Dewis Iaith | Chose Language
Yn 2016 cafodd Francesa ddamwain ysgytwol tra ar noson allan, a olygodd iddi dorri ei chefn a'i phenglog. Collodd ei synnwyr arogli ac fe'i pharlyswyd hefyd o'r wast i lawr. Gan benderfynu na fyddai yn ei hatal rhag byw ei bywyd, mae wedi parhau i gyflawni cymaint.
Mae Francesa yn cystadlu mewn Codi Para-Power ac yn 2020 daeth yn bencampwr Codi Pwysau Cymru a hi gododd orau yn y gystadleuaeth. Mae Francesca hefyd yn chwarae Pêl Fasged Cadair Olwyn gyda Thîm Cadair Olwyn yr Anglesey Hawks, yn Llysgennad Cadair Olwyn RGK a hefyd yn Llysgennad Chwaraeon Anabledd Cymru.
Gwyliwch y clip fideo. i ddarganfod beth a ddywedodd Francesca ynglŷn â sut mae siarad ag eraill wedi ei helpu. Neu dewch i wybod mwy ynglŷn â sut y gwnaeth barhau i hyfforddi adre yn ystod y cyfnod clo.