Sbectol Hud
gan Mererid Hopwood
Pan fydd yr haul yn cwato’r sêr i gyd
a’r nos ar goll tu ôl i ddrws y dydd,
pan fydd y lleuad wen ym mhen draw’r byd,
a’r machlud fel y wawr ar orwel cudd:
neu pan fydd niwl yn gwisgo’r bryniau’r draw,
a phlu yr eira’n oeri brigau’r llwyn,
pan fydd y blodau trist yn crio’r glaw-
Rho bâr o sbecs dychymyg am dy drwyn.
Ti’n gweld, mae gweld yn anodd ambell waith
a ninnau’n ddall i ryfeddodau’r byd,
Am hyn, fy ffrind, cyn dechrau ar dy daith,
Ym mhoced ôl dy jins rho’r sbectol hud.
A gwisga hi, a mentra godi’r llen
I weld holl liwiau’r enfys sy’n dy ben.
Cynnwys ac Arddull y gerdd
Yr Wythawd
RHESTR yn defnyddio CYSYLLTEIRIAU “pan” ac “a’r” ac “a” yw’r WYTHAWD sy’n darlunio byd digon di-liw a thrist o ganlyniad i anallu dyn i weld rhyfeddodau’r cread, a hynny am nad yw yno, yn blwmp a phlaen o flaen ei lygaid. Defnyddia’r bardd y dechneg o DDYFALU sef disgrifio byd natur trwy greu TROSIADAU a PHERSONOLIADAU. Os na allwn,
· weld y sêr a’u lliw arian ysblennydd am fod yr haul yn eu cuddio (PERSONOLI)
· ac os na allwn werthfawrogi tywyllwch y nos a hwnnw ar goll (PERSONOLI) tu ôl i ddrws y dydd
· os na allwn ddychmygu gweld y lleuad wen neu fachlud a gwawr yr haul wrth i hwn gwato ar y gorwel pell (PERSONOLI)
· ac os na allwn weld y bryniau, am fod y niwl wedi eu gwisgo (PERSONOLI) mewn llwydni, neu weld brigau’r llwyn am fod yr eira wedi pluo drostynt a’u hoeri (PERSONOLI)
· neu os na allwn werthfawrogi harddwch y blodau trist sy’n hongian eu hwynebau wrth grio dagrau’r glaw (PERSONOLI),
mae gan y bardd ateb a defnyddia FERF ORCHMYNNOL i’n hannog a’n cyfarwyddo i ganfod yr ateb,
“rho bâr o sbecs dychymyg am dy drwyn”.
Y Chwechawd
GWRTHGYFERBYNIAD yw ail ran y gerdd sy’n fwy optimistaidd a gobeithiol. Mae’r bardd yn ein cyfarch yn bersonol trwy ddefnyddio’r RHAGENW SYML ANNIBYNNOL AIL BERSON UNIGOL – “Ti’n gweld”, a hefyd y RHAGENW BLAEN DIBYNNOL wrth ein galw yn “fy ffrind.” Teimlwn felly fod y bardd yn ein cyfarch ni’n bersonol wrth gynnig darn o gyngor i ni i’n galluogi i weld y byd yn ei gyfanrwydd ac mewn lliw.
Yng nghanol bwrlwm a phrysurdeb bywyd, weithiau mae’n anodd gweld yn iawn, a gallwn fod “yn ddall i ryfeddodau’r byd”. Dyma’r adeg i wisgo’r “Sbectol Hud” neu “Sbecs Dychymyg”. Trwy FERFAU GORCHMYNNOL UNIGOL “rho”, “gwisga”, “mentra”, anogir ni i newid ein dull o edrych ar y byd. Trwy newid ein ffordd o fyw, arafu ac ymddiried yn ein dychymyg, gallwn weld “holl liwiau’r enfys” a blasu holl ryfeddodau’r greadigaeth. A byw mewn lliw!
Mesur y gerdd ac addasrwydd y mesur
Soned
Yn aml mae yna newid cyfeiriad mewn soned, rhwng yr wythawd a’r chwechawd. Mae newid cyfeiriad amlwg yn y soned hon yn ogystal, sef y gwahaniaeth rhwng diflastod yr wythawd a gobaith y chwechawd. Er mai yr un rhythm a glywir drwy’r gerdd i gyd, erbyn y diwedd, mae’r rhythm fel petai’n rhoi cysur a sicrwydd i ni, yn union fel y mae dychymyg yn gallu rhoi sicrwydd i berson. Mae defnydd y bardd o odl yn allweddol er enghraifft mae’n odli byd a hud, sy’n cyfleu maint yr hudoliaeth iddi, ei bod yn gallu newid y cyfan drwy gael ychydig bach o hudoliaeth y dychymyg.