Neges a Themâu
Beth yw neges y bardd yn 'Rhaid peidio dawnsio . . .' ?
Ceir y teimlad fod Emyr Lewis yn beirniadu gwladwriaeth sy’n gwylio ei phobl yn feunyddiol ac sy’n ceisio rheoli popeth. Yn y gerdd hon, ymateb yn goeglyd i’r rhwystrau hynny sydd o fewn cymdeithas a wna Emyr Lewis a chaiff yr ergyd gyntaf ei roi yn nheitl y gerdd ‘Rhaid peidio dawnsio ...’ Gweithred ysgafn droed, fywiog a byrlymus yw dawnsio sy’n cyfleu hapusrwydd a rhyddid bywyd ond os caiff y wladwriaeth ei ffordd, yna ni fydd gan y bobl yn y gerdd yr hawl i wneud hynny hyd yn oed!
Themâu'r gerdd
Mae themâu megis diffyg rhyddid a chaethiwed yn rhedeg drwy'r gerdd. Gwelwn rhain wrth i Emyr Lewis ddisgrifio'r rheolau di-ri a rhyfedd sy'n ymwneud â dawnsio.
Ond, ar ddiwedd y gerdd, gwelir y thema rhyddid wrth i drigolion y ddinas freuddwydio am gymryd mantais o'r rhyddid sydd yn cael ei gynnig gan fyd natur yn rhewi a gorchuddio'r camerâu fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn nawns 'y sodlau noethion.' Mae'r cyferbyniad rhwng y ddelwedd hon a chaethiwed
gorfod gwisgo 'sgidiau coch' yn pwysleisio hyn.
Wrth drafod y gerdd, dyma rai themâu y dylet ti eu hystyried...
rhyddid a chaethiwed
amser
breuddwydio
hawliau dynol
y byd modern
rheolau a chyfyngiadau