Etifeddiaeth
gan Gerallt Lloyd Owen
Y gerdd
Etifeddiaeth
Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.
Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth, ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.
A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.
Troesom ein tir yn simneau tân
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.
Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i’w hanes,
gwymon o ddynion heb ddal
tro’r trai.
A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.
Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl
a’i hedd yw ei hangau hi.
Gerallt Lloyd Owen
Llais y bardd yn darllen y gerdd
Delweddau o'r gerdd
Cefndir cyfnod ysgrifennu'r gerdd
Ystyriaethau
Ystyria :
Wyt ti’n bwriadu trosglwyddo’r Gymraeg i dy blant?
Ydy’r Gymraeg yn faich i ti?
Wyt ti’n ceisio cuddio dy Gymreictod weithiau?
Fydd dy wyrion yn siarad Cymraeg?
Wyt ti’n Gymro bob dydd?
Oes gennym ni, y Cymry, asgwrn cefn?