Rhaid Peidio Dawnsio
Cynnwys, Arddull a Mesur
Cynnwys y gerdd
Yn y gerdd ‘Rhaid peidio dawnsio ...’ gwelwn yn glir sut mae dynion yn gosod rheolau a’r rheiny’n rhai o fewn cyfyngiadau amser, e.e. parcio ar y stryd ac ati.
Y pennill cyntaf
Mae camerâu cylch cyfyng (CCTV) yr Heddlu Cudd a’r Cyngor yn gwylio pawb trwy’r amser. Mae dawnsio’n cael ei wahardd yng Nghaerdydd ar adegau penodol: rhwng wyth a deg y bore. Rhestrir yr holl lefydd lle na chaiff pobl ddawnsio – "ar stryd na pharc na heol". Mae’r ‘na’ yn tynnu sylw at y rheolau caeth.
Yr ail bennill
Mae mwy o reolau a chyfyngiadau amser yn cael eu cyflwyno, er enghraifft, cyfyngu dawnsio i chwarter awr mewn sgidiau coch rhwng deg ac un ar ddeg. Mae’r bardd yn dweud hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod rhai rheolau’n hollol wirion a bod gormod o waharddiadau ar bawb rhag gwneud cymaint o bethau. Mae’n pwysleisio’r gwaharddiad ar ddawnsio er mwyn gwrthgyferbynnu â’r syniad sydd ganddo drwy weddill y dilyniant, o ddawnsio’n rhydd tu allan i ffiniau amser a rheolau.
Wrth ddarllen yr ail bennill dysgwn fod y sefyllfa yn mynd yn fwy abswrd fyth! Sonia Emyr Lewis am fwy o reolau a chyfyngiadau amser, er enghraifft mae dawnsio "wedi deg o’r gloch yn weithred a gyfyngir i chwarter awr mewn ’sgidiau coch ..." Mae’r bardd yn dweud hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod rhai rheolau’n hollol wirion a bod gormod o waharddiadau ar bawb rhag gwneud cymaint o bethau. Yr eironi yw bod cyfyngiadau ar y cyfyngiadau ac fe dyfa’r sefyllfa yn fwy chwerthinllyd.
Y trydydd pennill
Ar ddiwedd y gerdd pan fo’r camerâu wedi rhewi, daw ysbrydion o’r gorffennol sy’n byw tu allan i amser i ddawnsio ar y stryd a herio’r rhai sydd mewn awdurdod. Mae’n eironig fod y niwl a’r barrug, elfennau o fyd natur, wedi dod i osod eu gwaharddiad eu hunain ar y camerâu dros dro er mwyn caniatáu dawns y sodlau noethion.
Ceir trobwynt ar ddiwedd y gerdd gyda'r gair 'Ond...' pan fo’r camerau wedi rhewi ac fe gaiff dinasyddion Caerdydd flas ar ryddid byr ,"mae’r stryd yn llawn o naw tan ddau o ddawns y sodlau noethion." Wrth gloi'r gerdd ceir cyferbyniad i’r ‘sgidiau coch’ oedd yn rhaid eu gwisgo wrth ddawnsio yn y bore. Dengys hynei bod hi’n bosib torri rheolau ar adegau a mwynhau rhyddid heb i'r 'swyddogion sarrug' wylio pob symudiad. Mae'r bardd yn cloi'r gerdd gyda'r neges fod ‘rhyddid’ yn rhan annatod o’n hawliau dynol a rhaid codi llais i’w warchod.
Nodweddion arddull
Mae Emyr Lewis yn defnyddio sawl nodwedd arddull yn y gerdd. Dyma rai ohonynt:
Rhestru
Trosiadau
Cyflythrennu
Ailadrodd
Tafodiaith
Model o baragraff yn trafod arddull 'Rhaid peidio dawnsio ...'
Mae’r bardd yn defnyddio’r nodwedd arddull rhestru i restru amseroedd penodol sy'n ein caethiwo. Adleisia hyn y cyfyngiadau amser rydyn ni’n eu gweld o ddydd i ddydd. Dywed "rhwng wyth a deg y bore", "wedi deg o’r gloch", "erbyn un ar ddeg o’r gloch" ac "o naw tan ddau". Tynna'r llinell hon ein sylw at yr holl lefydd sy’n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau a rheolau amser. Cawn ein hatgoffa mai dim ond yn ein dychymyg yr ydyn ni’n rhydd go iawn.
Mesur ac addasrwydd y mesur
Mydr ac Odl
Gan fod rheolau llym ynghylch dawnsio yng Nghaerdydd yn ôl y gerdd, mae’n addas fod y bardd wedi dewis mesur sy’n ddibynnol ar reolau
Mae’r mydr a’r odl yn cyfleu dawns y bobl
Gallwch synhwyro symudiadau cyson y dawnswyr
Mae’r mesur yn cynrychioli'r ddau safbwynt, sef y rhai sydd mewn awdurdod a'r rhai sydd eisiau rhyddid i ddawnsio.