Cyfres o englynion milwr
Mesur caeth yw englyn milwr, a gallai hyn gynrychioli fod y bardd yn teimlo’n gaeth gan ei fod wedi cael ei hudo gan y ferch. Mae’r gerdd mewn cynghanedd, ac oherwydd bod dwy ochr i linell o gynghanedd, efallai fod dwy ochr i stori’r bardd a’r ferch. Yn sicr, mae cynghanedd yn creu harmoni mewn llinell, a dyma’r union beth y mae’r bardd yn dyheu amdano. Mae’r ffaith fod un englyn yn llifo i’r llall, ‘a hyder a direidi yn eu llawnder...’ yn adlewyrchu brwdfydedd y bardd i gwrdd â’r ferch. Mae patrwm y cytseiniaid yn y llinell ‘yn sŵn ein dawns ni ein dau’ yn cynrychioli patrwm y ddawns, a curiadau rhythm y gerddoriaeth.