Dewis Iaith | Chose Language
Penderfynodd Seren gymryd rhan yn Miss Swimsuit UK yn 2019 pan gafodd anaf ac nad oedd yn medru chwarae rygbi, ac fe gyrhaeddodd y Rownd Derfynol a 10 uchaf y gystadleuaeth.
Cwblhaodd Seren ei gradd BSc mewn Iechyd a Gwyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac mae ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei PhD. Mae ei hymchwil PhD yn archwilio'r dangosyddion allweddol anaf o fewn yr undeb rygbi, mewn ymgais i ragweld anafiadau dilynol.
Wedi bod yn therapydd tylino chwaraeon yn RGC am dri thymor, mae Seren yn anelu at ddod yn ffisiotherapydd chwaraeon.
Mae Seren wedi dod yn ddylanwadwr cadarnhaol ar gyfryngau cymdeithasol gan rannu ei hyfforddiant crossfit personol, ac yn gobeithio cystadlu ar lefel nofis yn y dyfodol agos.