Dewis Iaith | Chose Language
Mae Jody yn gyn-fyfyrwraig Addysg Awyr Agored yng Ngholeg Menai, Bangor ac ar hyn o bryd mae hi'n gwneud Prentisiaeth i Bobl Ifanc gyda'r Urdd ac yn gobeithio cael gwaith ym maes datblygu chwaraeon.
Roedd Jody yn Llysgennad i'r Ifanc yn yr ysgol ac aeth ymlaen â'i thaith fel Llysgennad yn y coleg gan sicrhau ei lle fel Llysgennad Actif Aur.
Mae hi'n athletwraig o fri ac yn ei hamser sbâr mae hi'n chwarae pêl-droed i Dîm Pêl-droed Merched Bethel ac yn aelod o Redwyr Eryri (Eryri Harriers).
Yn 2019, aeth Jody i gynrychioli Cymru a chystadlu yn Ras Rhedeg Mynydd Rhyngwladol dan 18 oed fel rhan o Dîm Athletau Cymru.
Mae Jody yn cynnig cyngor gwerthfawr iawn i ddysgwyr, gwrandewch ar yr hyn sydd ganddi i'w ddweud.