Dewis Iaith | Chose Language
Mae Kristina wrthi'n astudio Gwyddor Fiofeddygol yn GLlM, Bangor ac yn gobeithio mynd i'r Brifysgol i astudio Nyrsio Paediatrig. Mae hi wedi bod yn Llysgennad Actif ers 2019 ac erbyn hyn mae hi'n Llysgennad Actif Platinwm a hefyd yn aelod o Grŵp Llywio'r Llysgenhadon Ifanc Cenedlaethol.
Yn ei hamser sbâr, mae Kristina yn chwarae rygbi i Dîm Merched RGC dan 18 ac mae hi wedi chwarae i sgwad y coleg yng nghystadlaethau Colegau Cymru.
Mae Kristina wedi gwirfoddoli dros 300 awr yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yn cefnogi'r Swyddog Ymgysylltu ac yn helpu mewn digwyddiadau cymunedol URC. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys digwyddiadau cyn-ymgysylltu yn Stadiwm Zip World, Eirias, hyfforddi yn Hwb Rygbi Merched yng Nghaernarfon (Môr Ladron) a recriwtio Llysgenhadon Actif eraill yn GLlM.
Fel rhan o'i rôl fel Llysgennad Actif, mae Kristina hefyd wedi cwblhau cwrs Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl mewn Chwaraeon.