Etifeddiaeth

gan Gerallt Lloyd Owen

Y gerdd

Etifeddiaeth


Cawsom wlad i’w chadw,

darn o dir yn dyst

ein bod wedi mynnu byw.


Cawsom genedl o genhedlaeth

i genhedlaeth, ac anadlu

ein hanes ni ein hunain.


A chawsom iaith, er na cheisiem hi,

oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes

a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.


Troesom ein tir yn simneau tân

a phlannu coed a pheilonau cadarn

lle nad oedd llyn.


Troesom ein cenedl i genhedlu

estroniaid heb ystyr i’w hanes,

gwymon o ddynion heb ddal

tro’r trai.


A throesom iaith yr oesau

yn iaith ein cywilydd ni.

Ystyriwch; a oes dihareb

a ddwed y gwirionedd hwn:

Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl

a’i hedd yw ei hangau hi.


Gerallt Lloyd Owen

Llais y bardd yn darllen y gerdd

Delweddau o'r gerdd

Cynnwys ac Arddull y gerdd

RHAN 1

Naws optimistaidd a gobeithiol sydd i ran agoriadol y gerdd. Mae’r bardd yn darlunio GORFFENNOL euraidd Cymru ac yn pwysleisio gwerth yr etifeddiaeth gyfoethog a drosglwyddwyd i lawr ar hyd y canrifoedd. Trwy’r rhan gyntaf hon mae’n AILADRODD y FERF ORFFENNOL PERSON CYNTAF LLUOSOG (Berf Oddefol) “Cawsom”, ac wrth reswm ymhlyg yn y ferf mae’r RHAGENW PERSON CYNTAF LLUOSOG “Ni”. Pwysleisia hyn gymaint sydd gennym fel cenedl yn ein meddiant i fod yn falch ohono. Ond o GAEL rhaid hefyd GWARCHOD. Mae’r bardd yn glynu yn agos at ddehongliad J.R.JONES o’r hyn sy’n sail i bob cenedl.

· GWLAD A THIR - Dyma’r prawf diriaethol o’n bodolaeth ni fel cenedl sef y ddaear yr ydym yn ei hawlio a’i galw’n GYMRU. Dyma’r tir y bu’n rhaid i ni frwydro amdano – y tir sy’n gartref i ni ac yn ffynhonnell ein cynhaliaeth fel cenedl. Mae defnydd y bardd o’r GYNGHANEDD LUSG yn pwysleisio’r cariad a’r cynhesrwydd y dylai pob un ohonom deimlo wrth ofalu am ein gwlad


“Cawsom wlad i’w chadw,


Darn o dir yn dyst

ein bod wedi mynnu byw...”

· HANES A CHENEDL - Mae hanes gwlad yn brawf o’i bodolaeth. Dyma sy’n ein gwneud yn unigryw a gwahanol i genedlaethau eraill y byd. Dyma’n gwreiddiau, ein hysbrydoliaeth a’r hyn a esgorodd ar ein heddiw ac a fydd yn ffurfio ein yfory. Rydym yn rhan o gadwyn werthfawr y cenedlaethau a gwae ni os gadewn iddi dorri. Mae’r TROSIAD “anadlu ein hanes” yn tanlinellu bod ein hetifeddiaeth yn rhan annatod ohonom.

“ Cawsom genedl o genhedlaeth

i genhedlaeth ac anadlu

Ein hanes ni ein hunain....”

· IAITH - Iaith Cenedl sy’n rhoi iddi ei hunaniaeth a’i harwahanrwydd. Profiad hollol anymwybodol yw trosglwyddo iaith o dafod i dafod, o dad i fab. Greddf yw dysgu siarad iaith eich cenedl – mae fel petai’r geiriau yn rhan annatod o ddaear ein gwlad. Profiad iasol (TROSIAD) yw siarad iaith eich tadau ac mae iaith yn “rym anniddig”. Awgryma’r TROSIAD hwn fod ysbryd yr iaith Gymraeg yn bŵer sy’n rhan annatod o’n gwlad, a’i gwreiddiau yn y pridd ac ar y mynyddoedd. Ni all neb ysgaru’r iaith Gymraeg oddi wrth Gymru. Mae’n bŵer cyffrous, aflonydd sy’n mynnu esblygu a goroesi.

“a chawsom iaith, er na cheisiem hi,

Oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes

A’i grym anniddig ar y mynyddoedd....”

RHAN 2

Naws hollol negyddol, besimistaidd ac anobeithiol sydd i ail ran y gerdd. Trwy AILADRODD y FERF ORFFENNOL PERSON CYNTAF LLUOSOG (Berf Weithredol) “Troesom”, canolbwyntia’r bardd ar ein hesgeulustod o’n hetifeddiaeth. O gymryd ein gwlad yn ganiataol a methu amddiffyn y gwerthoedd gorau daw dirywiad sy’n bygwth hanfod bodolaeth y genedl.

· GWLAD A THIR – Mae’r bardd yn RHESTRU yr holl ffyrdd yr ydym wedi distrywio a llygru’n gwlad a’n tir. Yn y 60au dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu coed ar draws cefn gwlad Cymru a chollwyd sawl cymdogaeth. Adeiladwyd ffatrïoedd a simneiau mawr o ganlyniad i’r chwyldro diwydiannol ac o ganlyniad i’n hawydd am drydan, codwyd peilonau mawr, hyll i ddifetha’n tirlun. Cyfeirir yma hefyd at foddi cymoedd yng Nghymru fel TRYWERYN er mwyn cyflenwi dŵr i’r Saeson. Chwalwyd cymdeithasau a chymunedau Cymreig o ganlyniad i hyn. Mae’r GYNGHANEDD GROES a’i defnydd o GYTSEINIAID caled yn tanlinellu hyn.

“ Troesom ein tir yn simneiau tân

a phlannu coed a pheilonau cadarn

lle nad oedd llyn...”

· HANES A CHENEDL - Pobl wan, ddiasgwrn cefn yw’r Cymry bellach. Pobl ddi-hid o gyflwr ein gwlad. Rydym yn cefnu ar ein hetifeddiaeth gyfoethog er mwyn dilyn y ffasiwn Seisnig. Ceir TROSIAD pwerus i’n disgrifio “Gwymon o ddynion heb ddal tro’r trai”. Dyma bobl ddiwreiddiau sydd ddim yn perthyn i’r wlad; broc môr o bobl na all wrthsefyll stormydd bywyd - defaid sy’n dilyn unrhyw ffasiwn ac unrhyw chwiw.

· IAITH –

A throesom iaith yr oesau

Yn iaith ein cywilydd ni ...”

Rydym yma wedi colli’r iaith Gymraeg. O ganlyniad i’n hesgeulustod rydym wedi gadael iddi farw. Rhyw iaith fratiog - hanner Cymraeg, hanner Saesneg yw’r iaith Gymraeg bellach - rhyw Wenglish. Iaith eilradd - a chywilydd arnom am hyn!

RHAN 3

Dyma uchafbwynt y gerdd. Dyma NEGES a MOESWERS y gerdd. Yr ALEGORI ar ddiwedd y SALM. Cred Gerallt Lloyd Owen fod yr allwedd i gyflwr Cymru yn gorwedd yn y DDIHAREB:

“Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl

A’i hedd yw ei hangau hi ...”

O ildio i GYNNYDD a MATEROLIAETH a dyrchafu datblygiad ac arian dros ein HETIFEDDIAETH, fe gollwn wir werthoedd bywyd. Nid oes rhaid anghofio’n gwreiddiau a’n hiaith ac aberthu ein gorffennol er mwyn bod yn rhan o’r byd modern. Brwydr yw parhad cenedl - brwydr sy’n deillio o’n cariad tanbaid at ein gwlad. Y cariad hwn sy’n ennyn parch eraill ac heb hunan-barch beth yw pwrpas ein bodolaeth? Mae Cymru a’r iaith Gymraeg yn rhan o enfys liwgar cenhedloedd y byd a rhaid ymfalchïo yn hyn a’i dathlu!!!! O golli’r awydd i frwydro a derbyn newidiadau yn dawel, ni ddaw ond marwolaeth i unrhyw genedl. Dyna yw rhybudd ac ofn y bardd yn y gerdd hon.

CENEDL HEB IAITH, CENEDL HEB GALON


Mesur y gerdd ac addasrwydd y mesur

Y Wers Rydd Gynganeddol

Mae hon yn gerdd gaeth er bod y mesur ar yr olwg gyntaf yn rhydd. Nid oes patrwm i’r llinellau na’r odl, ond mae yna gynghanedd drwy’r gerdd. Mae hyn yn pwysleisio traddodiad ar y naill law, ond bod rhywbeth wedi torri ar draws y traddodiad hwn, a’i ddinistrio.

Trafod y gerdd

Hoff ddarn o'r gerdd

Mirian Etifeddiaeth 3.MP4
1 etif.MOV
3 etif.mov
2 etif.MOV


Mirian Etifeddiaeth 3.MP4
Mirian Etifeddiaeth 3.MP4