Cynnwys, Arddull a Mesur

Cynnwys ac arddull y gerdd

Delweddau o'r gerdd

Prif bwyntiau'r gerdd

Cerdd i goffáu chwe miliwn o Iddewon a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd ydy Y Coed. Delwedd o’r holl Iddewon a fu farw yn y rhyfel ydy’r coed gyda phob coeden yn cynrychioli un Iddew a gafodd ei ladd gan y Natsïaid.

Gellir rhannu’r gerdd yn ddwy adran – yn yr adran gyntaf mae Gwenallt yn nodi ffeithiau hanesyddol. Mae’r gerdd yn agor gyda’r bardd yn cyfeirio at y chwe miliwn o goed a blannwyd yng Nghaersalem i gofio am yr holl Iddewon a gollodd eu bywydau yng ngwersylloedd crynhoi’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn yr ail ran, dyweda Gwenallt y byddwn ni'n cael ein beirniadu gan y genhedlaeth nesaf am weithredoedd ffiaidd yr oes hon. Roedd Gwenallt yn Gristion i'r carn ac mae hynny'n cael ei amlygu tua diwedd y gerdd yn ei gyfeiriad at Iesu Grist.

Model o ddechrau traethawd cymharu yn trafod y gerdd...

Mae'r ateb yma yn plethu'r cynnwys a'r arddull gyda'i gilydd yn effeithiol. Cofia! Dilyna di y strwythur rwyt wedi ei ymarfer!


Dyma gerdd gref iawn gan Gwenallt y Cristion yn mynegi ei bryder am ein dyfodol o gofio mor greulon y gall dyn fod. Mae’n creu darluniau erchyll o’r Ail Ryfel Byd gan ein cyhuddo ni heddiw o fod yn fawr gwell na’r cenedlaethau a fu. Yn y gerdd mae’r bardd yn datgan yn gryf ei wrthwynebiad i’r modd y dioddefodd yr Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Egyr y gerdd yn syth â chyfeiriad at y ‘chwe miliwn’ – rhif anferthol i dynnu ein sylw at erledigaeth yr Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Plannwyd chwe miliwn o goed yng Nghaersalem ‘yn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy’ o dan law’r Natsiaid. Mae’r uniongyrchedd yma yn ein taro'n syth yn y cwpled cyntaf.

Yn yr ail gwpled mae’r bardd yn cyfeirio drwy ddefnyddio trosiad at y ffaith fod gwreiddiau’r coed hyn bellach yn ymestyn i’r lludw ac yn sugno maeth o gyrff yr Iddewon a losgwyd. Mae’r trosiad yn yr ail gwpled yn drawiadol 'Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn’. Ni chafodd yr Iddewon hyn eu claddu yn y ffordd draddodiadol ‘…heb fynwent na bedd nac wrn’. Aiff Gwenallt ymlaen i ddefnyddio cyffelybiaeth i ddisgrifio'r coed fel petaent yn 'gofgolofnau byw' sy’n dyst i bob unigolyn a gollodd ei fywyd. Pwysleisia hyn nad carreg fedd o farmor a geir fel sydd ym mhob mynwent arall ond coed sy’n dystiolaeth fyw o’r hyn a ddigwyddodd. Mae yma gyferbyniad amlwg rhwng y byw a'r marw hefyd.

Ni chafwyd hyd yn oed sain clychau’r Eglwys i gofio am y meirw, ond mae’r bardd yn llwyddo i gyfleu’r awyrgylch arswydus yn y geiriau – ‘Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg.’ Er nad oes cofebau carreg felly i ddynodi’r dioddef, clywir atseiniau o’r artaith a’r boen yn cael eu cario ar y gwynt a’u chwythu drwy ganghennau'r coed.

Yn y pumed cwpled sonia Gwenallt am euogrwydd eraill hefyd. Er mai’r Natsiaid oedd yn gyfrifol am ladd yr Iddewon nid yw’r Israeliaid yn ddieuog chwaith ‘na’u cydwybod yn lân’, fe ddioddefodd yr Arabiaid hefyd gan yr Israeliaid a cholli eu cartrefi. Hola’r bardd pam na all yr Arabiaid hefyd gofio am eu meirw drwy blannu coed yn ‘Cairo ac Amaan’.

Dywed y bardd yn y seithfed cwpled na allwn gondemnio un hil yn griw arbennig gan nad yw ein cydwybod ninnau’n lân iawn chwaith. Yn yr Ail Ryfel Byd, bomiwyd Dresden yn yr Almaen gan Brydeinwyr a throi y ddinas ‘yn un uffern faith’ ac rydym dal wrthi.

Wedi’r seithfed cwpled, ceir llinell ar ei phen ei hun a newid ym mesur y gerdd, a’i chynnwys yn cyfeirio at y weithred waethaf o fewn cof, sef ‘gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan’. Dyma gyrraedd eithafion erchylldra rhyfel ac nid oes geiriau gan y bardd i ddisgrifio’r erchylldra. Mae’r llinell hon yn rhannu’r gerdd yn ddwy. Dyna oedd y gorffennol, proffwydol yw gweddill y gerdd.

Cawn wybod yn y nawfed cwpled gan Gwenallt yn ddiflewyn ar dafod beth yw ei neges yma – nid oes dim yn newid – mae dyn yn ddrwg ac wedi bod ar hyd y canrifoedd ac yn dal i fod cynddrwg os nad gwaeth heddiw. Ni all neb godi bys at neb arall. Yma cyhudda Gwenallt gyda defnydd effeithiol o ansoddair mai'r ugeinfed ganrif yw'r mwyaf ‘barbaraidd ohonynt hwy i gyd’. Cred y bydd y ganrif nesa hyd yn oed yn waeth gan y bydd ‘y bomiau a’r rhocedi yn fwy’.

Ym marn Gwenallt ni fydd modd osgoi y ‘trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed’ oherwydd mae dyn mor ryfelgar a hunanddinistriol. Ni fydd modd rhifo’r meirw na’r coed oherwydd cymaint fydd y lladd a’r rhyfela. Mae digalondid y bardd ac anallu dyn i gadw’r heddwch i’w weld yn amlwg yma a ninnau fel darllenwyr yn teimlo'n euog yn sgil adeiladwaith yr erchyllterau hyn yn y gerdd.

Dychwelyd at y disgrifiad o’r coed a wna Gwenallt wrth ailadrodd 'chwe miliwn' ac at y modd y mae dyn yn dinistrio. Mae’n cael ei atgoffa am y tair croes yng Nghalfaria, ac am Iesu a groeshoeliwyd ar y groes ganol –

‘Yr Unig Un a fu’n byw ‘r Efengyl yn ei oes’.

Dywed y bardd nad oes ond Un dieuog yn bod sef Crist ei hun a defnyddia brif lythyren i bwrpas yma. Pwysleisia fod angen i bawb droi at grefydd a gwelwn ddaliadau cryf Gwenallt fel Criston a heddychwr. Er bod y lliwiau yn newid o dymor i dymor ar y coed, mae eu neges yr un peth o hyd, sef i’n hatgoffa am y marwolaethau. Awgrymir hefyd wrth gyfeirio at y tymhorau’n newid fod amser yn mynd heibio, ond mae dyn yn aros yr un peth o hyd.

Bydd y coed yn tyfu i’w llawn maint ac yn dystiolaeth i’r cenedlaethau i ddod o'n drygioni ni. Yn ei linell olaf mae’r bardd yn cyfaddef ‘nad oeddem ni yn llawer o saint’, ac mae dweud hyn yn hynod o effeithiol ac yn codi cywilydd arnom.


Mesur ac addasrwydd y mesur

Er mai cerdd mewn mydr ac odl ydyw hon, yn annisgwyl, mae’r bardd yn torri ar y mydr yn ystod y gerdd.

Mae’n torri un llinell yn ei hanner, ac yn torri un cwpled yn ei hanner. Effaith hyn yw dangos sut y mae rhyfel yn gallu torri ar draws hyfrydwch bywyd.