Gweld y Gorwel
gan Aneirin Karadog
Cymharu â cherddi eraill
Gail fu farw
(“She was free to die”)
Ar ôl gweld ffilm deledu dan y teitl ‘Gail is dead’ – hanes bywyd merch ifanc a fu farw o dan effaith cyffuriau.
Mor di-ystyr fu ei mynd, a’i dyfod.
Y ferch lwyd
Fu’n eithaf niwsans i bawb
O’r dechrau.
Parselwyd o le-rheilings i le-tan-glo
Ar y dyddiad-a’r-dyddiad.
Carchar plant. Borstal. Carchar.
Syllodd ar fyd
Trwy fyd
Na faliai.
Ei llais, mor dawel.
‘Hapus? Mae’n siwr.
Yn blentyn...’
Llais na chredai ei eiriau ei hun.
Ffug-hapusrwydd heroin,
Ac yna’i harch
Yn diflannu i dywyllwch taclus, mesuriedig,
I’w llosgi.
(‘Fe ddowch i’m hangladd?’)
Llafargan gysurlon eglwyswyr
Dieithr.
Ei ffrindiau
Od
Yn ysgwyd llaw.
Ac allan â hwy, i grio ar gornel y stryd
Drosti hi
A throstynt eu hunain.
Gollyngwyd hi’n rhydd,
Yn rhydd i ddewis marw.
Mor ddi-ystyr fu ei mynd, a’i dyfod.
Nesta Wyn Jones
Un
(Leah Betts)
Un ergyd,
un gwyro oddi ar y llwybr cul,
pilsen Ecstasi farwol
a ddrylliodd dy harddwch ifanc
brau
yn chwildrins
ar noson dy barti deunaw.
“Dim mwy o dripiau ysgol.”
Ond daeth cryfder i galon rhieni
o’i cholli cynnar,
wrth ymweld ag ysgolion a cholegau
yn sôn
am yr un bilsen honno
a newidiodd eu bywydau am byth.