Gweld y Gorwel

gan Aneirin Karadog

Y gerdd

Gweld y Gorwel


Yn rehab y colli nabod – sŵn traed

sy’n troi’r awr ddiddarfod,

sŵn y byw diflasa’n bod.


Yn rehab, bod yw’r rheol, - bod drwy’r dydd,

bod drwy’r daith hunanol

wna druggie’n dod o’i rigol.


Yn rehab o dan label, - yn nheilchion

ergydion ei gawdel

gwrid ei gariad yw gorwel.


Sŵn y dydd yw hi sy’n dod – o’r nosau,

rhanna ias cyfarfod,

y sŵn byw melysa’n bod.



Aneirin Karadog

Llais y bardd yn darllen y gerdd

Cefndir y gerdd

Ebost gan Aneirin Karadog

Gan: Aneirin Karadog

Anfonwyd: Medi 10 2015 9:15

At: Pobl ifanc Cymru

Pwnc: Gweld y Gorwel


Bore da bobl ifanc Cymru. Gobeithio y bydd cefndir y gerdd yn gymorth i chi wrth i chi fynd ati i’w hastudio.

Daw ‘Gweld y Gorwel’ o ddilyniant agoriadol fy nghyfrol ‘O Annwn i Geltia’ ac mae’n gerdd yn sicr yn perthyn i hanner Annwn y gyfrol. Celtia yw’r byd delfrydol, lle mae iaith leiafrifol a ffordd o fyw yn ffynnu a chael eu parchu a hunaniaeth unigolyn a’i gefndir yn gryf a hefyd yn cael ei barchu. Yn yr Annwn, mae yna golli hunaniaeth, drysu, cwestiynu a chylchdroi mewn pydew. Felly mae’r gerdd hon yn rhan o’r broses o geisio gadael Annwn i gyrraedd Celtia, neu ganfod llais.

Rwy’n cymryd ei bod hi’n weddol amlwg mai cyfeirio at ‘drug/addiction rehabilition centre’ y mae rehab. Ond gall hyn fod yn cyfeirio at unrhyw broblem caethineb, o fyw, i ryw, arian, alcohol/cyffuriau, technoleg a.y.b. Ni fûm i fy hunan i le union fel hyn, ond heb fanylu’n ormodol, gallaf uniaethu â’r profiad; o fod wedi delio â chyfnod tywyllach pan oeddwn yn ifancach yn fy mywyd.

Os oes gan berson broblem caethineb, yn sydyn, daw’r sioc sydyn o beidio â gallu gwneud hynny a wynebu yr her o fyw a wynebu teimladau go iawn bywyd yn y lle cyntaf fel diflastod. Yn sefyllfa prif gymeriad y gerdd, mae’n ffodus fod yna fod dynol arall heb roi’r gorau i gredu ynddo. Nid pawb sydd mor ffodus o gael rhywun i gredu ynddoch. Mae’n braf gallu dychmygu fod gan gariad y grym i wella person o’i iselder/cathaethineb/sefyllfa/pydew.

Gobeithio fod mynegiant y tri phennill cyntaf yn eithaf amlwg o ran ei ystyr, ond nid yw gweledigaeth y bardd wastad yn hollol eglur i’r gynulleidfa.

O ran teitl y gerdd, mae dyn yn cysylltu llefydd fel rehab â muriau caeedig di-ffenestr, ac o bosib, dyna yw meddylfryd y bobl sydd ynddynt. Gall edrych mas fod yn boenus o hiraethus ac edrych mewn ar yr hunan jyst yn boenus ffwl stop! O gymharu â hyn wedyn, mae gweld cariad person yn agosau ar y gorwel yn bwerus, yn awgrymu ail-gyfle, ond hefyd dechrau taith anodd.


lluniau.pptx

Cerddoriaeth gefndirol

Cyffur Newydd - Candelas