Mae’r Ysgol Rithiol yn cefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal Powys yn union yr un ffordd, boed yn y sir neu y tu allan iddi. Rydym ni’n gweithio â lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau ac athrawon dynodedig yn yr awdurdod lleol y cafodd y plentyn ei leoli ynddo. Rydym ni’n gweithio ochr yn ochr â’r awdurdodau lleol eraill os fydd anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu dynodi, neu os oes angen ceisio cael darpariaeth arbenigol.
Plant o Awdurdodau Lleol Eraill (COLA)
Mae awdurdodau lleol eraill yn hysbysu’r Ysgol Rithiol os ydyn nhw’n gosod plentyn mewn gofal ym Mhowys. Gall yr Ysgol Rithiol gefnogi drwy gyfeirio’r awdurdod lleol a darparu gwybodaeth am ddarpariaeth sydd ar gael oddi fewn i Bowys.