'Rhaid peidio dawnsio . . .' gan Emyr Lewis

Y gerdd



‘Mewn rhai gwledydd mae angen 'trwydded ddawnsio' a bydd pobl hyd heddiw yn parhau i gael eu herlyn am ddawnsio 'yn ddirybudd' mewn mannau cyhoeddus'


Caerdydd yw prif gymeriad y gerdd hon gan Emyr Lewis. Mae'r bardd yn beirniadu’r awdurdodau sy’n gwylio’r dinasyddion yn gerdd yn gyson ac yn ceisio rheoli popeth a wnawn nhw.


Yn y gerdd hon, mae Emyr Lewis yn ymateb i ddeddfau mewn rhai gwledydd, ble mae angen 'trwydded ddawnsio' a bydd pobl yn cael eu herlyn am ddawnsio'n 'ddirybudd'. Gall pobl gael eu herlyn am ‘symud eu traed i guriad cerddoriaeth’ a bydd clybiau a bariau yn cael dirwyo os bydd pobl yn dawnsio heb ganiatâd penodol. Mae Emyr Lewis yn dychmygu sut le fyddai Caerdydd pe bai deddf o'r fath yn weithredol yno.


Cerdd ddychanol yw hi sy’n cwestiynu llywodraethau ac awdurdodau sy'n gosod rheolau a chyfyngiadau ar fywydau pobl gyffredin.

Pa eiriau a ddaw i dy feddwl di wrth edrych ar y lluniau hyn?

Ystyria:

Wyt ti’n meddwl bod gallu’r awdurdodau i’th ddilyn yn beth da?

Pam wyt ti’n meddwl bod yr awdurdodau yn gwneud hyn?

A yw'r camerâu hyn yn ein cadw ni'n ddiogel?


Y bardd yn darllen ei gerdd

Gwarchod ein rhyddid neu ein caethiwo?


Sut mae hyn yn gwneud i ti deimlo?

Cerddoriaeth gefndirol

Anrheoli - Yws Gwynedd