Walkers' Wood
gan Myrddin ap Dafydd
Y gerdd
‘Oes 'na enw ar y coed ma, Dad?
- I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’
‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was,
Ond Walkers’ Wood sydd yn y Betws Guide.’
‘Pam fod y dail ar hyd y ddaear, Dad?
Pam fod eu lliw run fath â crisps yn awr?’
‘Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was,
A’u taenu’n wledd ar hyd y llawr.’
‘Ble ddaeth hon, y ddeilen felen, Dad,
A dannedd mân ar hyd ei hymyl hi?’
‘Mae’i chwiorydd ar y gollen acw, was,
Sy’n rhannu ei gofidiau gyda’r lli.’
‘A hon, run lliw â cheiniog newydd, Dad?’
‘Mae twll ym mhwrs y ffawydd, beryg iawn.’
‘A’r rhain, fel darnau o jig-sô 'ta, Dad?’
‘Y dderwen acw ydi’r llun yn llawn.’
‘Oddi ar pa goeden y daeth nacw, Dad?
Mae’n wyrdd a glas, mae’n sgleinio yn y mwd.’
‘Paced o Walkers’ Crisps ‘di hwnna, was,
Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.’