Gweld y Gorwel

gan Aneirin Karadog

Y gerdd

Gweld y Gorwel


Yn rehab y colli nabod – sŵn traed

sy’n troi’r awr ddiddarfod,

sŵn y byw diflasa’n bod.


Yn rehab, bod yw’r rheol, - bod drwy’r dydd,

bod drwy’r daith hunanol

wna druggie’n dod o’i rigol.


Yn rehab o dan label, - yn nheilchion

ergydion ei gawdel

gwrid ei gariad yw gorwel.


Sŵn y dydd yw hi sy’n dod – o’r nosau,

rhanna ias cyfarfod,

y sŵn byw melysa’n bod.



Aneirin Karadog





Llais y bardd yn darllen y gerdd

Cynnwys ac Arddull y gerdd

ENGLYN 1

Diflastod ac undonedd bywyd caeth y rehab a ddisgrifir yn yr Englyn Penfyr agoriadol. Disgrifir y lle yn “rehab y colli nabod” sy’n DROSIAD am ansawdd bywyd yr unigolyn. Mae wedi colli nabod ar ei hun, ar ei deulu, cymdeithas a’r byd o ganlyniad i effaith cyffuriau arno. Ond mae hefyd mewn lle dieithr, clinigol ac oer gyda dioddefwyr eraill. Mae amser wedi rhewi yn y lle yma a’r unig arwydd o amser yn cerdded yn ei flaen yw sŵn traed doctor, seicolegydd, gweithiwr cymdeithasol neu efallai, berthynas yn ymweld ag ef. Defnyddia’r bardd RADD EITHAF yr ANSODDAIR i ddisgrifio undonedd bywyd sef “y byw diflasa’n bod”. Mae bywyd yn y rehab fel syllu i lygaid amser. Bodolaeth o syllu ac aros yw byd y rehab. Darlun tywyll a thrist iawn.

ENGLYN 2

AILADRODDIR y gair rehab drwy’r penillion i bwysleisio mai proses araf hirdymor yw proses ei adferiad a’i wellhad. Yno, “bod yw’r rheol”. Mae’r bardd yn CHWARAE AR Y GAIR “bod” ac yn AILADRODD y gair hwn 5 gwaith trwy’r gerdd. Nid oes dianc oddi yno. Mae PARADOCS yn rhan annatod o’r lle achos rhaid dioddef os am wella. Ond hefyd bodoli yn unig a wna ef yn y rehab, hynny yw, goroesi a wna yno. Nid oes ansawdd i fywyd mewn lle fel hwn achos nid lle i fwynhau ydyw. Ond mae‘r cyffur hefyd wedi sugno’r bywyd o gorff yr unigolyn ac felly “bod” yn unig a wna.

“bod drwy’r daith hunanol”

Mae’r ANSODDAIR “hunanol” mor addas yma i ddisgrifio bywyd y “druggie”. Cymerir cyffuriau am resymau personol, hunanol. Aberthir perthnasau a ffrindiau ar draul y chwant am gyffuriau. Effaith cyffuriau yw troi unigolyn yn fodolaeth ddiemosiwn a dideimlad. Ond taith hunanol yw’r daith tuag at adferiad hefyd. Rhaid aberthu pob dim a chanolbwyntio ar yr hunan os am “ddod o’i rigol”a thorri’r arferiad a glanhau’r hunan.

ENGLYN 3

Yn y rehab ac yn llygaid cymdeithas mae’r “druggie” wedi ei labelu fel methiant. TROSIR ei fywyd yn “gawdel” a chyfres o “ergydion”. Mae ei fyd yn rhacs, wedi chwalu yn deilchion. Dioddefa un ergyd ar ôl y llall ag yntau wedi ei wrthod a’i adael i ddioddef. Ond mae gobaith. Mae achubiaeth.

“gwrid ei gariad yw gorwel”

Mae TROSIAD awgrymog arall fan hyn a CHWARAE AR Y GAIR “cariad”. Fel rheol mae person yn gwrido neu’n cochi pan mae cywilydd arno. Cocha’r unigolyn yma o gofio am ei gariad at gyffuriau. Ond gwrida hefyd o gofio’r bywyd gwerthfawr, llawn cariad y cefnodd arno. Y bywyd sydd eto ar y gorwel ond iddo ddyfalbarhau yn y rehab. Gellir hefyd dadlau bod “cariad” llythrennol ganddo ac mae ei chariad hi a’i ffydd hi ynddo sy’n ei gynnal trwy’r uffern hwn.

ENGLYN 4

Craidd yr englyn penfyr olaf yw’r GWRTHGYFERBYNIAD rhwng NOS a DYDD neu DYWYLLWCH a GOLEUNI neu FACHLUD a GWAWR. Mae gobaith yn holl bresennol yma. Ond iddo ddyfalbarhau a chwblhau ei driniaeth, fe ddaw gwellhad iddo. Ar ddiwedd y daith dywyll drwy nos hir oherwydd effaith cyffuriau, caiff eto gyfarfod a gweld yr haul yn gwawrio a gwenu ar y gorwel. Mae dyfodol iddo y caiff “ddod” allan ar yr ochr draw a phrofi gwir ansawdd bywyd. Ceir CHWARAE AR FERFENWAU “bod” a “dod” gyda “bod” yn cyfeirio ar ei stad bresennol o ddioddefaint a “dod” yn cyfeirio at y gobaith sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddo. Fel yr awgryma’r ANSODDAIR GRADD EITHAF, caiff eto brofi’r bywyd “melysa”, sef y bywyd gorau.


Mesur y gerdd ac addasrwydd y mesur

Englyn Penfyr

Mae’r gair ‘penfyr’ yn awgrymu bod rhywbeth ar goll. O’i gymharu ag englyn arferol, sef ‘englyn unodl union’, mae llinell ar goll mewn englyn penfyr. A yw’r bardd yn awgrymu yma fod rhywbeth wedi torri ar draws ei fywyd, fod yna rywbeth ar goll? Erbyn yr englyn olaf, mae’n dod o hyd i’r hyn sydd ar goll, sef diwedd ei ddibyniaeth ar gyffuriau, a dod o hyd i gariad. Mae’r defnydd o gytseiniaid cryf a chras yn y llinell ‘sŵn traed sy’n troi’r awr...’ yn cynrychioli’r sŵn cras ym meddwl y bardd, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ansoddair ‘diflasa’ yn y llinell ddilynol.


Trafod y gerdd

Haen Sylfaenol

Cynnwys y gerdd

Arddull y gerdd

Mesur y gerdd

Haen Uwch

Y bardd yn trafod y gerdd