Dewis Iaith | Chose Language
Yn gyn fyfyriwr Awyr Agored o GLLM, mae Emily ar hyn o bryd yn astudio Addysg Awyr Agored ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Bu Emily yn Bencampwraig Cymru bedair gwaith ac yn aelod o dîm Slalom Cymru a Phrydain.
Cyflwynwyd Emily i badlo drwy ei thad Jonathon, sydd yn Swyddog Llwybrau Talent yng Ngogledd Cymru ac wedi ennill gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn Canŵ Cymru 2017.
Wedi dod yn aelod o Glwb Canwio Bala, aeth Emily ymlaen i gystadlu yn ei chystadleuaeth gyntaf yn Mile End Mill yn Llangollen ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Mae'n hyfforddi yn ddyddiol ar wahanol safleoedd gan gynnwys Afon Tryweryn yn y Bala, Llyn Padarn yn Llanberis, Afon Teifi yn Llandysul, Canolfan Dwr Gwyn Caerdydd, Lee Valley a Holme Pierrepont yn Nottingham.
Pan nad yw yn ei chanŵ, mae Emily yn mwynhau nofio dwr agored, dringo, rhedeg a mynydda.
Yn y dyfodol, byddai Emily yn hoffi parhau i gael hwyl a mwynhau padlo gan anelu at ddod yn rhan o Dîm Prydain Fawr ar gyfer y gemau Olympaidd un dydd. Drwy wneud ei gradd gyfredol, mae Emily yn ceisio ennill profiad a chymwysterau a fydd yn ei galluogi i hyfforddi amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.
Roedd Emily yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Canŵ Cymru 2020 ac fe'i gosodwyd yn y 5 uchaf fel Prif Badlwr am y 3 blynedd diwethaf.