Dewis Iaith | Chose Language
Yn ogystal ag astudio Lefel A yn llawn amser yn y coleg, mae wythnos arferol Llio yn cynnwys:
Sesiwn hyfforddi am awr gyda Chlwb Pêl-rwyd Merched Dolgellau a chwarae un neu ddwy o gemau'r wythnos.
Hyfforddi am thua 3 awr yr wythnos gyda Chlwb Criced Dolgellau. Gall hyn hefyd gynnwys mynd i'r gampfa.
Gweithio'n rhan-amser mewn gwesty (ond mae hi wedi bod yn rhan o'r cynllun ffyrlo eleni).
Cychwynnodd diddordeb Llio mewn criced wrth iddi wylio ei thad yn chwarae. Dechreuodd chwarae bedair blynedd yn ôl wedi i Glwb Criced Dolgellau sefydlu adran iau i'r merched. Cafodd Llio ei dewis i chwarae i drydydd tîm dynion y clwb cyn cael ei dewis i fod yn rhan o ail dîm y dynion ac erbyn hyn mae hi'n rhan o Dîm Criced Merched dan 17 Cymru (2020). Bydd ei chap cyntaf ym mis Awst 2020.
Mae Llio hefyd yn gobeithio dechrau hyfforddi 3 awr yr wythnos gyda sgwad hyfforddi'r gaeaf Merched Criced Cymru ac i fod yn rhan o sesiynau hyfforddi llawn yn ystod gwyliau'r coleg ac ambell i benwythnos.
Yn ei hamser sbâr mae Llio yn chwarae Pêl-rwyd i Dîm Pêl-rwyd Dolgellau yng nghynghrair Gogledd Cymru.