Neges a Themâu

O’r holl ganrifoedd a gerddodd y ddaear er cychwyn byd

Yr ugeinfed yw’r fwyaf barbaraidd ohonynt i gyd.”

Cwestiynau i bigo cydwybod...

Beth yw neges Gwenallt i ni fel dynoliaeth?

A yw'n feirniadol ohonom ni a'n gweithredoedd?

At bwy mae Gwenallt yn pwyntio bys?

Ai ni y bobl sy'n achosi'r holl dristwch a'r dioddefaint?

Ydy'r hyn a oedd Gwenallt yn ei ragweld wedi digwydd yn dy farn di?

Neges ac agwedd y bardd

Dwy brif neges y gerdd yw cofio am y rhai a fu farw yn enw rhyfel a sicrhau na fyddwn ni’n dechrau rhyfel arall. Ein perswadio i gadw heddwch yw bwriad Gwenallt. Mae pawb ohonom, drwy hanes, yn euog am ryfeloedd a marwolaethau, a’r unig berson dieuog, dibechod fu ar y ddaear erioed yw Iesu Grist. Yn y gerdd mae Gwenallt yn defnyddio'r coed fel delwedd i gysylltu’r gwahanol bechodau rydym ni yn euog ohonynt.

Roedd Gwenallt yn credu'n gryf nad oedd gobaith i’r byd hwn oni bai bod dynoliaeth yn derbyn Crist yn Waredwr. Mae nifer o’i gerddi yn trin a thrafod yr argyhoeddiad hwnnw.

Ni ddylem fod yn rhy barod i feirniadu eraill cyn ystyried ein gweithredoedd ni ein hunain yw un o negeseuon eraill y gerdd. I’r bardd, rhyfel yw rhyfel ym mhob oes ac nid yw dynoliaeth yn dysgu o un rhyfel i’r llall.

Themâu'r gerdd

Mae un thema sy’n rhedeg trwy nifer o gerddi Gwenallt, sef pechod y ddynoliaeth. Mae awydd dyn i ryfela yn thema hollbwysig yn y gerdd hon hefyd gan fod Gwenallt yn awgrymu bod dynoliaeth yn greulon ac yn methu dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol.

Mae heddwch a Christnogaeth hefyd yn themâu oherwydd bod y bardd yn honni mai ond trwy ddilyn Crist y mae modd datrys barbareiddiwch y byd a sicrhau dyfodol diogel a gwell i’r cenedlaethau nesaf.

Themâu eraill i'w hystyried...

  • Dioddefaint

  • Crefydd

  • Rhyfel

  • Trais

Y Coed

Mwy am themâu...