Hwb Rygbi

Mae Hwb Rygbi Grŵp Llandrillo Menai yn fenter ar y cyd rhwng WRU a GLLM sydd â’r nod o ddarparu cyfleoedd cyfoethog i fyfyrwyr a staff i gael mynediad i’r ystod eang o fanteision ymgysylltu â Rygbi. Mae’r Hwb wedi ymrwymo i gynhwysiant a hygyrchedd, gan geisio ennyn diddordeb myfyrwyr o bob cefndir i ddefnyddio Rygbi fel cyfrwng ar gyfer datblygiad myfyrwyr.


cwrdd â swyddog y hwb

Ollie Coles

'Bydd y rhaglen Hybu Rygbi yn hwyluso, datblygu ac yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o gyfleoedd i fyfyrwyr GLlM. Bydd y cyfleoedd hyn yn gynhwysol ac yn agored i fyfyrwyr o bob cefndir. Bydd myfyrwyr yn gweld effaith cadarnhaol ar eu lles meddyliol a chorfforol yn ystod eu cyfnod yn GLlM yn ogystal â meithrin sgiliau meddyliol a chorfforol angenrheidiol i lwyddo mewn bywyd. Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o strategaethau cynhwysfawr a rhai wedi'u targedu er mwyn gwneud yn siŵr bod y Rhaglen Hybu Rygbi yn cael yr effaith mwyaf posib ar fyfyrwyr.''