Cynnwys, Arddull a Mesur

Y gerdd

Camau doeth wrth ddechrau trafod y gerdd...

  • Meddylia am y teitl. Beth yw ei arwyddocâd?

  • A oes rhywbeth yn arbennig am y lleoliad?

  • Pam ysgrifennu'r gerdd?

  • Beth wyt ti'n ei ddysgu ymhob pennill?

‘Oes 'na enw ar y coed ma, Dad?

- I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’

‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was,

Ond Walkers’ Wood sydd yn y Betws Guide.’


‘Pam fod y dail ar hyd y ddaear, Dad?

Pam fod eu lliw run fath â crisps yn awr?’

‘Mae popty’r hydref wedi’u rhostio, was,

A’u taenu’n wledd ar hyd y llawr.’


‘Ble ddaeth hon, y ddeilen felen, Dad,

A dannedd mân ar hyd ei hymyl hi?’

‘Mae’i chwiorydd ar y gollen acw, was,

Sy’n rhannu ei gofidiau gyda’r lli.’


‘A hon, run lliw â cheiniog newydd, Dad?’

‘Mae twll ym mhwrs y ffawydd, beryg iawn.’

‘A’r rhain, fel darnau o jig-sô 'ta, Dad?’

‘Y dderwen acw ydi’r llun yn llawn.’


‘Oddi ar pa goeden y daeth nacw, Dad?

Mae’n wyrdd a glas, mae’n sgleinio yn y mwd.’

‘Paced o Walkers’ Crisps ‘di hwnna, was,

Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.’

Arddull y gerdd

Efallai dy fod yn eu galw nhw'n nodweddion, technegau neu'n elfennau arddull - paid ag anghofio eu trafod yn llawn yn dy draethawd cymharu cerddi!


P - Enwi/Pa nodwedd?

E - Enghraifft

E - Effaith

Modelu trafod arddull

Cofia! Gallet blethu'r arddull wrth drafod y cynnwys yn fanwl - dyma ffordd aeddfed o ysgrifennu'r traethawd. Ond, sut bynnag strwythur traethawd y byddi di'n ei ddewis, mae'n bwysig dy fod yn trafod arddull y cerddi!


'Pam fod y dail ar hyd y ddaear, Dad?

Pam fod eu lliw run fath â crisps yn awr?'

IMG_E5895.MOV

'A hon, run lliw â cheiniog newydd, Dad?’

‘Mae twll ym mhwrs y ffawydd, beryg iawn.’


Mae'r mab yn darganfod deilen ac yn gofyn pam ei bod 'run lliw â cheiniog newydd, Dad?’ Dengys y gyffelybiaeth hon pa mor greadigol yw meddwl y bachgen. Gallwn ddychmygu mai’r iaith Gymraeg yw’r ‘ceiniogau’ yma sy’n disgyn trwy’r ‘twll ym mhwrs y ffawydd’. Fe wyddwn fod arian yn rhywbeth gwerthfawr ac felly mae’r bardd yn awgrymu bod yr iaith Gymraeg yn werthfawr ac rydym yn colli rhan ohoni un gair ar y tro.


Mesur ac addasrwydd y mesur


Addasrwydd y mesur


Mae'r gerdd wedi'i hysgrifennu ar fesur mydr a odl. Mae llinell 2 a 4 o bob pennill yn odli ac mae'r penillion yn dilyn un mydr neu'r un rhythm â’i gilydd.

Mae symudiadau yn hanfodol i’r gerdd, cerdded mae’r ddau ac felly mae'r dewis o'r mesur yn addas iawn. Adlewyrcha symudiad hamddenol y ddau wrth iddynt gyd-gerdded. Mae odli’r geiriau Cymraeg a Saesneg yn llinellau 2 a 4 bob pennill yn bwysig er mwyn dangos dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg.