Dewis Iaith | Chose Language
Ro'n i eisiau helpu pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a chael cymaint o brofiad â phosib ym maes hyfforddi a dyfarnu.
Ro'n i eisiau gwneud gwahaniaeth ac annog mwy o ddysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwaraeon..
Bod yn rhan o weithgareddau a digwyddiadau a gweld y gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud wrth helpu a chefnogi pobl eraill i ddysgu. Mae hefyd yn braf cyfarfod a siarad gyda llysgenhadon eraill ar safleoedd a chyrsiau eraill.
Dw i wedi gwirfoddoli mewn nifer o ddigwyddiadau cyn-ymrwymo RGC, wedi cefnogi digwyddiad Cwpan Rygbi'r Byd ILS, digwyddiadau Undeb Rygbi Cymru i bobl fyddar ym Mharc Eirias ac wedi hyfforddi sesiynau rygbi mewn ysgolion cynradd a gwersylloedd gwyliau wrth hyrwyddo'r rhaglen llysgennad actif. Hefyd, dw i wedi gwirfoddoli mewn digwyddiadau rygbi cymunedol yng Nghlwb Rygbi Rhuthun yn recriwtio merched i fod yn rhan o'n tîm - sef y Ravens.
Mi wnes i gymryd rhan yng ngweithdy 'Club of the Future' URC Gogledd Cymru hefyd i gyflwyno a chynnig syniadau a gweledigaeth ar gyfer dyfodol clybiau rygbi cymunedol. Dw i hefyd wedi bod yn rhan o Grŵp Llywio yr ymgyrch Urddas yn ystod Mislif
Wnewch chi ddim difaru ymgeisio i fod yn Llysgennad Actif ac mi allwch chi wneud ychydig neu lot fawr o waith gwirfoddol. Mae'n ffordd dda o ymarfer cydbwyso eich sgiliau rheoli amser, a chael profiadau newydd.