i dros naw milltir.
Gwyliwch 'Am Dro!' i ddarganfod mwy am Abersoch.
Ysgol Gyfun Gwynllyw,
Heol Folly,
Pontypwl.
Torfaen.
24/4/2020
Annwyl Mr Johnson,
Rwy'n ysgrifennu atoch chi i berswadio chi i godi cyflog gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac i roi mwy o werthfawrogiad oherwydd credaf fod dim llawer o werthfawrogiad yn mynd i'r gweithwyr allweddol sydd yn peryglu eu bywydau'n ddyddiol er mwyn diogelu chi a ni oll o fewn y wlad.
Fy mhwynt cyntaf yw roedden nhw'n gweithio'n galed iawn cyn bod y Coronafeirws wedi dechrau, a doedden nhw ddim efo llawer o werthfawrogiad. Mae'n anodd i gredu erbyn hyn eich bod chi, aelodau'r senedd wedi gwrthod codi tal staff GIG. Cyn roedd y pandemig wedi dechrau roedden nhw yn edrych ar ol pobl bregus yn ein cymdeithas o ddydd i ddydd heb unrhyw werthfawrogiad ond nawr rydych chi wedi cyfeirio atynt sawl tro fel arwyr ar lefel bersonol ac yn genedlaethol.
Hefyd, yn ystod yr achosion o Goronafeirws, mae eu cysegriad i bobl Prydain yn rhagorol. Maent yn rhoi eu bywydau mewn perygl i helpu pobl y genedl. Maent yn gweithio am amseroedd hir, hyd at ddeuddeg awr, ac yn gweld pobl yn marw o'u cwmpas, sydd gallu arwain at bryder a problemau iechyd meddwl.
Yn ychwanegol, mae'r staff GIG wedi ennill parch haeddianol y wlad oherwydd am 8:00 yp bob Dydd Iau, mae pawb yn clapio am y gweithwyr allweddol yma ac, mae'n para am 5-10 munud a mae pobl yn defnyddio pethau fel offer coginio a megaffonau i ddangos eu parch. Mae'n cael ei bostio i wefannau fel Facebook sydd yn lledaenu ac yn helpu pobl arall i ymuno. Ond a'i dyma'r un gwerthfawrogiad mae'r gweithwyr allweddol yn haeddu?
Rhaid gweithredu nawr oherwydd does dim digon o offer i'r gweithwyr GIG i ddefnyddio, fel masgiau i'w hamddiffyn. Os nag oes dim digon o PPE bydd y Coronafeirws yn parhau i ledaenu i deuluoedd eraill. Oes angen i eraill orfod galaru a gweld bywydau yn cael eu dinistrio oherwydd rhesymau ariannol? Yn ystod y cyfnod hwn ni allwch roi pris ar fywydau. Mae gan bawb yr hawl i fyw.
Yn ychwanegol oherwydd maen nhw'n gweithio mor hir, does dim digon o adnoddau yn y siopau iddynt brynu a defnyddio, ond, mae siopau fel Sainsbury's yn agor am 30 munud i'r staff GIG a gweithwyr hanfodol yn unig, sydd yn dangos fod Sainsbury's yn meddwl am y gweithwyr hanfodol a dylai siopau arall wneud hyn. Oes rhaid i archfarnadoedd ddangos mwy o arweiniad na'r llywodraeth?
Yn y pendraw, does dal dim digon o arian yn y GIG i gario ymlaen yn yr hir dymor ac efo dim PPE bydd llai o nyrsys a doctoriaid i weithio. Ni fydd y cylch yn torri oni bai bod y llywodraeth yn cynnig yr arweiniad sydd angen a thrin y gweithwyr allweddol yn economaidd gyda'r parch maent yn haeddu. Bydd angen y gweithwyr allweddol tu hwnt i'r pandemig yma.
Rydw i'n gobeithio fy mod wedi eich perswadio i roi mwy o gymorth a PPE fel ein bod fel gwlad yn gallu curo y Coronafeirws yn gyflymach a rhoi parch maen nhw'n haeddu i'r gweithwyr allweddol pob dydd ac nid dim ond am 8 o'r gloch bob nos Iau.
Yr eiddoch yn gywir
Finlay Hawkins, Blwyddyn 9
Bydd y rhifyn nesaf ar gael o ddydd Llun 18 Mai 2020. Os hoffech gyfrannu, cofiwch ddanfon eich darn at llais@gwynllyw.org cyn dydd Iau 14 Mai 2020.
Our next issue will be available on Monday 18 May 2020, remember to send your contribution to llais@gwynllyw.org before Thursday 14 May 2020.