Neges a Themâu

Neges y gerdd

Ystyria...


  • Ydy ymwelwyr yn parchu ein gwlad?

  • Pa fath o berthynas a welir yma rhwng tad a mab?

  • Oes angen gwarchod ein hiaith?

  • Pa mor bwysig yw gwarchod yr amgylchedd?

Bardd gwladgarol yw Myrddin ap Dafydd, ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y gerdd Walkers’ Wood yn ei ddicter tuag at dwristiaid sy’n newid yr ardal er gwaeth. Mae’n disgrifio ei hun fel dyn anfodlon ar adegau ac mae’r anfodlonrwydd hwn yn amlygu ei hun pan mae’n gosod pellter rhyngddo ef a’r cerddwyr trwy eu galw’n ‘rhai’ yn y geiriau 'Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.'

Er mwyn cyfleu ei ddicter a’i ddirmyg am y twristiaid sy’n gadael llanast ar eu holau, mae’n defnyddio geiriau Saesneg, ‘Betws Guide’ a ‘crisps’. Mae’r defnydd hwn o’r Saesneg yn darlunio pa mor fregus yw ein hiaith a’n diwylliant dan fygythiad pobl ddi-Gymraeg. Nid yw twristiaid yn dangos parch at y Gymraeg trwy ddefnyddio’r enw ‘Walkers’ Wood’ yn hytrach na ‘Choed Llugwy’ ac mae’r bardd yn gweld hynny. Nid ydynt yn dangos parch at y wlad chwaith wrth iddynt daflu eu sbwriel.

Neges Walkers Wood.MOV

Ai'r twristiaid sydd ar fai?

Gallwn ddadlau bod y mab yn cynrychioli gobaith i’r genhedlaeth nesaf, sy’n awgrym o sicrwydd a hyder i barhad Cymru a’r Gymraeg. Wedi’r cwbl, mae’r bardd yn llwyddo i drosglwyddo etifeddiaeth werthfawr i’w fab trwy gyflwyno enwau hardd y coed iddo yn y Gymraeg. Mae perthynas agos y tad a’r mab yn cael ei phwysleisio wrth i’r bardd ailadrodd y gair ‘Dad’ ar ddiwedd pob cwestiwn y mae’r mab yn ei ofyn.

Themâu'r gerdd

Un o brif themâu’r gerdd hon yw bygythiad i’n hetifeddiaeth. Mae ein gwlad a’r iaith Gymraeg dan fygythiad oherwydd dylanwadau estron. Dim ond at rai enghreifftiau y mae’r bardd yn cyfeirio, fel y llyfr Saesneg i ymwelwyr, y ‘Betws Guide’ a’r pecyn o ‘Walkers’ Crisps’.

Daw’r bygythiadau hyn ar ffurf ymwelwyr yn ogystal â mewnfudwyr oherwydd bod enwau Saesneg lleoliadau yn aml yn cymryd lle'r enwau Cymraeg gwreiddiol. Pryder y bardd yw y bydd enw Cymraeg y coed, sef ‘Coed Llugwy’, yn araf ddiflannu oherwydd y defnydd cyson o ‘Walkers’ Wood’. Mae’r enw Cymraeg yn gyfoethocach na’r enw Saesneg am ei fod yn cyfeirio at yr afon Llugwy ac yn cyfleu perthynas agos y goedwig a’r ardal.

Darlunnir perthynas agos tad a mab yn y gerdd hon yn ogystal, wrth i’r tad fynd â’i fab am dro yn y goedwig. Gwelwn gefn gwlad Cymru ar ei orau hefyd wrth i'r bardd gyfeirio at harddwch byd natur gyda’r cyfeiriadau at liwiau’r hydref yn aml.